{"id":7011,"date":"2019-10-15T17:26:56","date_gmt":"2019-10-15T16:26:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7011"},"modified":"2019-10-15T17:26:56","modified_gmt":"2019-10-15T16:26:56","slug":"kane-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-genedolaethol-diolch-iw-hyfforddeiaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kane-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-genedolaethol-diolch-iw-hyfforddeiaeth\/","title":{"rendered":"Kane ar y rhestr fer am wobr genedolaethol diolch i\u2019w Hyfforddeiaeth"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/kane-shortlisted-for-a-national-award-thanks-to-traineeship-programme\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kane-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-genedolaethol-diolch-iw-hyfforddeiaeth\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11867\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/22.08.19-mh-App-Awards-Kane-Laver-McMahon-1-e1569446921828.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11867\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/22.08.19-mh-App-Awards-Kane-Laver-McMahon-1-e1569446921828.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-11867\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11867\" class=\"wp-caption-text\">Kane Laver McMahon sydd ar y rhestr fer yn gweithio ar ei sioe yn Radio Bro.<\/p><\/div>\n<p>Diolch i\u2019w brofiad yn helpu ar gynllun cymunedol, profiad gwaith mewn archfarchnad a lleoliad gwaith ar orsaf radio, mae Kane Laver McMahon wedi datblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith t\u00eem.<\/p>\n<p>Roedd y bachgen 19 oed yn unig ac yn dioddef o orbryder ar \u00f4l i\u2019r teulu symud o Luton i\u2019r Barri. Ond bu rhaglen 12 wythnos gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog, wedi\u2019i rhedeg gan gorff hyfforddi o\u2019r Barri, People Business Wales, yn help i Kane oresgyn ei broblemau a gwella\u2019i sgiliau cyflogadwyedd.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Kane wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Cafodd Kane hwb i\u2019w hyder ar gynllun cymunedol i uwchgylchu hen ddodrefn er budd hosbis i blant ac yna ar leoliad gwaith yn Waitrose a arweiniodd at iddo gael cynnig swydd ddydd Sadwrn. <\/p>\n<p>Hefyd, trwy ei hoffter o gerddoriaeth, cafodd Kane leoliad gwaith gyda Radio Bro lle mae ganddo sioe radio ddwyawr bob wythnos erbyn hyn yn rhoi llwyfan i gerddorion newydd.<\/p>\n<p>Llwyddodd Kane i symud ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 gyda People Business Wales ac erbyn hyn mae\u2019n astudio ar gyfer Lefel 2 mewn Lletygarwch yng Ngholeg Caerdydd a\u2019r Fro.<\/p>\n<p>Dywedodd Rheolwr Canolfan People Business Wales, Caroline Morris-Hills: \u201cMae Kane wedi cofleidio pob cyfle a gafodd ac mae hyn wedi\u2019i helpu i adfer ei hyder. Mae ganddo le i ymfalch\u00efo yn yr hyn mae wedi\u2019i gyflawni.\u201d<\/p>\n<p>Ac meddai Kane: \u201cRwy wedi wynebu fy mhroblemau \u00e2 gorbryder a diffyg hyder ac wedi\u2019u goresgyn. Roedd symud o Luton yn anodd ond wrth ymuno \u00e2 People Business a gwneud fy Hyfforddeiaeth fe wnes i ffrindiau newydd ac fe ddaeth fy hyder yn \u00f4l.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Kane a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Diolch i\u2019w brofiad yn helpu ar gynllun cymunedol, profiad gwaith mewn archfarchnad a lleoliad gwaith ar orsaf radio, mae Kane Laver McMahon wedi datblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith t\u00eem. Roedd y bachgen 19 oed yn unig ac &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kane-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-genedolaethol-diolch-iw-hyfforddeiaeth\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7011","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7011","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7011"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7011\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7011"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7011"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7011"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}