{"id":7032,"date":"2019-10-02T12:37:46","date_gmt":"2019-10-02T11:37:46","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7032"},"modified":"2019-10-02T12:37:46","modified_gmt":"2019-10-02T11:37:46","slug":"lara-wedi-datblygun-gyflym-ym-myd-dysgu-seiliedig-ar-waith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lara-wedi-datblygun-gyflym-ym-myd-dysgu-seiliedig-ar-waith\/","title":{"rendered":"Lara wedi datblygu\u2019n gyflym ym myd dysgu seiliedig ar waith"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/award-finalist-laras-rapid-rise-to-excellence-in-work-based-learning\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lara-wedi-datblygun-gyflym-ym-myd-dysgu-seiliedig-ar-waith\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7033\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/lara-e1570016200193.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7033\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/lara-e1570016200193.jpeg\" alt=\"Lara Baldwin \u2013 \u201caddewid i chi\u2019n hunan i ddal ati trwy\u2019ch oes yw dysgu\u201d. \" width=\"460\" height=\"306\" class=\"size-full wp-image-7033\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7033\" class=\"wp-caption-text\">Lara Baldwin \u2013 \u201caddewid i chi\u2019n hunan i ddal ati trwy\u2019ch oes yw dysgu\u201d.<\/p><\/div>\n<p>Mewn dim ond tair blynedd, mae Lara Baldwin wedi datblygu o fod yn hyfforddai i fod yn asesydd uchel ei pharch \u00e2 dros 40 o ddysgwyr yn ei gofal. <\/p>\n<p>Ym maes gofal plant y mae cefndir Lara, 30 oed, ac mae wedi trosglwyddo cyfoeth o wybodaeth a phrofiad i fyd dysgu seiliedig ar waith gydag un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru, ACT Limited.   <\/p>\n<p>Mae Lara, sy\u2019n gweithio yng nghanolfan ACT yn Ocean Park House, Caerdydd, yn cyflwyno Prentisiaethau Lefel 2, 3 a 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (GDDP) a chymwysterau Gwaith Chwarae i bobl o wahanol oedrannau ac ar wahanol lefelau mewn meithrinfeydd a chylchoedd chwarae. <\/p>\n<p>Cychwynnodd Lara ar ei gyrfa yn fuan ar \u00f4l gadael yr ysgol ac mae wedi ennill Gradd Anrhydedd BA mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac, yn fuan wedyn, Radd Meistr mewn Addysg. Tra oedd yn gweithio mewn meithrinfa, cwblhaodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gofal Plant i\u2019w helpu i ddeall a chefnogi\u2019r staff yr oedd yn eu mentora.  <\/p>\n<p>Mae gwaith a datblygiad personol Lara\u2019n cael eu cydnabod yn awr a hithau ar restr fer Gwobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref. <\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). <\/p>\n<p>\u201cMae Lara\u2019n ymroi yn llwyr i wella\u2019i gwybodaeth a\u2019i sgiliau er mwyn rhoi\u2019r hyfforddiant gorau posibl i\u2019w dysgwyr,\u201d meddai Helen Clarke, Rheolwr y Llwybr Plant a Phobl Ifanc, Gwaith Chwarae a GDDP gydag ACT Limited. <\/p>\n<p>Mae Lara wedi cyrraedd safonau ardderchog ac mae\u2019n rhagori\u2019n gyson ar dargedau \u2018rhagorol\u2019 y cwmni ar gyfer aseswyr, sy\u2019n golygu bod dros 90% o\u2019i dysgwyr yn cwblhau eu cymhwyster. <\/p>\n<p>\u201cEr mai ers cyfnod byr rwy\u2019n asesydd o\u2019i gymharu \u00e2 rhai, rwy wir yn teimlo mai dyma\u2019r lle i mi,\u201d meddai Lara. \u201cRwy wrth fy modd yn gweld eraill yn herio&#8217;u hunain ac yn datblygu gan lwyddo mewn ffordd nad oedden nhw&#8217;n credu y byddai\u2019n bosibl. Mae gwylio dysgwyr yn rhagori ar eu disgwyliadau yn fy ngwneud i\u2019n hapus iawn yn fy swydd. <\/p>\n<p>\u201cNid profiad unwaith-am-byth yw dysgu i mi ond addewid i ni\u2019n hunain i ddal ati i ehangu ein meddwl ac i ymdrechu i wneud ein gorau glas trwy\u2019n hoes.\u201d <\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lara a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.  <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mewn dim ond tair blynedd, mae Lara Baldwin wedi datblygu o fod yn hyfforddai i fod yn asesydd uchel ei pharch \u00e2 dros 40 o ddysgwyr yn ei gofal. Ym maes gofal plant y mae cefndir Lara, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lara-wedi-datblygun-gyflym-ym-myd-dysgu-seiliedig-ar-waith\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7032","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7032","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7032"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7032\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7032"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7032"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7032"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}