{"id":7060,"date":"2019-10-15T17:32:38","date_gmt":"2019-10-15T16:32:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7060"},"modified":"2019-10-15T17:32:38","modified_gmt":"2019-10-15T16:32:38","slug":"prentisiaethaun-helpu-bwrdd-iechyd-i-sicrhau-dyfodol-iach","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethaun-helpu-bwrdd-iechyd-i-sicrhau-dyfodol-iach\/","title":{"rendered":"Prentisiaethau\u2019n helpu Bwrdd Iechyd i sicrhau dyfodol iach"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprenticeships-helping-health-board-train-for-a-healthy-future\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethaun-helpu-bwrdd-iechyd-i-sicrhau-dyfodol-iach\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7061\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/swans-e1570094342603.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7061\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/swans-e1570094342603.jpeg\" alt=\"Rheolwr Academi Brentisiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Ruth Gates (ail o\u2019r chwith) gyda nifer o brentisiaid, Emily Hains, Luke Radford, Jacob Davies a Natasha Davies yn Ysbyty Treforys. \" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-7061\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7061\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr Academi Brentisiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Ruth Gates (ail o\u2019r chwith) gyda nifer o brentisiaid, Emily Hains, Luke Radford, Jacob Davies a Natasha Davies yn Ysbyty Treforys.<\/p><\/div>\n<p>Does dim lle i gamgymeriadau wrth ddarparu gofal iechyd i 390,000 o bobl ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o\u2019r farn bod ei raglen brentisiaethau\u2019n datblygu gweithle newydd, dyfeisgar a deallus ar gyfer y dyfodol. <\/p>\n<p>Ers i\u2019r Bwrdd greu Academi Brentisiaid gyda chefnogaeth Academi Sgiliau Cymru tua diwedd 2016, mae 193 o brentisiaid o 12 o fframweithiau dysgu ledled y diwydiant wedi\u2019u penodi ac mae 15 o ymgeiswyr llwyddiannus eraill yn disgwyl cael eu gwirio cyn eu cyflogi. <\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 llwyddo i ddenu ymgeiswyr dawnus trwy lwybrau gwahanol i\u2019r arfer, mae\u2019r Academi wedi galluogi staff presennol i gynyddu eu sgiliau a dringo&#8217;r ysgol yn eu gyrfa. <\/p>\n<p>Mae pob prentis yn sicr o gael cyfweliad am swydd os yw\u2019n ateb gofynion manyleb y person ac mae staff yr Academi yn eu helpu \u00e2 thechnegau ceisiadau a chyfweliadau. <\/p>\n<p>Yn awr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref. <\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). <\/p>\n<p>\u201cUn rheswm dros lwyddiant yr Academi yw&#8217;r bartneriaeth \u00e2 Choleg Castell-nedd Port Talbot (NPTC) a\u2019u partneriaid nhw yn Academi Sgiliau Cymru,\u201d meddai Ruth Gates, Rheolwr yr Academi Brentisiaid. <\/p>\n<p>\u201cMae darparu prentisiaethau trwy\u2019r Academi yn help wrth recriwtio staff a gwella\u2019u sgiliau. Mae hefyd yn cefnogi cymunedau ac mae hynny\u2019n rhoi mwy o hygrededd i bartneriaeth y Bwrdd Iechyd a\u2019r darparwr hyfforddiant.\u201d <\/p>\n<p>Caiff dangosyddion perfformiad allweddol, ynghyd \u00e2 niferoedd y prentisiaid, yr hyn maent yn ei gyflawni a&#8217;u hynt wedyn, eu monitro mewn cyfarfodydd chwarterol ac fe gynhelir cyfarfodydd misol gyda darparwyr hyfforddiant hefyd i edrych ar y cynnydd a wneir. <\/p>\n<p>Yn ogystal, mae\u2019r Academi\u2019n cydweithio\u2019n rheolaidd ag ysgolion, colegau a chanolfannau gwaith lleol i s\u00f4n wrth grwpiau penodol am gyfleoedd. Mae\u2019r rhain yn cynnwys rhieni sengl, myfyrwyr nad ydynt yn symud ymlaen i addysg uwch ac eraill. <\/p>\n<p>\u201cDyma\u2019r unig Academi o\u2019i math yng Nghymru. Bu\u2019n llwyddiant eithriadol yn darparu hyb arloesol sy\u2019n ymateb yn effeithiol i brinder sgiliau a bylchau penodol yn y sefydliad,\u201d meddai Nicola Thornton Scott, Pennaeth Cynorthwyol Sgiliau yng Ngr\u0175p Colegau NPTC. <\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.  <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion.\u201d <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Does dim lle i gamgymeriadau wrth ddarparu gofal iechyd i 390,000 o bobl ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o\u2019r farn bod ei raglen brentisiaethau\u2019n datblygu gweithle newydd, dyfeisgar a deallus ar gyfer y dyfodol. Ers &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaethaun-helpu-bwrdd-iechyd-i-sicrhau-dyfodol-iach\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7060","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7060","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7060"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7060\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7060"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7060"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7060"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}