{"id":7114,"date":"2019-12-12T10:10:47","date_gmt":"2019-12-12T10:10:47","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7114"},"modified":"2019-12-12T10:10:47","modified_gmt":"2019-12-12T10:10:47","slug":"cynllun-sgiliau-gogledd-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynllun-sgiliau-gogledd-cymru\/","title":{"rendered":"Chwalu ffiniau a gwella&#8217;r cysylltiad rhwng cyflenwad a galw yn y sectorau allweddol sydd ymhlith nodau Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth newydd Gogledd Cymru."},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/north-wales-skills-plan\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynllun-sgiliau-gogledd-cymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/n-wales-skills-plan-sml.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/n-wales-skills-plan-sml.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-12108\" \/><\/a><\/p>\n<p>Dyna eiriau David Roberts, cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn ystod lansiad y Cynllun a fydd yn weithredol rhwng 2019 a 2022, lle gwelwyd siaradwyr gwadd, addysgwyr, cyflogwyr ac arweinwyr busnesau yn dod ynghyd.<\/p>\n<p>Roedd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates, wedi dod i Venue Cymru yn Llandudno hefyd, ac roedd yn cytuno bod gan sgiliau ran allweddol i&#8217;w chwarae yn nhwf y rhanbarth. <\/p>\n<p>&#8220;Wrth i ni symud ymlaen, byddant yn bwysicach nag erioed o&#8217;r blaen,&#8221; meddai.<\/p>\n<p>&#8220;Mae gwytnwch yr economi yn dibynnu ar wytnwch yr unigolion o&#8217;i fewn, felly mae angen i Gymru fod wrth galon y datblygiadau mewn diwydiant, yn arbennig arloesedd digidol, lle bydd nifer o gyfleoedd yn codi.<\/p>\n<p>&#8220;Bydd gweithio&#8217;n rhanbarthol yn ein helpu ni, ac rwy&#8217;n falch iawn o weld bod Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi ymateb i&#8217;r her. Dymunaf bob llwyddiant i chi gyda&#8217;r Cynllun ac edrychaf ymlaen at weithio&#8217;n agos gyda chi yn y dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p>Bu&#8217;r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac arweinydd Cyngor Gwynedd, yn egluro r\u00f4l sgiliau o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru. Nododd fod cynnydd wedi&#8217;i wneud gyda&#8217;r Cynllun Twf pan llofnodwyd y Penawdau&#8217;r Telerau yn ddiweddar yn Swyddfa Cymru yn Llundain.<\/p>\n<p>&#8220;Addysg a sgiliau yw sail hanfodol unrhyw dwf economaidd,&#8221; meddai&#8217;r Cynghorydd Siencyn.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r Bwrdd Uchelgais wedi gweithio&#8217;n agos gyda&#8217;n colegau a&#8217;n prifysgolion i ddatblygu&#8217;r Cynllun Twf &#8211; sy&#8217;n rhan o&#8217;r weledigaeth ehangach ar gyfer y Gogledd &#8211; ac mae Sgiliau a Chyflogaeth yn un o&#8217;n rhaglenni allweddol.<\/p>\n<p>&#8220;Ein nod yw parhau i ddatblygu rhanbarth hyderus a chydlynol, a bydd gan y Cynllun hwn ran i&#8217;w chwarae yn hynny o beth.&#8221;<br \/>\nMae&#8217;r Cynllun yn canolbwyntio ar gyflenwi a darparu hyfforddiant sgiliau, a&#8217;r galw amdano, ledled y chwe sir, gyda phwyslais ar weithio&#8217;n agos gyda cholegau, prifysgolion ac arweinwyr diwydiant i adnabod a rhannu arfer gorau ar ddatblygu staff a dysgu yn seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Er mwyn helpu i ffurfio&#8217;r cynigion, mynychodd dros 350 o gwmn\u00efau grwpiau ffocws i ymateb i ymgynghoriad, gan roi barn o&#8217;r &#8216;byd go iawn&#8217; am yr heriau sy&#8217;n wynebu myrdd o sectorau.<\/p>\n<p>Roedd siaradwyr eraill ar y diwrnod yn cynnwys Dafydd Evans, prif weithredwr Gr\u0175p Llandrillo Menai; Paul McDonnell, Rheolwr Gyfarwyddwr Ruth Lee Ltd yng Nghorwen; Prif weithredwr Magnox, Gwen Parry-Jones, a Thomas Thomas, a oedd wedi cynrychioli Coleg Meirion Dwyfor yn WorldSkills International yn Rwsia, ac a ddaeth adref gyda Medaliwn Rhagoriaeth mewn gwaith plymwr a gwresogi. <\/p>\n<div id=\"attachment_12106\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/tom-with-medal-sml.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12106\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/tom-with-medal-sml.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-12106\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12106\" class=\"wp-caption-text\">Thomas Thomas<\/p><\/div>\n<p>Diolchodd Mr Roberts i&#8217;r gynulleidfa o dros 50 o westeion am fod yn rhan o&#8217;r lansiad a dywedodd bod &#8220;lefel uchel o obaith&#8221; yn y Gogledd tuag at dwf economaidd, gyda chefnogaeth y Cynllun Twf sydd werth \u00a31bn. <\/p>\n<p>Ychwanegodd: &#8220;Mae gobaith, ond mae angen i ni wella&#8217;r cysylltiad rhwng cyflenwad a galw o hyd, ac mae gan bawb ran i&#8217;w chwarae yn hynny o beth.<\/p>\n<p>&#8220;Un o rolau craidd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yw helpu i chwalu ffiniau a defnyddio&#8217;r llu o fentrau gwych sydd eisoes ar waith yn effeithiol, ynghyd \u00e2 chefnogi prosiectau a syniadau newydd fel rhan o&#8217;r Cynllun hwn. <\/p>\n<p>&#8220;Rwy&#8217;n gobeithio ei fod yn angor i&#8217;n gweledigaeth ar gyfer sgiliau a chyflogadwyedd yn y rhanbarth, ac y gallwn symud ymlaen mewn partneriaeth, gan leihau prinder sgiliau, hyrwyddo rhanbarth mwy cynhwysol a rhoi llwyfan i lwybrau cyflogaeth a chyfleoedd prentisiaethau llwyddiannus.&#8221;<\/p>\n<ul id=\"file-downloads\">\n<strong><\/strong><\/p>\n<li class=\"pdf\"><a href=\"https:\/\/northwaleseab.co.uk\/cy\/swyddi-sgiliau-partneriaeth-sgiliau-rhanbarthol\/sgiliau-chyflogaeth-2019\">Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2019-202<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"https:\/\/northwaleseab.co.uk\/cy\/jobs-and-skills-regional-skills-partnership\/partneriaeth-sgiliau-rhanbarthol\">Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dyna eiriau David Roberts, cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn ystod lansiad y Cynllun a fydd yn weithredol rhwng 2019 a 2022, lle gwelwyd siaradwyr gwadd, addysgwyr, cyflogwyr ac arweinwyr busnesau yn dod ynghyd. Roedd Gweinidog &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynllun-sgiliau-gogledd-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7114","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7114","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7114"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7114\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7114"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7114"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7114"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}