{"id":7051,"date":"2019-10-08T14:25:11","date_gmt":"2019-10-08T13:25:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7051"},"modified":"2019-10-08T14:25:11","modified_gmt":"2019-10-08T13:25:11","slug":"rachel-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-ar-ol-gwneud-gwelliannau-mawr-yn-ei-choleg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rachel-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-ar-ol-gwneud-gwelliannau-mawr-yn-ei-choleg\/","title":{"rendered":"Rachel ar y rhestr fer am wobr ar \u00f4l gwneud gwelliannau mawr yn ei choleg"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/national-award-finalist-rachel-is-college-game-changer\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rachel-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-ar-ol-gwneud-gwelliannau-mawr-yn-ei-choleg\">Cymraeg<\/a> <\/p>\n<div id=\"attachment_7052\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/rachel-e1570093683980.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7052\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/rachel-e1570093683980.jpeg\" alt=\"Rachel Lewis - yn frwd o blaid dysgu gydol oes. \" width=\"460\" height=\"292\" class=\"size-full wp-image-7052\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7052\" class=\"wp-caption-text\">Rachel Lewis &#8211; yn frwd o blaid dysgu gydol oes.<\/p><\/div>\n<p>Mae Rachel Lewis yn cael y prif glod am wella gwaith cyflenwi cymwysterau sgiliau hanfodol yn Uned Brentisiaethau Coleg Pen-y-bont dros y ddwy flynedd ddiwethaf. <\/p>\n<p>A hithau\u2019n awyddus iawn i barhau \u00e2\u2019i datblygiad proffesiynol, dywed Rachel mai ei chefndir ym myd gofal sy\u2019n ei helpu i fynd yr ail filltir a thynnu\u2019r gorau o\u2019r cannoedd o brentisiaid y mae wedi\u2019u cymryd o dan ei hadain. <\/p>\n<p>Mae Rachel wedi meithrin pob math o ddysgwyr, o Brentisiaid Sylfaen ag anghenion dysgu penodol i brentisiaid sy\u2019n uwch-arweinwyr gyda chwmn\u00efau fel Tata Steel a llwyddodd 90% o\u2019i dysgwyr i gwblhau eu cymhwyster yn 2017-18.  <\/p>\n<p>Trwy weithio mewn ffordd hyblyg, gall ymwneud yn llwyddiannus \u00e2\u2019r gwahanol garfannau o brentisiaid ac, yn bwysig iawn, \u00e2\u2019u cyflogwyr hefyd.  <\/p>\n<p>Yn awr, cafodd gwaith Rachel ei gydnabod gan iddi gyrraedd rhestr fer Gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref. <\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). <\/p>\n<p>\u201cMae Rachel yn gweithio\u2019n fanwl ac yn ddiflino ac mae\u2019n benderfynol o sicrhau bod yr holl brentisiaid yn gwella\u2019u sgiliau ac yn ennill eu cymwysterau,\u201d meddai Matt Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg Pen-y-bont. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r llwybr a gymerodd Rachel, sy\u2019n 33 oed, i ddod yn diwtor uchel ei pharch yn enghraifft o\u2019r ffordd y gall dysgu seiliedig ar waith ysbrydoli ac annog rhywun i ddilyn gyrfa newydd. <\/p>\n<p>Mae datblygiad Rachel ei hunan yn esiampl ar gyfer ei gwaith gydag eraill. Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae wedi sicrhau\u2019r cymwysterau hyn: Dyfarniad Asesu TAQA L3, IQA TAQA L4, Tystysgrif Addysg I Raddedigion (TAR), Llythrennedd Digidol Lefel 2 ac Ymarferwr Llythrennedd Digidol Lefel 3. Ar hyn o bryd, mae\u2019n gwneud Diploma Rheoli ac Arwain Lefel 5. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n frwd o blaid dysgu gydol oes,\u201d meddai Rachel. \u201cBedair blynedd yn \u00f4l, gofalwr oeddwn i, ag awydd mawr i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill. Trwy weithio yng Ngholeg Pen-y-bont rwy wedi cael gwneud hynny, gan helpu cannoedd o ddysgwyr i gael gwell dyfodol iddyn nhw a&#8217;u cyflogwyr. <\/p>\n<p>\u201cMae fy natblygiad parhaus i wedi fy helpu i ddeall anghenion dysgwyr unigol, gan fy ngwneud yn well tiwtor a fy helpu i arloesi wrth ddysgu ac asesu.\u201d <\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Rachel a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.  <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion.\u201d <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Rachel Lewis yn cael y prif glod am wella gwaith cyflenwi cymwysterau sgiliau hanfodol yn Uned Brentisiaethau Coleg Pen-y-bont dros y ddwy flynedd ddiwethaf. A hithau\u2019n awyddus iawn i barhau \u00e2\u2019i datblygiad proffesiynol, dywed Rachel mai &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rachel-ar-y-rhestr-fer-am-wobr-ar-ol-gwneud-gwelliannau-mawr-yn-ei-choleg\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7051","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7051","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7051"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7051\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7051"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7051"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7051"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}