{"id":7158,"date":"2019-12-20T12:30:19","date_gmt":"2019-12-20T12:30:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7158"},"modified":"2022-09-13T10:43:26","modified_gmt":"2022-09-13T09:43:26","slug":"darparwr-hyfforddiant-caredig-yn-helpur-digartref-y-nadolig-hwn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/darparwr-hyfforddiant-caredig-yn-helpur-digartref-y-nadolig-hwn\/","title":{"rendered":"Darparwr hyfforddiant caredig yn helpu\u2019r digartref y Nadolig hwn"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/kind-hearted-training-provider-helping-the-homeless-this-christmas\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/darparwr-hyfforddiant-caredig-yn-helpur-digartref-y-nadolig-hwn\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12129\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/CTC-shoesboxes-dec-19-e1576503788758.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12129\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/CTC-shoesboxes-dec-19-e1576503788758.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"333\" class=\"size-full wp-image-12129\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12129\" class=\"wp-caption-text\">Llun o Sian Clarke, is-gadeirydd Helping Our Homeless Wales a\u2019r gwirfoddolwr Liam Crosby gyda rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian, Arwyn Watkins a\u2019r aelodau staff Loz Gaskin, Donna Heath, Shirley Chelmick a Steve Bound a helpodd gasglu bocsys esgidiau, bagiau o fwyd a siacedi i\u2019r elusen.<br \/><\/p><\/div>\n<p>Mae cyfarwyddwyr a staff caredig mewn cwmni hyfforddiant arobryn yn helpu\u2019r digartref mewn cymunedau ledled Cymru&#8217;r Nadolig hwn.<\/p>\n<p>Pan awgrymodd Loz Gaskin, sef y swyddog datblygu staff ac adnoddau ar-lein ym mhencadlys Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, i gefnogi Casgliad Bocsys Esgidiau Nadolig Helpu\u2019r Digartref yng Nghymru, cafodd ei hannog gan y gefnogaeth yn y cwmni.<\/p>\n<p>Mae 23 bocs esgidiau\u2019n llawn eitemau hanfodol fel hetiau, menig, sgarffiau, sanau, llyfrau, bwyd a siocledi wedi\u2019u casglu, ynghyd \u00e2 30 siaced newydd sbon, 15 siaced gynnes ail law a bagiau o fwyd.<\/p>\n<p>\u201cMae pob prentis yn cwblhau modiwl ar les yn ein cymwysterau ac rydym yn eu hannog i edrych ar bynciau sy\u2019n cynnwys digartrefedd,\u201d esboniodd Loz. \u201cTeimlai\u2019n briodol felly i ni gefnogi\u2019r elusen hon yn Llandrindod sy\u2019n gweithio gyda\u2019r digartref.<\/p>\n<p>\u201cBydd ein rhoddion yn mynd i bobl ddigartref yn ein cymunedau ledled Cymru. Gallwch deimlo mor ddiymadferth wrth fynd heibio i unigolyn digartref ar y stryd, ond mae\u2019r casgliad hwn yn sicrhau eu bod yn cael eitemau hanfodol y Nadolig hwn.<\/p>\n<p>\u201cMae ein cyfarwyddwyr a\u2019n staff wedi bod mor hael gyda\u2019r pethau maen nhw wedi rhoi yn eu bocsys esgidiau. Mae\u2019n braf gweld eu bod wedi rhoi cymaint o amser ac ymdrech iddo ac maen nhw wedi rhagori ar yr hyn a oedd yn ddisgwyliedig.\u201d<\/p>\n<p>Mae plant Loz hyd yn oed wedi bod wrthi\u2019n pacio ac mae gr\u0175p Rainbows ei merch yn Arddl\u00een wedi rhoi dau focs esgidiau. Dywedodd ei bod hi\u2019n dda bod y plant yn dysgu am ddigartrefedd.<\/p>\n<p>Elusen a sefydlwyd i wella bywydau\u2019r rhai sy\u2019n byw ar y stryd yw Helping Our Homeless Wales ac mae\u2019n gwneud hynny trwy ddarparu eitemau hanfodol, gofal a chymorth wyneb yn wyneb. Mae\u2019r elusen wedi bod yn rhedeg ers tair blynedd.<\/p>\n<p>Wrth ddiolch i Hyfforddiant Cambrian am ei gefnogaeth, dywedodd Sian Clarke, yr is-gadeirydd: \u201cRwy\u2019n rhyfeddu faint o focsys esgidiau mae\u2019r cwmni wedi\u2019u rhoi i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r bobl ddigartref a gefnogwn ledled Cymru\u2019n caru cael y bocsys esgidiau hyn. Mae\u2019r gefnogaeth a gafwyd wedi bod yn wych eleni ac alla i ddim aros i wneud y cyfrif terfynol yr wythnos nesaf. Cyflawnwyd y record bresennol o 450 o focsys esgidiau llynedd ac rwy\u2019n gobeithio ein bod ni wedi casglu dros 500 eleni.\u201d<\/p>\n<p>Mae Hyfforddiant Cambrian, sydd \u00e2 swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn, hefyd wedi bod yn codi arian i Ymchwil Canser eleni ar \u00f4l gosod targed i\u2019w hunan o redeg, cerdded a beicio 1,000 o filltiroedd, gan ymweld \u00e2\u2019r 22 sir yng Nghymru.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyfarwyddwyr a staff caredig mewn cwmni hyfforddiant arobryn yn helpu\u2019r digartref mewn cymunedau ledled Cymru&#8217;r Nadolig hwn. Pan awgrymodd Loz Gaskin, sef y swyddog datblygu staff ac adnoddau ar-lein ym mhencadlys Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/darparwr-hyfforddiant-caredig-yn-helpur-digartref-y-nadolig-hwn\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7158","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7158","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7158"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7158\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8782,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7158\/revisions\/8782"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7158"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7158"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7158"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}