{"id":7021,"date":"2019-10-02T15:04:01","date_gmt":"2019-10-02T14:04:01","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7021"},"modified":"2019-10-02T15:11:49","modified_gmt":"2019-10-02T14:11:49","slug":"ei-diweddar-wr-yn-ysbrydoli-lee-i-gwblhau-ei-phrentisiaeth-uwch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ei-diweddar-wr-yn-ysbrydoli-lee-i-gwblhau-ei-phrentisiaeth-uwch\/","title":{"rendered":"Ei diweddar \u0175r yn ysbrydoli Lee i gwblhau ei Phrentisiaeth Uwch"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/late-husband-inspires-lee-to-complete-higher-apprenticeship\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ei-diweddar-wr-yn-ysbrydoli-lee-i-gwblhau-ei-phrentisiaeth-uwch     \">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7048\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/Lee-e1570025466853.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7048\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/Lee-e1570025466853.jpeg\" alt=\"Lee Price gyda\u2019i chydweithiwr Nigel Hicks, Goruchwyliwr yn Nepo Rhaeadr Gwy, Cyngor Sir Powys, a\u2019r Swyddog Hyfforddiant, Jay Syrett-Judd o Hyfforddiant Cambrian. Lee Price \u2013 \u201cllysgennad brwd dros brentisiaethau\u201d.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-7048\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7048\" class=\"wp-caption-text\">Lee Price gyda\u2019i chydweithiwr Nigel Hicks, Goruchwyliwr yn Nepo Rhaeadr Gwy, Cyngor Sir Powys, a\u2019r Swyddog Hyfforddiant, Jay Syrett-Judd o Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Lee Price \u2013 \u201cllysgennad brwd dros brentisiaethau\u201d.<\/p><\/div>\n<p>Dim ond mis ar \u00f4l iddi gychwyn ar ei Phrentisiaeth Uwch, roedd rhaid i Lee Price ymdopi \u00e2 marwolaeth Rob, ei g\u0175r ers 36 o flynyddoedd. <\/p>\n<p>Cafodd anogaeth a chefnogaeth i barhau \u00e2\u2019r hyfforddiant gan ei chydweithwyr, ei chyflogwr, ei darparwr hyfforddiant a\u2019i theulu a llwyddodd i gwblhau\u2019r cymhwyster naw mis yn gynnar er eu bod yn brin o staff yn y gwaith. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae Lee ar y rhestr fer i ennill Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref. <\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). <\/p>\n<p>\u201cRoedd colli fy ng\u0175r yn dorcalonnus ac roedd yn anodd i mi ddod i\u2019r gwaith weithiau,\u201d meddai Lee, 59 oed, sy\u2019n byw yn Rhaeadr Gwy. \u201cOnd ro\u2019n i\u2019n cadw i fynd trwy\u2019r adegau anoddaf achos ei fod e mor gefnogol i\u2019r hyn roeddwn i\u2019n ei wneud a\u2019i fod mor falch mod i\u2019n fy ngwthio fy hunan i ennill cymwysterau newydd. Rhoddodd hynny nod newydd a phwrpas newydd mewn bywyd i mi.\u201d <\/p>\n<p>A hithau\u2019n Uwch Swyddog Ansawdd a Safonau Amgylcheddol Cyngor Sir Powys, mae\u2019n cydweithio&#8217;n agos \u00e2 th\u00eem gwastraff ac ailgylchu&#8217;r sir a th\u00eem trosglwyddo gwastraff Ceredigion, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau&#8217;n rhedeg yn esmwyth ac yn gweithredu&#8217;n ddiogel ac yn gyfreithlon. <\/p>\n<p>Cwblhaodd ei Phrentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau trwy\u2019r darparwr dysgu Hyfforddiant Cambrian ar \u00f4l cwblhau cymwysterau ILM Lefel 5 Arwain a Rheoli, Rheoli\u2019n Ddiogel IOSH, a Chynllun Hyfforddi Rheoli Safleoedd yn Ddiogel gan y CITB. <\/p>\n<p>Yn ogystal, hi oedd yr Archwilydd Arweiniol wrth gyrraedd safonau ISO 9001, ISO 14001 a BS OHSAS 18001. <\/p>\n<p>\u201cMae cwblhau\u2019r Brentisiaeth Uwch wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder a\u2019m hunan-gred ac wedi dysgu llawer i mi am y diwydiant ailgylchu fel y gallaf wneud fy ngwaith yn fwy hyderus,\u201d meddai Lee, sy\u2019n awyddus i barhau i ddysgu.  <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n llysgennad brwd dros brentisiaethau ac yn eu gallu i wella\u2019ch gwybodaeth, eich medrusrwydd, eich sgiliau a\u2019ch golwg ar fywyd. \u201d <\/p>\n<p>Bu Ian Harris, sydd newydd ymddeol fel Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaethau Ailgylchu a Chasglu Gwastraff Cyngor Sir Powys, yn cydweithio \u00e2 Lee tra oedd yn dilyn yr hyfforddiant ac roedd yn llawn canmoliaeth iddi am gwblhau ei chymhwyster naw mis yn gynnar.  <\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.  <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u202f\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dim ond mis ar \u00f4l iddi gychwyn ar ei Phrentisiaeth Uwch, roedd rhaid i Lee Price ymdopi \u00e2 marwolaeth Rob, ei g\u0175r ers 36 o flynyddoedd. Cafodd anogaeth a chefnogaeth i barhau \u00e2\u2019r hyfforddiant gan ei chydweithwyr, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ei-diweddar-wr-yn-ysbrydoli-lee-i-gwblhau-ei-phrentisiaeth-uwch\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7021","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7021","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7021"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7021\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7021"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7021"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7021"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}