{"id":7124,"date":"2019-12-12T10:12:34","date_gmt":"2019-12-12T10:12:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7124"},"modified":"2019-12-12T10:12:34","modified_gmt":"2019-12-12T10:12:34","slug":"romarchive-yn-ennill-gwobr-bwysig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/romarchive-yn-ennill-gwobr-bwysig\/","title":{"rendered":"RomArchive yn ennill gwobr bwysig yng Ngwobrau Treftadaeth Ewrop"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/romarchive-wins-prestigious-award\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/romarchive-yn-ennill-gwobr-bwysig\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/RomArchive-Romani-arts-logo-e1575453283398.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/RomArchive-Romani-arts-logo-e1575453283398.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"274\" class=\"alignleft size-full wp-image-12066\" \/><\/a><\/p>\n<p>Cafwyd cyfle i ddathlu gydag enillwyr Gwobrau Treftadaeth Ewrop \/ Gwobrau Europa Nostra 2019, prif anrhydedd Ewrop ym maes treftadaeth, mewn Grande Soir\u00e9e du Patrimoine Europ\u00e9en yn y Th\u00e9\u00e2tre du Ch\u00e2telet, Paris, ar ei newydd wedd.  <\/p>\n<p>RomArchive \u2013 Archif Ddigidol y Roma oedd yr enillwyr yn y dosbarth \u2018Ymchwil\u2019. Archif ddigidol ryngwladol ar gyfer celfyddydau\u2019r Romani yw RomArchive \u2013 casgliad sy\u2019n tyfu\u2019n gyson o bob math o gelfyddydau, ynghyd \u00e2 dogfennau hanesyddol ac academaidd. Trwy ddefnyddio\u2019r archif hon, gall y Roma adfer a llywio\u2019r naratif am eu cymuned. <\/p>\n<p><div id=\"attachment_12105\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/RomArchive-sml.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12105\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/RomArchive-sml.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-12105\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12105\" class=\"wp-caption-text\">copyright Apolline Cornuet<\/p><\/div><br \/>\nLlun trwy garedigrwydd Apolline Cornuet \/ <a href=\"https:\/\/www.flickr.com\/photos\/europanostra\/albums\/72157711446706056\/page1\/\">Europa Nostra<\/a><\/p>\n<p>Bu Isaac Blake, cyfarwyddwr Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol y Romani o Gaerdydd, yn arwain t\u00eem o academyddion ac ymchwilwyr i gasglu eitemau addas ar gyfer y RomArchive. Tra bod archifau \u201chegemonaidd\u201d bron bob amser wedi stereoteipio\u2019r Roma, mae\u2019r RomArchive yn canolbwyntio ar eu portreadu o\u2019u safbwynt eu hunain: Bydd naratifau newydd yn datblygu, gan adlewyrchu hunaniaethau cenedlaethol a diwylliannol amrywiol y Roma. Bydd cyfoeth eu cynnyrch artistig a diwylliannol yn weladwy ac ar gael i bawb ei weld \u2013 mae\u2019n gydgysylltiedig \u00e2 chynnyrch Ewrop gyfan, yn mynd yn \u00f4l ganrifoedd ond yn fywiog ac amrywiol hyd heddiw. Trwy wneud hyn, mae\u2019r prosiect yn ymdrechu i fynd i\u2019r afael \u00e2 stereoteipiau parhaus a rhagfarnau dyfnion. <\/p>\n<p>Felly mae RomArchive yn cael ei anelu, nid yn unig at leiafrif mwyaf Ewrop, ond hefyd at fwyafrifoedd cymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<div id=\"attachment_12107\" style=\"width: 224px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/isaac-blake-sml-e1575997041768.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12107\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/isaac-blake-sml-e1575997041768.jpg\" alt=\"\" width=\"214\" height=\"277\" class=\"size-full wp-image-12107\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12107\" class=\"wp-caption-text\">Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Romani Cultural and Arts Company<\/p><\/div>\n<p>Dywedodd Isaac Blake, Cyfarwyddwr y Romani Cultural and Arts Company:  \u201cRwy wrth fy modd ein bod yn arweinwyr allweddol yn y RomArchive a&#8217;n bod wedi datblygu cyfraniad arwyddocaol trwy ein Harchif Ddawns.\u202fMae hwn yn ddarn o waith pellgyrhaeddol.\u201d <\/p>\n<p>Dywedodd Nick\u202fCapaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, \u201cCaiff diwylliant ei atgyfnerthu gan brofiadau amrywiol a chreadigrwydd pob rhan o\u2019r gymdeithas gyfoes.\u202f\u202fEr gwaethaf globaleiddio \u2013 neu efallai oherwydd globaleiddio \u2013 cawn ein hunain yn byw mewn cymdeithas fwyfwy darniog lle gallwn ymddangos yn gul, yn grintachlyd ac yn anhapus yn ein crwyn ein hunain.\u202f\u202fMae cynllun RomArchive yn ein hatgoffa mewn ffordd bwysig ac amserol pa mor ddeinamig yw traddodiadau\u2019r Roma.\u202f Mae cymdeithas deg a goddefol yn cydnabod creadigrwydd ei holl ddinasyddion.\u202f Mae\u2019n braf i ni gael cydnabod y dathliad hwn o greadigrwydd a hunaniaeth cymuned a anwybyddir yn aml.\u201d\u202f <\/p>\n<p>Dywedodd Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, y mae ei gwaith yn cynnwys y gymuned Romani, \u201cLlongyfarchiadau i\u2019r Romani Cultural and Arts Company am eu gwaith rhagorol yng Nghymru a ledled Ewrop yn datblygu RomArchive. Mae hyrwyddo gwaith Cymry sy\u2019n rhan o\u2019r gymuned Romani, fel Howell Wood, yn ffordd ardderchog o dynnu sylw at gyfraniadau\u2019r gymuned. Mae\u2019r celfyddydau\u2019n ein helpu i ddathlu amrywiaeth ac maent yn chwalu amheuaeth, anwybodaeth a rhagfarn; mae ganddynt ran bwysig i\u2019w chwarae\u2019n creu cymdeithas sy\u2019n fwy teg, cyfartal a goddefgar. <\/p>\n<p>\u201cFis Mehefin diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr gyda\u2019r nod o fynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r anghyfiawnderau sylfaenol y mae\u2019r cymunedau hyn yn eu hwynebu. Wrth gyhoeddi\u2019r Cynllun, roeddem yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i wella cydraddoldeb, cynnig cyfleoedd a lleihau\u2019r bylchau a wynebir gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru.\u201d <\/p>\n<ul id=\"file-downloads\">\n<strong><\/strong><\/p>\n<li class=\"pdf\"><a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2019-02\/enabling-gypsies-roma-and-travellers_0.pdf\">Enabling Gypsies, Roma and Travellers\u2019 Plan<\/a><\/li>\n<li class=\"pdf\"><a href=\"https:\/\/www.romarchive.eu\/en\/dance\/\">RomArchive Dance section<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"http:\/\/www.romaniarts.co.uk\/\">www.romaniarts.co.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafwyd cyfle i ddathlu gydag enillwyr Gwobrau Treftadaeth Ewrop \/ Gwobrau Europa Nostra 2019, prif anrhydedd Ewrop ym maes treftadaeth, mewn Grande Soir\u00e9e du Patrimoine Europ\u00e9en yn y Th\u00e9\u00e2tre du Ch\u00e2telet, Paris, ar ei newydd wedd. RomArchive &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/romarchive-yn-ennill-gwobr-bwysig\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7124","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7124","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7124"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7124\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7124"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7124"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7124"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}