{"id":6984,"date":"2019-09-19T18:50:00","date_gmt":"2019-09-19T17:50:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6984"},"modified":"2019-09-19T18:50:00","modified_gmt":"2019-09-19T17:50:00","slug":"gobaith-am-wobr-i-cheradine-syn-gwerthfawrogi-cyfrifoldeb-gyda-grwp-pobl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-cheradine-syn-gwerthfawrogi-cyfrifoldeb-gyda-grwp-pobl\/","title":{"rendered":"Gobaith am Wobr i Cheradine sy\u2019n gwerthfawrogi cyfrifoldeb gyda Gr\u0175p Pobl"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/award-finalist-cheradine-relishing-responsibility-with-pobl-group\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-cheradine-syn-gwerthfawrogi-cyfrifoldeb-gyda-grwp-pobl\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11751\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/30.08.19-Cheradine-Jones-App-Awards-2-e1568383228468.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11751\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/30.08.19-Cheradine-Jones-App-Awards-2-e1568383228468.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-11751\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11751\" class=\"wp-caption-text\">Cheradine Jones sydd ar restr fer Doniau\u2019r Dyfodol.<\/p><\/div>\n<p>Mae un swydd yn ddigon anodd i\u2019r rhan fwyaf o bobl ond mae Cheradine Jones yn llwyddo i jyglo tair swydd gyda Gr\u0175p Pobl, mudiad nid-er-elw sy\u2019n landlord cymdeithasol cofrestredig ac sy\u2019n cynnig gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru a gorllewin Lloegr.<\/p>\n<p>Mae Cheradine yn jyglo\u2019i swyddi fel Cynorthwyydd Llywodraethiant a Swyddog Cynorthwyol Diogelu Data y Gr\u0175p gyda gwaith prosiect yn yr Adran Gyfleusterau. Mae Cheradine, sy\u2019n byw yn Rhydaman, yn 36 oed ac yn fam i ddau, wrth ei bodd \u00e2 her y gwaith, a hithau hefyd yn gwneud Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Cyfleusterau. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, cafodd ei hymroddiad i ddysgu a\u2019i chyfraniad at y busnes eu cydnabod gan ei bod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Bwriad y wobr newydd hon yw cydnabod prentis sydd \u2018wedi dangos cynnydd personol sylweddol\u2019 ac wedi rhoi \u2018hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad eu cyflogwr.\u2019<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae Cheradine yn cael ei hyfforddi\u2019n fewnol a gyda Choleg G\u0175yr Abertawe ar gyfer y brentisiaeth uwch a fydd yn rhoi iddi Ddiploma Lefel 4 mewn Arferion Rheoli Cyfleusterau sy\u2019n helpu\u2019r busnes i sicrhau ystad ddiogel, l\u00e2n, sy\u2019n cydymffurfio \u00e2\u2019r gyfraith ac yn addas at y diben, <\/p>\n<p>Mae\u2019n cael llwyddiant wrth gefnogi nifer o brosiectau yn cynnwys ailddatblygu Pencadlys Gr\u0175p Pobl, Exchange House, Abertawe, gweithredu arferion gweithio ystwyth ac arbed costau i\u2019r busnes. <\/p>\n<p>Yn ogystal, daeth yn arweinydd prosiect yn y t\u00eem llywodraethu, mae wedi datblygu gwybodaeth ddigidol ac wedi gwirfoddoli i gynrychioli\u2019r cwmni ar Dasglu Diogelu Data yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dywedodd Rheolwr Llywodraethiant Gr\u0175p Pobl, Gillian Owen: \u201cMae Cheradine yn gymeriad pendant sydd \u00e2 deallusrwydd emosiynol da ac sy\u2019n wych am gyfathrebu. Mae ei phersonoliaeth yn disgleirio, mae\u2019n egn\u00efol, yn ei hysgogi ei hunan ac eraill ac yn hybu perfformiad y sefydliad.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Cheradine: \u201cRwy\u2019n teimlo\u2019m freintiedig ac yn gyffrous o gael fy enwebu ar gyfer Gwobr Doniau\u2019r Dyfodol. Mae Coleg G\u0175yr Abertawe wedi bod yn eithriadol o hyblyg. Byddai\u2019r hyfforddwr Rheoli Cyfleusterau, Alan Robbins, yn dod i mewn yn gynnar yn y bore i gyflwyno modiwl gan fod hynny&#8217;n gyfleus i fy nhrefniadau gofal plant.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Cheradine a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae un swydd yn ddigon anodd i\u2019r rhan fwyaf o bobl ond mae Cheradine Jones yn llwyddo i jyglo tair swydd gyda Gr\u0175p Pobl, mudiad nid-er-elw sy\u2019n landlord cymdeithasol cofrestredig ac sy\u2019n cynnig gwasanaethau gofal a chymorth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-cheradine-syn-gwerthfawrogi-cyfrifoldeb-gyda-grwp-pobl\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6984","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6984","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6984"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6984\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6984"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6984"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6984"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}