{"id":7293,"date":"2020-05-19T00:01:29","date_gmt":"2020-05-18T23:01:29","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7293"},"modified":"2022-09-13T10:50:08","modified_gmt":"2022-09-13T09:50:08","slug":"cefnogaeth-i-brentisiaid-a-hyfforddeion-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cefnogaeth-i-brentisiaid-a-hyfforddeion-cymru\/","title":{"rendered":"Cefnogaeth i brentisiaid a hyfforddeion Cymru\u2019n parhau er gwaetha&#8217;r cyfyngiadau symud"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/support-for-welsh-apprentices-and-trainees-overcomes-lockdown-barriers\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cefnogaeth-i-brentisiaid-a-hyfforddeion-cymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12402\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/1st-Steps-Day-Care.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12402\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/1st-Steps-Day-Care-e1589622974206.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"388\" class=\"size-full wp-image-12402\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12402\" class=\"wp-caption-text\">Bethan Evans-Conway (dde) a\u2019i mam Linda Evans, cyfarwyddwyr 1st Steps Day Care yn Rhymni.<\/p><\/div>\n<p>Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru\u2019n llwyddo i barhau \u00e2\u2019u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud Covid-19, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol.<\/p>\n<p>Sefyllfa\u2019r dysgwyr sydd flaenaf ym meddyliau\u2019r darparwyr hyfforddiant ac maent wedi bod yn arbennig o hyblyg yn addasu eu dulliau dysgu fel na fydd eu rhaglenni dysgu\u2019n cael eu dal yn \u00f4l oherwydd y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Mae platfformau ar-lein fel Google Hangouts, Smart Rooms, Zoom, Microsoft Teams a Facebook yn galluogi darparwyr hyfforddiant i gadw mewn cysylltiad \u00e2 phrentisiaid a hyfforddeion a\u2019u cefnogi wrth iddynt gyflawni, adolygu ac asesu unedau eu Prentisiaethau a\u2019u Hyfforddeiaethau.<\/p>\n<p>Wrth ddysgu sgiliau mewn ffordd hyblyg fel hyn, bydd y dysgwyr mewn sefyllfa dda i gwblhau eu rhaglenni dysgu pan godir y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Mae gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gontractau gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu sy\u2019n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch.<\/p>\n<p>Yn ystod y cyfyngiadau, nid ydynt yn gallu trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb \u00e2\u2019u dysgwyr sy\u2019n perthyn i dri dosbarth: ar ffyrlo neu eu swydd wedi\u2019i dileu; yn dal i weithio a heb lawer o amser i barhau i ddysgu oherwydd pwysau gwaith yn y rheng flaen; ac yn gweithio fel arfer naill ai gartref neu yn eu gweithle arferol. <\/p>\n<p>Mae darparwyr dysgu yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd \u00e2 dysgwyr sy\u2019n wynebu rhwystrau i dysgu, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio tuag at Hyfforddeiaethau, ac yn trefnu rhithgyfarfodydd gr\u0175p i sicrhau eu bod yn iawn ac i roi gwaith iddynt i\u2019w wneud gartref.<\/p>\n<p>Ychydig iawn o sylw a gafodd cyfraniad gwerthfawr darparwyr hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda\u2019r sylw\u2019n canolbwyntio ar y GIG, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr rheng flaen eraill. Fodd bynnag, bydd gwaith y darparwyr yn amhrisiadwy wrth iddynt helpu i ddarparu\u2019r sgiliau angenrheidiol i roi hwb i&#8217;r economi pan godir y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Jeff Protheroe yw cyfarwyddwr gweithrediadau\u2019r NTfW, sef sefydliad y mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau ohono ac sydd \u00e2 chysylltiadau \u00e2 miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n gyfnod heriol a phryderus ond mae darparwyr dysgu\u2019n brysurach nag erioed ac maen nhw\u2019n haeddu clod am newid eu ffordd o weithio dros nos,\u201d meddai. \u201cMae\u2019r ffyrdd newydd o weithio yn effeithiiol iawn oherwydd mae\u2019r darparwyr yn gwasgu llawer iawn o waith i\u2019w diwrnod trwy beidio \u00e2 gorfod teithio o le i le. <\/p>\n<p>\u201cPan godir y cyfyngiadau symud, dylem fod mewn lle gwell o lawer o ran gweithio\u2019n ddigidol a ffyrdd newydd o weithio a bydd hynny\u2019n fanteisiol yn y pen draw. Mae dysgwyr wedi dangos awydd mawr i barhau \u00e2\u2019u prentisiaethau a\u2019u hyfforddeiaethau.