{"id":7116,"date":"2019-12-12T10:12:49","date_gmt":"2019-12-12T10:12:49","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7116"},"modified":"2019-12-12T10:12:49","modified_gmt":"2019-12-12T10:12:49","slug":"cystadleuwyr-o-gymru-yn-ennill-55-medal-yn-rownd-derfynol-worldskills-uk","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cystadleuwyr-o-gymru-yn-ennill-55-medal-yn-rownd-derfynol-worldskills-uk\/","title":{"rendered":"Cystadleuwyr o Gymru yn ennill 55 medal yn rownd derfynol WorldSkills UK"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/welsh-competitors-collect-55-medals-at-worldskills-uk-final\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cystadleuwyr-o-gymru-yn-ennill-55-medal-yn-rownd-derfynol-worldskills-uk\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12044\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/Bayley-Harris_Hairdressing-Hyfforddiant-Ceredigion-Training-Copy-1-e1575448015669.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12044\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/Bayley-Harris_Hairdressing-Hyfforddiant-Ceredigion-Training-Copy-1-e1575448015669.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-12044\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12044\" class=\"wp-caption-text\">Bayley Harris, Hyfforddiant Ceredigion Training &#8211; Hairdressing<\/p><\/div>\n<p>Cynrychiolwyd Cymru gan fwy na 100 o gystadleuwyr yn WorldSkills UK Live, rownd derfynol genedlaethol cystadlaethau WorldSkills UK.<\/p>\n<p>Enillodd T\u00eem Cymru gyfanswm o 14 medal aur, 15 medal arian, 17 medal efydd a naw cymeradwyaeth uchel yn y digwyddiad tridiau o hyd a gynhaliwyd rhwng 21 a 23 Tachwedd yn yr NEC yn Birmingham.<\/p>\n<p>O\u2019r rhain, cafodd 15 eu hennill gan ddysgwyr yn y Cystadlaethau Sgiliau Cynhwysol.<\/p>\n<p>Hefyd, cafodd pedwar coleg o Gymru eu henwi ymhlith y 10 sefydliad gorau yn y DU, sef Coleg Cambria, Coleg Sir Benfro, Coleg G\u0175yr Abertawe a Choleg Gwent.<\/p>\n<p>Dyfarnwyd gwobr Douglas Hill i gystadleuydd o Gymru, Thomas Lewis, hefyd am ei ysbryd t\u00eem a&#8217;i wytnwch yn ystod y gystadleuaeth a&#8217;r hyfforddiant, ar \u00f4l cael ei enwebu gan ei gyd-gystadleuwyr.<\/p>\n<p>WorldSkills UK Live, The Skills Show gynt, yw digwyddiad sgiliau, prentisiaethau a gyrfaoedd mwyaf y DU a\u2019i nod yw dathlu llwyddiant pobl ifanc mewn amrywiaeth o sgiliau galwedigaethol.<\/p>\n<p>Bu mwy na 500 o gystadleuwyr o bob cwr o\u2019r DU yn cystadlu am y cyfle i ddod i\u2019r brig yn eu maes sgiliau a chynrychioli T\u00eem y DU yn rownd derfynol WorldSkills yn Shanghai yn 2021.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd cystadlaethau mewn dros 70 o wahanol gategor\u00efau mewn pedwar sector diwydiant: adeiladu a seilwaith; iechyd, lletygarwch a ffordd o fyw; digidol, busnes a chreadigol; peirianneg a thechnoleg.<\/p>\n<p>Bu cystadleuwyr o Gymru yn cystadlu mewn meysydd yn amrywio o beirianneg awyrenegol a chelf gemau digidol 3D i gelfyddydau coginio a garddwriaeth.<\/p>\n<div id=\"attachment_12046\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/Rosie-Lawrence_Aeronautical-Engineering_Coleg-Cambria-and-Raytheon-Systems-Ltd-e1575448431619.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12046\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/Rosie-Lawrence_Aeronautical-Engineering_Coleg-Cambria-and-Raytheon-Systems-Ltd-e1575448431619.