{"id":7036,"date":"2019-10-02T13:02:14","date_gmt":"2019-10-02T12:02:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7036"},"modified":"2022-09-13T10:45:02","modified_gmt":"2022-09-13T09:45:02","slug":"gobaith-am-wobr-i-melissa-syn-annog-ei-dysgwyr-i-anelun-uchel","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-melissa-syn-annog-ei-dysgwyr-i-anelun-uchel\/","title":{"rendered":"Gobaith am wobr i Melissa sy\u2019n annog ei dysgwyr i anelu\u2019n uchel"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/award-finalist-melissa-takes-learners-out-of-their-comfort-zones\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-melissa-syn-annog-ei-dysgwyr-i-anelun-uchel\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7037\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/melissa-e1570017714456.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7037\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/melissa-e1570017714456.jpeg\" alt=\"Melissa O\u2019Connor \u2013 yn annog dysgwyr i anelu\u2019n uchel. \" width=\"460\" height=\"689\" class=\"size-full wp-image-7037\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7037\" class=\"wp-caption-text\">Melissa O\u2019Connor \u2013 yn annog dysgwyr i anelu\u2019n uchel.<\/p><\/div>\n<p>Mae polisi o annog dysgwyr i beidio \u00e2 bodloni ar y cyfarwydd yn talu ar ei ganfed i Melissa O\u2019Connor, o gwmni hyfforddi Portal, Caerdydd, sy\u2019n dal i arwain trwy esiampl. <\/p>\n<p>Mae Melissa, a fu\u2019n ddarlithydd addysg uwch, yn annog dysgwyr sy\u2019n dilyn Prentisiaeth Uwch mewn Arwain a Rheoli mewn nifer o wahanol sectorau i anelu\u2019n uchel trwy ymgeisio am ddyrchafiad tra byddant yn dal yn dilyn eu hyfforddiant. <\/p>\n<p>Mae wedi golygu bod llawer wedi dringo ysgol gyrfa\u2019n gynt na\u2019r disgwyl, gyda phedwar allan o chwech yn un o\u2019i sefydliadau yn cyrraedd swyddi uchel\/cael dyrchafiad o fewn 12 mis i ddechrau ar eu cyrsiau. <\/p>\n<p>Mae gwaith a datblygiad personol Melissa\u2019n cael eu cydnabod yn awr a hithau ar restr fer Gwobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref. <\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). <\/p>\n<p>Cyn ymuno \u00e2 Portal ym mis Hydref 2017, cafodd Melissa fwynhau 12 mlynedd yn y sectorau addysg bellach ac addysg uwch, gan ddysgu cymwysterau\u2019n amrywio o TGAU Lefel 2 i Radd Anrhydedd BSc Lefel 6. <\/p>\n<p>Yn ei swydd fel Asesydd Rheolaeth gyda\u2019r ILM, mae Melissa\u2019n gwneud ei gwaith cyflenwi ac asesu mewn ffordd hyblyg a gall fod yn cefnogi ac yn arwain hyd at 37 o ddysgwyr ar y tro. <\/p>\n<p>\u201cMae Melissa\u2019n cynnig cefnogaeth ardderchog i\u2019w dysgwyr, gan weithio\u2019n ddiflino i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial ac yn datblygu\u2019n arweinwyr ac yn rheolwyr medrus,\u201d meddai Clare Jeffries, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Portal. <\/p>\n<p>Cynaliadwyedd busnesau, marchnata ac arferion myfyriol yw arbenigedd Melissa ac mae\u2019n credu\u2019n gryf mewn addysg gydol oes a dysgu seiliedig ar waith. Ymhlith ei chymwysterau hi mae TAR mewn Addysg Oedolion a Dysgu Gydol Oes, MA mewn Addysg a chymhwyster Lefel 5 gan yr ILM mewn Arwain a Rheoli. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n cael llawer o fwynhad a boddhad o fod yn asesydd,\u201d meddai Melissa. \u201cRwy wrth fy modd yn gweld dysgwyr yn datblygu eu gyrfa broffesiynol ac rwy\u2019n mwynhau meithrin perthynas weithiol dda, gref gyda\u2019r dysgwyr a\u2019u mentoriaid yn y sefydliad. <\/p>\n<p>\u201cMae fy nghymwysterau wedi bod yn fuddiol iawn, gan ddatblygu fy ngwybodaeth a\u2019m dealltwriaeth ac mae hynny\u2019n fy ngwneud yn hyderus wrth gefnogi fy nysgwyr ar hyd eu taith.\u201d <\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Melissa a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae polisi o annog dysgwyr i beidio \u00e2 bodloni ar y cyfarwydd yn talu ar ei ganfed i Melissa O\u2019Connor, o gwmni hyfforddi Portal, Caerdydd, sy\u2019n dal i arwain trwy esiampl. Mae Melissa, a fu\u2019n ddarlithydd addysg &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-melissa-syn-annog-ei-dysgwyr-i-anelun-uchel\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7036","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7036","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7036"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7036\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8786,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7036\/revisions\/8786"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7036"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7036"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7036"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}