{"id":7144,"date":"2019-12-12T10:11:05","date_gmt":"2019-12-12T10:11:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7144"},"modified":"2019-12-12T10:11:05","modified_gmt":"2019-12-12T10:11:05","slug":"ein-sgiliau-ein-dyfodol-cynllunio-ar-gyfer-yfory","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ein-sgiliau-ein-dyfodol-cynllunio-ar-gyfer-yfory\/","title":{"rendered":"Ein Sgiliau, Ein Dyfodol: Cynllunio ar gyfer Yfory"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/our-skills-our-future-planning-for-tomorrow\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ein-sgiliau-ein-dyfodol-cynllunio-ar-gyfer-yfory\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/s-west-mid-plan-e1575470297377.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/s-west-mid-plan-e1575470297377.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"306\" class=\"alignleft size-full wp-image-12083\" \/><\/a><\/p>\n<p>Cafodd cynllun uchelgeisiol sy\u2019n canolbwyntio ar y sgiliau y mae ar bobl a busnesau eu hangen yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru ei lansio\u2019n swyddogol ddiwedd Hydref yn nigwyddiad blynyddol y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol. <\/p>\n<p>Nod y Cynllun Sgiliau yw sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf y sgiliau angenrheidiol i yrru diwydiannau\u2019r dyfodol. Mae iddo nifer o bartneriaid sy\u2019n cydweithio i gytuno ar set o argymhellion ynghylch y sgiliau sydd ar gael a\u2019r galw amdanynt yn y rhanbarth er mwyn sicrhau twf economaidd cynhwysol. Bu dros 1000 o gyflogwyr yn y rhanbarth yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 th\u00eem y Bartneriaeth i ganfod y gofynion y mae mwyaf o frys i\u2019w hateb ym maes sgiliau, er mwyn creu cynllun sy\u2019n cwrdd ag anghenion y bobl sy\u2019n gweithio, yn byw ac yn dysgu yn y rhanbarth. <\/p>\n<p>Cafodd Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2019 ei lansio\u2019n swyddogol a\u2019i groesawu gan AC Llanelli, Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru. <\/p>\n<p>Meddai Mr Waters: \u201cRydym yn byw mewn cyfnod heriol ac ansicr a dyna pam y mae cael blaenoriaethau rhanbarthol clir yn hollol hanfodol i\u2019n ffyniant yn y dyfodol. Rydym ni yn y llywodraeth yn awyddus i weld model rhanbarthol o ddatblygiad economaidd a fydd yn annog twf ledled Cymru. Mae gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ran hanfodol i&#8217;w chwarae yn hyn a bydd cynlluniau fel yr un a lansiwyd yn helpu i ganfod y meysydd a&#8217;r doniau y bydd angen i ni eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf er mwyn i\u2019r economi dyfu.\u201d <\/p>\n<p>Daeth dros 200 o bobl i\u2019r lansiad swyddogol, \u2018Ein Sgiliau, Ein Dyfodol: Cynllunio ar gyfer Yfory\u2019 a chael y cyfle i wrando ar nifer o siaradwyr ysbrydoledig yn cynnwys Kathryn Austin o orllewin Cymru sy\u2019n un o brif berchnogion Pizza Hut yn y Deyrnas Unedig, a Catrin Jones, cyd-gyfarwyddwr yng nghaffi a becws arobryn Crwst yn Aberteifi.  <\/p>\n<p>Roedd cyfle hefyd i gyfarfod \u00e2\u2019n S\u00ear Rhanbarthol, y prentisiaid ifanc a oedd newydd ddod yn \u00f4l o Bencampwriaethau WorldSkills yn Kazan a chlywed am eu llwyddiant: <\/p>\n<ul>\n<li>Phoebe McLavy, Trin Gwallt (Coleg Sir G\u00e2r) &#8211; Medal Efydd<\/li>\n<li>Collette Gorvett, Gwasanaethau Bwytai (Coleg G\u0175yr, Abertawe) &#8211; Medaliwn Rhagoriaeth<\/li>\n<li>Sam Everton, Coginio (Coleg Sir Benfro) &#8211; Medaliwn Rhagoriaeth<\/li>\n<li>Chris Caine, Gwaith Saer (Coleg Sir Benfro) &#8211; Medaliwn Rhagoriaeth<\/li>\n<\/ul>\n<p>Trefnwyd y diwrnod o gwmpas anghenion cyflogwyr a negeseuon y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau a threfnwyd chwe gweithdy i drafod materion oedd yn codi wrth ffurfio\u2019r Cynllun Sgiliau. Roedd cyfle i fynd i ddau allan o\u2019r chwe gweithdy, oedd yn cynnwys: \u2018Dadansoddi Goblygiadau Daearyddol Brexit\u2019, \u2018Ffynnu yn y gwaith: Pobl frwd sy\u2019n barod i wynebu heriau\u2019, \u2018Sut fydd dyfodol addysg yn edrych?\u2019, \u2018Gwneud i\u2019r Rhaglen Brentisiaethau weithio i chi\u2019, \u2018Cyfleoedd a heriau wrth ddatblygu sgiliau Dysgwyr Dwyieithog\u2019 a \u2018Dyfodol gwaith a datblygu t\u00eem sy&#8217;n gwneud yn dda&#8217;. <\/p>\n<p>Diolch i bawb a ddaeth i&#8217;r diwrnod &#8211; Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol, De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019 <\/p>\n<ul id=\"file-downloads\">\n<a href=\"http:\/\/online.flipbuilder.com\/itet\/kycm\/mobile\/index.html\">Regional Employment and Skills Plan South West and Mid Wales 2019 (Cymraeg i ddilyn)<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p><a href=\"http:\/\/www.rlp.org.uk\/cym\/home\">Regional Learning and Skills Partnership South West &#038; Mid Wales<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Cafodd cynllun uchelgeisiol sy\u2019n canolbwyntio ar y sgiliau y mae ar bobl a busnesau eu hangen yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru ei lansio\u2019n swyddogol ddiwedd Hydref yn nigwyddiad blynyddol y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol. Nod y &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ein-sgiliau-ein-dyfodol-cynllunio-ar-gyfer-yfory\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7144","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7144","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7144"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7144\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7144"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7144"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7144"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}