\u201d<\/p>\n<p><div id=\"attachment_12439\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Ken-Skates.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12439\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Ken-Skates-e1589803483668.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"399\" class=\"size-full wp-image-12439\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12439\" class=\"wp-caption-text\">Minister for Economy, Transport and North Wales, Ken Skates.<\/p><\/div><br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:<\/strong> \u201cMae prentisiaid a hyfforddeion yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a byddant yn hollol hanfodol wrth i ni ddod dros yr argyfwng hwn.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cEin nod ni yw, nid yn unig adennill ein sefyllfa flaenorol ar \u00f4l y pandemig, ond cyrraedd sefyllfa well trwy greu economi genedlaethol lle caiff cyfoeth a ffyniant eu rhannu\u2019n fwy cyfartal ledled Cymru \u2013 mae gan brentisiaid a hyfforddeion ran allweddol i\u2019w chwarae yn hyn.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cEr bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, mae wedi tynnu sylw at ddoniau, ymroddiad a gwytnwch anhygoel y darparwyr hyfforddiant sy\u2019n cefnogi pobl yma yng Nghymru. Rydym yn cydnabod eu cyfraniad ac mae eu hymdrechion yn rhoi hyder i mi yn y dyfodol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd John Nash, cadeirydd dros dro NTfW, ac un o gyfarwyddwyr TSW Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr: \u201cRydym yn croesawu\u2019r ffaith fod Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod y rhan allweddol y bydd prentisiaid a hyfforddeion yn ei chwarae wrth i ni adfer economi Cymru, oherwydd gwyddom y gall effeithiau dirwasgiad amharu\u2019n fawr ar bobl ifanc.<\/p>\n<p>\u201cWrth i ni ailgychwyn ar \u00f4l y pandemig, bydd mwy o angen sgiliau nag erioed ar Gymru. Mae&#8217;r NTfW a\u2019i aelodau\u2019n barod i gydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r Gweinidog a\u2019i d\u00eem i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ac i ddiogelu dyfodol prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffyrdd newydd o weithio wedi bod o fudd, nid yn unig i\u2019r dysgwyr, ond i\u2019r darparwyr hyfforddiant hwythau sydd wedi gwella\u2019u sgiliau a datblygu rhai newydd.<\/p>\n<p>Yn Ystrad Mynach ym mae canolfan gr\u0175p Educ8, sy\u2019n cynnwys ISA Training, ac mae ganddynt 165 o staff sy\u2019n dysgu 1,600 o brentisiaid mewn gwahanol sectorau \u2013 iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, arwain a rheoli, cyngor a chyfarwyddyd, busnes, a gwallt a harddwch.<\/p>\n<p>Mae\u2019r buddsoddiad a wnaed mewn datblygu platfformau digidol yn talu ar ei ganfed i\u2019r gr\u0175p gan fod y dysgwyr yn gallu manteisio ar adnoddau dysgu a defnyddiau ar gyfer eu cyrsiau, a bod cyflogwyr a dysgwyr yn cael defnyddio porth ar-lein i gyflwyno, marcio a chadw golwg ar waith cwrs. <\/p>\n<p>Fis diwethaf, lansiodd y gr\u0175p blatfform ar-lein arloesol sy\u2019n defnyddio technoleg adnabod wynebau a dulliau diogelach o drafod data ac yn galluogi cyflogwyr a dysgwyr i lenwi ac e-lofnodi dogfennau digidol er mwyn ymgeisio am gyllid i ddilyn prentisiaeth. <\/p>\n<p>Gall cyflogwyr ddilyn proses ar-lein i dderbyn gweithwyr i wneud prentisiaethau ac mae dysgwyr yn treulio llai o amser yn llenwi gwahanol ffurflenni, gan ei wneud gartref ar y system ar-lein.