{"id":7002,"date":"2019-09-25T19:01:39","date_gmt":"2019-09-25T18:01:39","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7002"},"modified":"2019-09-25T19:01:39","modified_gmt":"2019-09-25T18:01:39","slug":"hyfforddeiaeth-yn-hwb-i-hyder-molly-sydd-ai-llygaid-ar-yrfan-trin-gwallt","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/hyfforddeiaeth-yn-hwb-i-hyder-molly-sydd-ai-llygaid-ar-yrfan-trin-gwallt\/","title":{"rendered":"Hyfforddeiaeth yn hwb i hyder Molly sydd \u00e2\u2019i llygaid ar yrfa\u2019n trin gwallt"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/traineeship-boosts-mollys-confidence-as-she-eyes-hairdressing-career\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/hyfforddeiaeth-yn-hwb-i-hyder-molly-sydd-ai-llygaid-ar-yrfan-trin-gwallt\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11857\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/22.08.19-mh-App-Awards-Molly-Jones-6-e1569434190653.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11857\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/22.08.19-mh-App-Awards-Molly-Jones-6-e1569434190653.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"275\" class=\"size-full wp-image-11857\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11857\" class=\"wp-caption-text\">Molly Jones \u2013 Bu\u2019r Hyfforddeiaeth yn help i roi hwb i\u2019w hyder.<\/p><\/div>\n<p>Mae ei diddordeb mewn trin gwallt wedi arwain at swydd dri diwrnod yr wythnos i Molly Jones, 17 oed, yn yr Hello Gorgeous Hair Salon ym Mhen-arth ac mae\u2019n gobeithio y bydd hynny\u2019n datblygu\u2019n Brentisiaeth Sylfaen.<\/p>\n<p>Mae\u2019r swydd ran amser yn gam mawr i Molly a fu\u2019n dioddef o Syndrom Lludded Cronig a gorbryder. Oherwydd hynny, gadawodd addysg prif lif ym Mlwyddyn 8 pan na allai adael y t\u0177 heb ei mam.  <\/p>\n<p>Cafodd wersi y tu allan i\u2019r ysgol ond ni lwyddodd i wneud ei arholiadau TGAU. Ar \u00f4l iddi ymuno \u00e2 Rhaglen \u2018T\u00eem\u2019 Ymddiriedolaeth y Tywysog trwy\u2019r darparwr hyfforddiant People Business Wales, dechreuodd ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu, gan wneud ffrindiau a dod yn fwy hyderus.<\/p>\n<p>Llwyddodd i gwblhau rhaglen 12 wythnos T\u00eem a symud ymlaen i Ymgysylltu Cyflogadwyedd lle llwyddod i gael Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif a Lefel 1 mewn Sgiliau TG.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cael hwb i\u2019w hyder, mae Molly, o Ben-arth, yn gobeitho cael gyrfa\u2019n trin gwallt. \u201cRwy wedi bod \u00e2 diddordeb mawr mewn trin gwallt erioed ond doeddwn i ddim yn credu y cawn ni\u2019r cyfle i wneud dim amdano. Felly, rwy\u2019n edrych ymlaen yn fawr iawn at y swydd a\u2019r cyfle i fod yn brentis yno,&#8221; meddai. <\/p>\n<p>\u201cRoedd cychwyn yn rhywle newydd yn gam mawr i mi ond rwy\u2019n teimlo\u2019n hyderus.\u201d<\/p>\n<p>I gydnabod ei datblygiad, mae Molly wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019i Hyfforddeiaeth, mwynhaodd Molly leoliad gwaith yn Let Them See Cake yng Nghaerdydd. Bu hwnnw o gymorth mawr i hybu ei hyder ac ennyn ei diddordeb mewn pobi ac addurno cacennau.<\/p>\n<p>\u201cRwy am ddal ati i wneud cacennau ar gyfer ffrindiau a pherthnasau \u2013 fel hobi yn hytrach na fel gyrfa,\u201d meddai Molly.<\/p>\n<p>Dywedodd Rheolwr Canolfan People Business Wales, Caroline Morris-Hills: \u201cDydi Molly ddim yn gadael i\u2019w gorbryder ei rheoli bellach ac mae\u2019n benderfynol o wneud ei gorau glas.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Molly: \u201cRwy wedi goresgyn llawer o rwystrau. Mae fy Hyfforddeiaeth wedi fy helpu i fod y person ydw i heddiw. Rwy\u2019n teimlo fy mod yn edrych mewn ffordd aeddfetach ar bethau a fyddai wedi fy ngwneud yn bryderus o\u2019r blaen. \u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Molly a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae ei diddordeb mewn trin gwallt wedi arwain at swydd dri diwrnod yr wythnos i Molly Jones, 17 oed, yn yr Hello Gorgeous Hair Salon ym Mhen-arth ac mae\u2019n gobeithio y bydd hynny\u2019n datblygu\u2019n Brentisiaeth Sylfaen. Mae\u2019r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/hyfforddeiaeth-yn-hwb-i-hyder-molly-sydd-ai-llygaid-ar-yrfan-trin-gwallt\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7002","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7002","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7002"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7002\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7002"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7002"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7002"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}