{"id":7069,"date":"2019-10-15T16:29:12","date_gmt":"2019-10-15T15:29:12","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7069"},"modified":"2019-10-15T16:29:12","modified_gmt":"2019-10-15T15:29:12","slug":"humier-ymgyrchwraig-yw-cadeirydd-newydd-grwp-cynghori-ar-anableddau-dysgu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/humier-ymgyrchwraig-yw-cadeirydd-newydd-grwp-cynghori-ar-anableddau-dysgu\/","title":{"rendered":"Humie\u2019r ymgyrchwraig yw cadeirydd newydd gr\u0175p cynghori ar anableddau dysgu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/campaigner-humie-the-new-chair-of-learning-disability-advisory-group\">English<\/a> | <a href=\"humier-ymgyrchwraig-yw-cadeirydd-newydd-grwp-cynghori-ar-anableddau-dysgu\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7074\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/thumbnail_Humie-1-e1571153197736.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7074\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/thumbnail_Humie-1-e1571153197736.jpg\" alt=\"Humie Webbe gyda&#039;r Prif Weinidog Mark Drakeford. \" width=\"460\" height=\"445\" class=\"size-full wp-image-7074\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7074\" class=\"wp-caption-text\">Humie Webbe gyda&#8217;r Prif Weinidog Mark Drakeford.<br \/><\/p><\/div>\n<p>Mae\u2019r Prif Weinidog, Mark Drakeford, am elwa ar bron 30 mlynedd o brofiad o ymgyrchu dros grwpiau pobl ddifreintiedig trwy benodi Humie Webbe yn gadeirydd y Grw\u0302p Gweinidogol Ymgynghorol ar Anabledd Dysgu (GGYAD).<\/p>\n<p>Mae\u2019r gr\u0175p yn cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion sy\u2019n dylanwadu ar fywydau pobl sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru a\u2019r rhai sy\u2019n eu cefnogi.<\/p>\n<p>Daw aelodau\u2019r Gr\u0175p o nifer o wahanol gefndiroedd, yn cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, ymchwil, y sector gwirfoddol a chynrychiolwyr rhieni\/gofalwr ac mae\u2019n helpu i lunio polis\u00efau a dulliau gweithio yng Nghymru trwy rannu gwybodaeth ac arbenigedd ac ymwneud \u00e2\u2019r gymuned. Sefydlwyd y Gr\u0175p yn 2012 ac mae\u2019n cyfarfod bob tri mis. <\/p>\n<p>Mae Humie, sy\u2019n 60 oed ac yn byw ym Mae Caerdydd, yn ymgyrchu dros gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae gan ei mab 31 oed, Saul, anabledd dysgu. <\/p>\n<p>A hithau\u2019n arweinydd strategol cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mae Humie\u2019n ymwneud \u00e2 phobl mewn cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a phobl ag anableddau ledled Cymru ac yn eu hannog i elwa ar y cyfleoedd a gynigir gan brentisiaethau.<\/p>\n<p>Cyn hynny, bu\u2019n gydlynydd cenedlaethol amrywiaeth ar gyfer ymgyrch Mind Cymru, Amser i Newid Cymru, ac mae wedi treulio bron 30 mlynedd yn gweithio yn y sector cyhoeddus a\u2019r sector cymunedol.<\/p>\n<p>Dywed ei bod yn anrhydedd olynu\u2019r cyn-Aelod Cynulliad, Gwenda Thomas, fel cadeirydd y Gr\u0175p a\u2019i bod yn edrych ymlaen at ei chyfarfod cyntaf ym mis Rhagfyr. \u201cCefais fy mhenodi oherwydd fy nghefndir yn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, sef rhywbeth rwy\u2019n teimlo\u2019n angerddol amdano,\u201d esboniodd.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi clywed am fy ngwaith gyda\u2019r NTfW ar faterion cynhwysiant a chynyddu\u2019r cyfleoedd i bobl anabl a bod rhywun wedi fy argymell wrth y Prif Weinidog a\u2019i d\u00eem gweinidogol.<\/p>\n<p>\u201cCefais wybod eu bod yn chwilio am rywun oedd \u00e2 phrofiad o gadeirio cyfarfodydd, oedd yn deall polisi Llywodraeth Cymru ac a oedd yn gallu rhoi hwb ymlaen i\u2019r Gr\u0175p mewn ffordd gynhwysol.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n edrych ymlaen at gefnogi fy nghyd-gadeirydd o Pobl yn Gyntaf Cymru yn ei gwaith. Sefydlwyd y Gr\u0175p i gyfrannu at bolis\u00efau Llywodraeth Cymru trwy gynnwys pobl ag anableddau dysgu sydd i fod i elwa ar eu rhaglenni.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bwysig sicrhau bod pawb yn cael dweud eu dweud. Rwy wedi gorfod brwydro i fy mab gael y cymorth gorau posibl iddo ef trwy\u2019r ysgol a\u2019r coleg ac felly rwy\u2019n gwybod pa mor anodd yw hi i deuluoedd ddarparu gwasanaethau ar gyfer eu plant.<\/p>\n<p>\u201cRwy hefyd yn deall y ffordd y mae&#8217;n rhaid i chi weithio er mwyn sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu yn cael dweud eu dweud. Mae pobl yn mynegi eu hunain mewn llawer o wahanol ffyrdd ac mae\u2019n rhaid i chi eu galluogi i wneud hynny. Mae\u2019r gr\u0175p hwn yn ffordd wych o sicrhau bod gan bobl sydd ag anableddau dysgu ffordd o gyfathrebu.\u201d<\/p>\n<p>Un o dasgau allweddol y Gr\u0175p yw darparu cefnogaeth ac arweiniad strategol i Lywodraeth Cymru, yn enwedig o ran eu Rhaglen Gwella Bywydau, a lansiwyd y llynedd i wella bywydau plant ac oedolion yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu.<\/p>\n<p>\u201cY syniad yw sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu\u2019n cael eu cynnwys ac yn cael dweud eu dweud am bolis\u00efau a gwasanaethau sy\u2019n effeithio arnynt,\u201d meddai Humie. \u201cMae\u2019r Rhaglen Gwella Bywydau\u2019n edrych ar wasanaethau cyhoeddus i sicrhau eu bod yn dilyn yr arferion gorau, yn enwedig o ran materion diogelu a chyllido ym meysydd addysg, gwaith a thai.\u201d<\/p>\n<p>Yn ystod ei bywyd gweithiol, mae Humie wedi ymroi i helpu i roi llais i bobl o gymunedau BAME ac fe gafodd ei hymdrechion diflino eu cydnabod \u00e2 dwy wobr o bwys yn gynharach eleni.<\/p>\n<p>Yng Ngwobrau Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA), roedd yn gyd-enillydd &#8216;Gwobr Gymdeithasol a Dyngarol\u2019 EMWAA ac enillodd un o dair Gwobr  Llysgennad Rhodri Morgan.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae\u2019r Prif Weinidog, Mark Drakeford, am elwa ar bron 30 mlynedd o brofiad o ymgyrchu dros grwpiau pobl ddifreintiedig trwy benodi Humie Webbe yn gadeirydd y Grw\u0302p Gweinidogol Ymgynghorol ar Anabledd Dysgu (GGYAD). Mae\u2019r gr\u0175p yn cynghori &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/humier-ymgyrchwraig-yw-cadeirydd-newydd-grwp-cynghori-ar-anableddau-dysgu\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7069","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7069","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7069"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7069\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7069"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7069"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7069"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}