<\/p>\n<div id=\"attachment_12473\" style=\"width: 240px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Grant-Santos-e1589871613903.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12473\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Grant-Santos-e1589871613903.jpg\" alt=\"\" width=\"230\" height=\"151\" class=\"size-full wp-image-12473\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12473\" class=\"wp-caption-text\">Grant Santos, Educ8<\/p><\/div>\n<p>\u201cDiolch i\u2019r platfformau technolegol hyn, cafodd Covid-19 ddim gymaint o effaith ar allu dysgwyr Educ8 i ddefnyddio\u2019u hadnoddau a symud ymlaen \u00e2\u2019u cymwysterau,\u201d meddai\u2019r prif weithredwr, Grant Santos. \u201cYn wir, ers cyflwyno\u2019r cyfyngiadau ar symud, mae 90% o ddysgwyr Educ8 wedi parhau \u00e2 chyrsiau eu Prentisiaethau \u2013 mae hynny\u2019n rhyfeddol!<\/p>\n<p>\u201cI lawer o gyflogwyr, bu\u2019n hanfodol i\u2019w busnes eu bod yn dal yn gallu dilyn rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn sectorau fel iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, lle mae\u2019n rhaid cael cymwysterau er mwyn gweithio.\u201d<\/p>\n<p>Llwyddwyd i gynnal y berthynas rhwng staff gr\u0175p Educ8 a\u2019r dysgwyr yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud trwy gynnal sesiynau un-i-un trwy gyswllt fideo a chynnal gweithdai ar gyfer criwiau o ddysgwyr. <\/p>\n<p>\u201cOherwydd Covid-19 bu\u2019n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru addasu eu ffyrdd o weithio&#8217;n gynt nag erioed er mwyn sicrhau y gellir parhau \u00e2&#8217;r rhaglen brentisiaethau,\u201d meddai Mr Santos. \u201cEr bod llu o heriau wedi codi, cafwyd nifer o ddatrysiadau gwych hefyd a fydd yn cael effaith fawr ar y sector yn y dyfodol. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n debygol y bydd datblygiadau sy\u2019n gwneud y gwaith yn fwy hwylus ac yn gwella\u2019r gwasanaeth ac ansawdd y dysgu, gan leihau \u00f4l troed carbon y genedl, yn para ymhell ar \u00f4l codi\u2019r cyfyngiadau a arweiniodd at eu cyflwyno.\u201d<\/p>\n<p>Mae gan y gr\u0175p ddau brentis yn 1st Steps Day Care yn Rhymni, Tredegar. Dywedodd Bethan Evans-Conway, cyfarwyddwr, bod y gwasanaeth dysgu ar-lein a gynigiwyd gan Educ8 yn golygu bod y staff yn gallu parhau \u00e2\u2019u prentisiaethau yn ystod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cDechreuwyd gwneud cynlluniau cyn gynted ag y cyflwynwyd y cyfyngiadau,\u201d meddai. \u201cMae hwn yn gyfnod rhyfedd iawn ac rwy\u2019n eithriadol o ddiolchgar i Educ8 am sicrhau nad yw\u2019r pandemig wedi cadw fy staff rhag dysgu a datblygu.\u201d <\/p>\n<p>Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa trwy gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau<\/a> neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor. Gall unigolion sy\u2019n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy\u2019n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru\u2019n llwyddo i barhau \u00e2\u2019u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud Covid-19, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol. Sefyllfa\u2019r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cefnogaeth-i-brentisiaid-a-hyfforddeion-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7293","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7293","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7293"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7293\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8795,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7293\/revisions\/8795"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7293"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7293"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7293"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}