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-12046\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12046\" class=\"wp-caption-text\">Rosie Lawrence, Coleg Cambria a Raytheon Systems Ltd &#8211; Peirianneg Awyrenegol<\/p><\/div>\n<p>Eleni, roedd categor\u00efau newydd yn cael eu treialu yn y gystadleuaeth yn cynnwys: rheoli gwybodaeth adeiladu, systemau diogelwch electronig, technegydd cyfrifo a roboteg ddiwydiannol.<\/p>\n<p>Roedd arddangoswyr yn y digwyddiad yn cynnwys rhai o gyflogwyr blaenllaw y DU, yn cynnwys ACCESS VFX, Airbus, BAE Systems, CITB, Gr\u0175p Bancio Lloyds a Toyota Manufacturing UK.<\/p>\n<p>Thema WorldSkills UK Live eleni oedd gwaith a llesiant pobl ifanc. I gefnogi hyn, bu taith Million Minds, sy\u2019n ceisio helpu pobl ifanc i drafod iechyd meddwl yn agored, yn ymweld \u00e2\u2019r digwyddiad. <\/p>\n<p>Meddai Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Weithredwr, WorldSkills UK: \u201cLlongyfarchiadau i\u2019r cystadleuwyr o Gymru am gamp mor wych. <\/p>\n<p>\u201cRoedd yna gystadlu brwd ac roedd y safon yn uchel iawn. Mae gwaith caled ac ymroddiad yr holl gystadleuwyr wedi talu ar ei ganfed ac rydyn ni yn WorldSkills yn codi\u2019n het i chi.\u201d<\/p>\n<p>Wrth ystyried llwyddiant T\u00eem Cymru, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: \u201cMae cael 55 o gystadleuwyr o Gymru yn ennill medalau yn WorldSkills UK Live yn anhygoel, a dyma ganlyniad gorau Cymru yn y digwyddiad erioed.<\/p>\n<p>\u201cMae cystadlaethau WorldSkills yn hybu ymwybyddiaeth o allu sgiliau i drawsnewid bywydau, econom\u00efau a chymdeithas, ac mae cyrraedd lefel genedlaethol y DU yn y gystadleuaeth yn gamp enfawr gan y bobl ifanc hyn.<\/p>\n<p>\u201cMaen nhw wedi dangos pwysigrwydd addysg alwedigaethol, ac ar yr un pryd wedi meithrin cymeriad, hyder, ymroddiad a hunanwerth. Hoffwn longyfarch yr holl gystadleuwyr o Gymru a fu\u2019n cymryd rhan yn WorldSkills UK Live, a dymuniadau gorau iddynt yn eu gyrfaoedd i\u2019r dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Cefnogir WorldSkills gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd gweithlu medrus at y dyfodol.<\/p>\n<ul id=\"file-downloads\">\n<strong>Documents:<\/strong><\/p>\n<li class=\"pdf\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/Organisation-League-Table-2019.pdf\">Organisation League Table 2019 &#8211; Saesneg yn unig<\/a><\/li>\n<li class=\"pdf\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/WSUK-Live-2019_-RESULTS.xlsx\">WSUK Live 2019_ Results &#8211; Saesneg yn unig<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"https:\/\/www.worldskillsuk.org\/champions\/national-skills-competitions\">WorldSkillsUK<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cynrychiolwyd Cymru gan fwy na 100 o gystadleuwyr yn WorldSkills UK Live, rownd derfynol genedlaethol cystadlaethau WorldSkills UK. Enillodd T\u00eem Cymru gyfanswm o 14 medal aur, 15 medal arian, 17 medal efydd a naw cymeradwyaeth uchel yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cystadleuwyr-o-gymru-yn-ennill-55-medal-yn-rownd-derfynol-worldskills-uk\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7116","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7116","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7116"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7116\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7116"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7116"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7116"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}