{"id":6974,"date":"2019-09-19T18:47:47","date_gmt":"2019-09-19T17:47:47","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6974"},"modified":"2019-09-19T18:47:47","modified_gmt":"2019-09-19T17:47:47","slug":"prentisiaethaun-trawsnewid-cwmni-diodydd-llwyddiannus-o-bowys","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethaun-trawsnewid-cwmni-diodydd-llwyddiannus-o-bowys\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau\u2019n trawsnewid cwmni diodydd llwyddiannus o Bowys"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprenticeships-transform-award-winning-powys-drinks-business\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethaun-trawsnewid-cwmni-diodydd-llwyddiannus-o-bowys\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_6975\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/Radnor-Hills-9-e1568887017699.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6975\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/Radnor-Hills-9-e1568887017699.jpg\" alt=\"Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills, William Watkins; y Rheolwr Cyffredinol, Dave Pope; Pennaeth Uned Busnes Bwyd a Diod Hyfforddiant Cambrian, Chris Jones, a rhai o\u2019r prentisiaid.\" width=\"460\" height=\"376\" class=\"size-full wp-image-6975\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6975\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills, William Watkins; y Rheolwr Cyffredinol, Dave Pope; Pennaeth Uned Busnes Bwyd a Diod Hyfforddiant Cambrian, Chris Jones, a rhai o\u2019r prentisiaid.<\/p><\/div>\n<p>Mae dyfodiad prentisiaid i gwmni d\u0175r ffynnon a diodydd meddal Radnor Hills o Bowys yn 2017 wedi cael \u201ceffaith wirioneddol drawsnewidiol\u201d ar y gweithwyr a thwf y busnes.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni, sy\u2019n cyflogi 181 o bobl yn Heartsease, ger Trefyclo, wedi gweld twf o 20 y cant yn y busnes yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn cynnwys y flwyddyn orau hyd yma yn 2018. <\/p>\n<p>I gydnabod buddsoddiad llwyddiannus y cwmni mewn prentisiaethau, mae Radnor Hills wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru fis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae gan Radnor Hills 53 o brentisiaid mewn gwahanol rannau o\u2019r busnes, yn gweithio at gymwysterau mewn bwyd, arwain t\u00eem, ac arwain a rheoli. Caiff y prentisiaethau, o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch, eu cyflenwi gan y darparwr dysgu, Hyfforddiant Cambrian. Coleg Henffordd sy\u2019n cyflenwi cymwysterau mewn peirianneg.<\/p>\n<p>Am gyfnod prawf y cyflwynwyd y prentisiaethau i ddechrau ond yn fuan iawn daethant yn elfen barhaol wrth i\u2019r cwmni weld y lles yr oeddent yn ei wneud i&#8217;r staff ac i berfformiad y busnes. Erbyn hyn maent yn ganolog i\u2019r busnes ac mae pob gweithiwr newydd yn cael cynnig cyfleoedd am brentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae dau aelod o\u2019r staff yn dangos manteision personol prentisiaethau a\u2019r manteision i\u2019r busnes. Sicrhaodd Ben Price achrediad ISO14001 i system effeithiol y cwmni ar gyfer rheoli amgylcheddol, gan arwain at gyfleoedd gwerthiant newydd. Fel gwobr am ei lwyddiant, cafodd Ben ei ddyrchafu\u2019n Gydlynydd Amgylcheddol.  <\/p>\n<p>Llwyddodd un o\u2019r rheolwyr, Paul Whiffen a fu\u2019n gweithio i Radnor Hills ers 10 mlynedd ac sy\u2019n gyfrifol am gyllideb o \u00a34 miliwn, i ddyblu cynnyrch ei adran yn y flwyddyn ddiwethaf. <\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau wedi cael effaith wirioneddol drawsnewidiol ar ein gweithwyr ac ar dwf y busnes,\u201d meddai\u2019r Rheolwr Cyffredinol, Dave Pope. \u201cMaen nhw\u2019n rhoi cyfle i\u2019r holl weithwyr gymryd rhan yn natblygiad y busnes a syniadau newydd. Mae hynny\u2019n gwneud iddyn nhw deimlo\u2019n rhan o\u2019n cynlluniau ni.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Chris Jones, Pennaeth Uned Fusnes Bwyd a Diod Hyfforddiant Cambrian: \u201cWelais i erioed o\u2019r blaen gwmni \u00e2&#8217;r fath ymrwymiad i ddysgu, mor fuan ar \u00f4l dechrau cynnig prentisiaethau. Mae\u2019n hyfryd gweld y manteision i Radnor Hills a\u2019u gweithwyr.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Radnor Hills a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae dyfodiad prentisiaid i gwmni d\u0175r ffynnon a diodydd meddal Radnor Hills o Bowys yn 2017 wedi cael \u201ceffaith wirioneddol drawsnewidiol\u201d ar y gweithwyr a thwf y busnes. Mae\u2019r cwmni, sy\u2019n cyflogi 181 o bobl yn Heartsease, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethaun-trawsnewid-cwmni-diodydd-llwyddiannus-o-bowys\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6974","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6974","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6974"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6974\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6974"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6974"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6974"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}