{"id":6988,"date":"2019-09-19T12:45:37","date_gmt":"2019-09-19T11:45:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6988"},"modified":"2022-09-13T10:45:13","modified_gmt":"2022-09-13T09:45:13","slug":"tad-cun-ysbrydoli-prentis-yn-y-dreftadaeth-ddiwylliannol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tad-cun-ysbrydoli-prentis-yn-y-dreftadaeth-ddiwylliannol\/","title":{"rendered":"Tad-cu\u2019n ysbrydoli prentis yn y dreftadaeth ddiwylliannol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cultural-heritage-apprentice-inspired-by-her-late-grandfather\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tad-cun-ysbrydoli-prentis-yn-y-dreftadaeth-ddiwylliannol\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11756\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/14.08.19-mh-App-Awards-Esta-Lewis-15-e1568383787824.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11756\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/14.08.19-mh-App-Awards-Esta-Lewis-15-e1568383787824.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"299\" class=\"size-full wp-image-11756\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11756\" class=\"wp-caption-text\">Esta Lewis, sydd ar restr fer Doniau\u2019r Dyfodol, gyda Rheolwr Gweithrediadau\u2019r Gwasanaethau Treftadaeth, Sara Maggs.<\/p><\/div>\n<p>Mae amgueddfeydd llwyddiannus yn gwneud dysgu\u2019n hwyl, ac mae Esta Lewis yn ymgorfforiad o hwyl. <\/p>\n<p>Ysbrydolwyd Esta gan ei diweddar dad-cu ac mae\u2019n credu\u2019n angerddol mewn sicrhau bod hanes ar gael i bawb. Esta yw Prentis cyntaf Gwaith Treftadaeth Allanol Rhondda Cynon Taf ac mae\u2019n creu ac yn cefnogi cyfleoedd i addysgu fel rhan o wasanaeth treftadaeth yr awdurdod. <\/p>\n<p>Mae\u2019n gwneud Prentisiaeth mewn Treftadaeth Ddiwylliannol gyda\u2019r darparwr hyfforddiant Coleg Caerdydd ar Fro, ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliant blynyddol o ragoriaeth mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Bwriad y wobr newydd hon yw cydnabod prentis sydd \u2018wedi dangos cynnydd personol sylweddol\u2019 ac wedi rhoi \u2018hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad eu cyflogwr.\u2019<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae Esta\u2019n 22 oed, yn dod o Hirwaun ac wedi graddio mewn hanes o Brifysgol Abertawe ac, o fewn blwyddyn ar \u00f4l dechrau yn y gwaith, mae\u2019n rhedeg ac yn datblygu gweithdai ar gyfer Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Hi yw\u2019r pwynt cyswllt cyntaf ac mae\u2019n helpu i gynllunio ymweliadau ac yn eu gwerthuso wedyn. <\/p>\n<p>Cafodd Esta hyfforddiant Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth a bu ei phrofiad hi ei hunan o ddyslecsia yn help mawr wrth sicrhau bod y cynllun yn ystyried pob dull o ddysgu. Wrth iddi ddatblygu gweithdai i ysgolion, cafwyd mwy o incwm i\u2019r cynllun gan gyfrannu\u2019n uniongyrchol at wneud Taith Pyllau Glo Cymru a\u2019r gwasanaeth treftadaeth ehangach yn fwy cynaliadwy.<\/p>\n<p>Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau\u2019r Gwasanaethau Treftadaeth, Sara Maggs: \u201cOherwydd llwyddiant Esta gydag ymweliadau ysgolion a\u2019r ymateb ffafriol sydd iddynt, rydym wedi ennill Gwobr Sandford am y tro cyntaf, sef cynllun sicrwydd ansawdd ar gyfer rhaglenni addysg treftadaeth.<\/p>\n<p>\u201cOherwydd proffesiynoldeb a medrusrwydd Esta a\u2019i brwdfrydedd i ddysgu a meithrin sgiliau a gwybodaeth, dylai fynd yn bell.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Esta: \u201cCefais fy ysbrydoli gan fy niweddar dad-cu, Malcolm \u2018Chick\u2019 Chambers, gl\u00f6wr yn y Rhondda, ac rwy wrth fy modd fy mod i\u2019n gallu dod \u00e2 hanes yr ardal yn fyw i blant ysgol. Mae mor bwysig eu bod yn dysgu am eu treftadaeth.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Esta a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae amgueddfeydd llwyddiannus yn gwneud dysgu\u2019n hwyl, ac mae Esta Lewis yn ymgorfforiad o hwyl. Ysbrydolwyd Esta gan ei diweddar dad-cu ac mae\u2019n credu\u2019n angerddol mewn sicrhau bod hanes ar gael i bawb. Esta yw Prentis cyntaf &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tad-cun-ysbrydoli-prentis-yn-y-dreftadaeth-ddiwylliannol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-6988","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6988","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6988"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6988\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8787,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6988\/revisions\/8787"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6988"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6988"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6988"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}