{"id":7127,"date":"2019-12-12T10:12:19","date_gmt":"2019-12-12T10:12:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7127"},"modified":"2019-12-12T10:12:19","modified_gmt":"2019-12-12T10:12:19","slug":"mae-eich-pasbort-dysgu-proffesiynol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mae-eich-pasbort-dysgu-proffesiynol\/","title":{"rendered":"Mae eich Pasbort Dysgu Proffesiynol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/your-professional-learning-passport\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mae-eich-pasbort-dysgu-proffesiynol\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/ewc-2-e1575448083728.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/ewc-2-e1575448083728.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-12032\" \/><\/a><\/p>\n<p>Dyfais ar-lein sy\u2019n rhoi cyfle i chi gofnodi&#8217;ch gwaith proffesiynol, myfyrio arno ac ymchwilio er mwyn ei wella yw&#8217;ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Yn y b\u00f4n, fersiwn ddigidol o\u2019r ffeils lever arch &#8216;na oedd yn llawn papurau ydyw, ond mae&#8217;n haws i&#8217;w ddefnyddio ac yn llai tebygol o fynd ar goll. A chi biau\u2019ch PDP, felly chi sy\u2019n penderfynu beth i&#8217;w roi ynddo a sut i&#8217;w ddefnyddio. Does dim rhaid i chi fod yn gweithio mewn ysgol neu goleg i&#8217;w ddefnyddio, ddim ond wedi&#8217;ch cofrestru gyda ni! <\/p>\n<p>A chithau wedi\u2019ch cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae\u2019n si\u0175r eich bod wedi clywed am y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) \u2013 wedi\u2019r cyfan, ar eich cyfer chi y cynlluniwyd ef! Ond os nad ydych erioed wedi edrych ar eich Pasbort neu os na wyddoch y gwahaniaeth rhwng eich asedau a\u2019ch EBSCOs, darllenwch ein canllaw syml isod i weld i <a href=\"https:\/\/v3.pebblepad.co.uk\/spa\/#\/public\/kwhG4Zmrc8y6r6ks3qnZG6pkyy\">ble y gall eich Pasbort fynd \u00e2 chi<\/a>. <\/p>\n<p><strong>Sut allaf i ei ddefnyddio? <\/strong><\/p>\n<p>Cewch ddefnyddio\u2019 ch PDP mewn gwahanol ffyrdd. Gallech ei ddefnyddio i gofnodi a myfyrio, i gynllunio a chydweithio, neu i ymchwilio a rhannu. Mae\u2019n system hyblyg iawn fel y gallwch ei defnyddio yn y ffordd orau i chi.  <\/p>\n<p>Os na wyddoch ble i ddechrau, cymerwch gip ar y templedi sydd eisoes yn y PDP fel y gallwch gofnodi\u2019ch profiadau a myfyrio arnynt. Gallwch lwytho bron bob math o ffeiliau i\u2019ch Pasbort fel y bydd eich holl luniau, fideos a ffeiliau testun yn yr un lle.  Gallwch lwytho faint bynnag fynnwch chi i\u2019ch Pasbort a\u2019i storio yno. <\/p>\n<p>Hefyd, cewch ddefnyddio\u2019ch Pasbort wrth gyflwyno tystiolaeth ar gyfer safonau proffesiynol dysgu seiliedig ar waith. Felly mae&#8217;n ffordd hawdd a sydyn o gadw&#8217;ch holl dystiolaeth broffesiynol yn yr un lle. Dysgu sut i fapio&#8217;ch Safonau Proffesiynol. <\/p>\n<p><strong>Adnoddau<\/strong><\/p>\n<p>Yn ogystal ag awgrymiadau a thempledi i\u2019ch rhoi ar ben y ffordd, fe welwch gronfa ddata ymchwil addysg o\u2019r enw EBSCO. Mae\u2019r gronfa ddata yn cynnwys addysg ar bob lefel, o&#8217;r blynyddoedd cynnar i addysg oedolion, ynghyd ag anghenion dysgu ychwanegol a datblygu\u2019r cwricwlwm. Mae EBSCO yn cynnwys casgliad o dros 3,300 o e-lyfrau hefyd. Beth am lawrlwytho un o\u2019r llyfrau hyn a\u2019i gadw yn eich Pasbort i\u2019w ddefnyddio pan fydd angen? <\/p>\n<p><strong>Ble mae dechrau?<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n hawdd agor eich PDP \u2013 bydd angen i chi greu cyfrif FyCGA i ddechrau. Gallwch wneud hyn trwy glicio ar y ddolen <a href=\"https:\/\/www.myewc.wales\/cy\/user\/register\/registered-practitioner\">Cofrestru am fynediad i\u2019r we<\/a> ar waelod sgrin fewngofnodi FyCGA. Bydd angen i chi greu enw defnyddiwr, gan ddefnyddio naill ai\u2019ch Cyfeirnod neu\u2019ch Rhif Yswiriant Gwladol, ynghyd \u00e2\u2019r cyfeiriad ebost sydd gennym ar eich cyfer ar y gofrestr. Os cewch drafferth i greu\u2019ch cyfrif, efallai bod y cyfeiriad e-bost anghywir gennym ar eich cyfer. Cysylltwch \u00e2 ni a gallwn newid hyn i chi. <\/p>\n<p>Mae CGA eisoes yn cydweithio \u00e2 nifer o gwmn\u00efau sy\u2019n defnyddio\u2019r Pasbort i helpu eu staff i gofnodi a rhannu eu datblygiad proffesiynol a byddem yn barod iawn i ddod i\u2019ch sefydliad chi i gynnig hyfforddiant am ddim ar ddefnyddio\u2019r PDP. Os hoffech drefnu sesiynau, cysylltwch \u00e2 ni yn <a href=\"mailto:professionaldevelopment@ewc.wales\">professionaldevelopment@ewc.wales<\/a><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/datblygiad-proffesiynol\/pasbort-dysgu-proffesiynol.html\">www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/datblygiad-proffesiynol\/pasbort-dysgu-proffesiynol.html<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dyfais ar-lein sy\u2019n rhoi cyfle i chi gofnodi&#8217;ch gwaith proffesiynol, myfyrio arno ac ymchwilio er mwyn ei wella yw&#8217;ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Yn y b\u00f4n, fersiwn ddigidol o\u2019r ffeils lever arch &#8216;na oedd yn llawn papurau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mae-eich-pasbort-dysgu-proffesiynol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7127","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7127","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7127"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7127\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7127"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7127"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7127"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}