{"id":7063,"date":"2019-10-15T17:32:14","date_gmt":"2019-10-15T16:32:14","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7063"},"modified":"2019-10-15T17:32:14","modified_gmt":"2019-10-15T16:32:14","slug":"gyrfan-paentio-ac-addurnon-dod-a-lliw-i-fywyd-shannon-sydd-ai-golwg-ar-wobr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gyrfan-paentio-ac-addurnon-dod-a-lliw-i-fywyd-shannon-sydd-ai-golwg-ar-wobr\/","title":{"rendered":"Gyrfa\u2019n paentio ac addurno\u2019n dod \u00e2 lliw i fywyd Shannon sydd \u00e2&#8217;i golwg ar wobr"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/award-finalist-shannon-has-designs-on-a-painting-and-decorating-career\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gyrfan-paentio-ac-addurnon-dod-a-lliw-i-fywyd-shannon-sydd-ai-golwg-ar-wobr\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7064\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/sh-e1570094489796.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7064\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/sh-e1570094489796.jpeg\" alt=\"Shannon Harding yn breuddwydio am yrfa yn paentio ac addurno \" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-7064\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7064\" class=\"wp-caption-text\">Shannon Harding yn breuddwydio am yrfa yn paentio ac addurno<\/p><\/div>\n<p>Celf oedd hoff bwnc Shannon Harding, 18 oed, o Ferthyr Tudful, yn yr ysgol a dyna sydd wedi\u2019i harwain at yrfa yn paentio ac addurno. <\/p>\n<p>Bu\u2019n llwybr anodd i Shannon ei ddilyn, wrthi iddi adael gofal plant a chefnogaeth gweithiwr cymdeithaol, a dewis cwrs coleg anaddas sef iechyd a harddwch. Bu hefyd yn cael pyliau o orbryder ac iselder ers amser. <\/p>\n<p>Ond trwy\u2019r darparwr hyfforddiant PeoplePlus Cymru \u2013 Canolfan Merthyr Tudful, mae Shannon wedi canfod hyfforddiant sy\u2019n cydnabod ei trhafferthion ac sydd wedi\u2019i helpu i ddatblygu ei sgiliau a meithrin hyder.  <\/p>\n<p>Yn awr, mae Shannon wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref. <\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau. <\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). <\/p>\n<p>Mae cwrs Hyfforddeiaeth (Lefel 1) Shannon yn cynnwys modiwlau mewn Ymwybyddiaeth o Beryglon yn y Gweithle, Dyfarniad Cyflogadwyedd, Sgiliau Hanfodol Gwaith a Bywyd, a Lefel 1 Iechyd a Diogelwch yn yr Amgylchedd Adeiladu.  <\/p>\n<p>Cafodd yr holl gymwysterau hyn eu teilwra i helpu Shannon i gael lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, swydd. Mwynhaodd leoliad gyda Cbd Decorators, Merthyr Tudful, sydd wedi rhoi blas iddi ar waith paentio ac addurno. <\/p>\n<p>Dywedodd Rheolwr PeoplePlus, Joanne Southall: \u201cMae gan Shannon anawsterau o-ddydd-i-ddydd, ond dyw hi byth yn ildio. Mae\u2019n ddawnus iawn, yn gwrtais ac yn gweithio&#8217;n galetach na neb arall dwi&#8217;n ei nabod.  <\/p>\n<p>\u201cMae&#8217;n goleuo ystafell ac yn haeddu\u2019r gorau. Rwy\u2019n gwybod y bydd Shannon yn mynd yn bell a byddwn ni yno bob amser i\u2019w chefnogi.\u201d <\/p>\n<p>Dywedodd Shannon: \u201cRwy wedi dysgu cymaint o dan arweiniad PeoplePlus. Rwy\u2019n dal i gael pyliau o orbryder ac iselder ond mae mynd allan o&#8217;r t\u0177 bob dydd yn gwneud pethau&#8217;n haws. <\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd yn paentio ac addurno. Hoffwn i wneud prentisiaeth a dechrau fy musnes fy hunan rhyw ddiwrnod. Dyna yw fy mreuddwyd.\u201d <\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Shannon a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.  <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion.\u201d <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Celf oedd hoff bwnc Shannon Harding, 18 oed, o Ferthyr Tudful, yn yr ysgol a dyna sydd wedi\u2019i harwain at yrfa yn paentio ac addurno. Bu\u2019n llwybr anodd i Shannon ei ddilyn, wrthi iddi adael gofal plant &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gyrfan-paentio-ac-addurnon-dod-a-lliw-i-fywyd-shannon-sydd-ai-golwg-ar-wobr\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7063","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7063","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7063"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7063\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7063"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7063"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7063"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}