{"id":7039,"date":"2019-10-08T13:57:08","date_gmt":"2019-10-08T12:57:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7039"},"modified":"2019-10-08T13:57:08","modified_gmt":"2019-10-08T12:57:08","slug":"lynn-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-ar-ol-troi-anhawster-yn-fantais","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lynn-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-ar-ol-troi-anhawster-yn-fantais\/","title":{"rendered":"Lynn ar y rhestr fer am wobr ar \u00f4l troi anhawster yn fantais"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/award-shortlisting-for-lynn-who-turns-adversity-into-advantage\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lynn-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-ar-ol-troi-anhawster-yn-fantais\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7040\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/Lynn-e1570020336127.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7040\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/Lynn-e1570020336127.jpeg\" alt=\"Gwrthododd Lynn Matthews adael i ddyslecsia ei dal yn \u00f4l. \" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-7040\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7040\" class=\"wp-caption-text\">Gwrthododd Lynn Matthews adael i ddyslecsia ei dal yn \u00f4l.<\/p><\/div>\n<p>Mae Lynn Matthews yn gwybod mwy na\u2019r rhan fwyaf o bobl am y gefnogaeth y mae ar lawer o ddysgwyr ei hangen. <\/p>\n<p>Oherwydd dyslecsia, roedd Lynn yn cael anawsterau yn yr ysgol, ond gwrthododd ildio ac mae wedi sicrhau gyrfa lwyddiannus yn cynnig y math o arweiniad yr oedd hi\u2019n dyheu amdano bryd hynny. <\/p>\n<p>O Fangor y daw Lynn, sy&#8217;n 57 oed, yn wreiddiol ond mae&#8217;n byw yng Ngorseinon erbyn hyn a bu&#8217;n gweithio i PeoplePlus Cymru ers 2013, fel tiwtor-hyfforddwr i ddechrau ac, ers mis Medi 2018, fel y tiwtor arweiniol. Yn y ddwy swydd, bu\u2019n gweithio gyda rhwng 30 a 40 o ddysgwyr 16-19 oed ag anghenion dysgu amrywiol iawn.  <\/p>\n<p>Yn awr, mae Lynn wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref. <\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). <\/p>\n<p>Cafodd Lynn gyfle i loywi ei sgiliau ardderchog wrth ymwneud \u00e2 phobl gartref a thramor dros y blynyddoedd gyda nifer o swyddi yn y sectorau milwrol, cyhoeddus, preifat ac elusennol cyn ymuno \u00e2 PeoplePlus. <\/p>\n<p>Mae\u2019n credu\u2019n gryf mewn dysgu gydol oes ac, yn 2012, cwblhaodd ei chymhwysterau mewn Addysg a Hyfforddiant \u00d4l-orfodol (AHO) ac fel Ymarferwr Sgiliau Sylfaenol. Ar \u00f4l hynny, cwblhaodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad. <\/p>\n<p>Mae\u2019n gyfarwydd iawnn \u00e2 thechnegau dysgu modern ac yn chwilio am ffyrdd newydd o gyflenwi hyfforddiant sy\u2019n ateb anghenion amrywiol y dysgwyr yn eu dosbarth. <\/p>\n<p>\u201cMae Lynn wedi datblygu ystafelloedd dosbarth digidol lle gall dysgwyr ganfod y gwaith i&#8217;w wneud o bell, cyflwyno gwaith a derbyn ymateb iddo ar gyflymder addas iddyn nhw,&#8221; meddai Jihane Rodriguez, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata PeoplePlus Cymru.  <\/p>\n<p>Mae Lynn wedi gwahodd tiwtoriaid i weld a defnyddio&#8217;r adnoddau a ddatblygwyd ganddi. Yn ogystal, mae\u2019n arwain y gwaith o greu platfformau cydweithio ar-lein lle gallant weld, trafod a rhannu adnoddau a phrofiadau dysgu. <\/p>\n<p>\u201cDydi dyslecsia na diffyg gradd ddim wedi fy nal yn \u00f4l rhag cyrraedd fy nod mewn bywyd. Yn wir, roedd o gymorth achos doedd dim llwybr uniongyrchol wedi\u2019i osod o\u2019m blaen \u2013 yn lle hynny, fe ddysgais i bennu nod ac yna ddilyn llwybr y profiadau dysgu,\u201d meddai. <\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lynn a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.  <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Lynn Matthews yn gwybod mwy na\u2019r rhan fwyaf o bobl am y gefnogaeth y mae ar lawer o ddysgwyr ei hangen. Oherwydd dyslecsia, roedd Lynn yn cael anawsterau yn yr ysgol, ond gwrthododd ildio ac mae &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lynn-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-ar-ol-troi-anhawster-yn-fantais\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7039","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7039","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7039"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7039\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7039"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7039"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7039"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}