{"id":7299,"date":"2020-05-19T14:00:32","date_gmt":"2020-05-19T13:00:32","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7299"},"modified":"2020-05-18T19:15:44","modified_gmt":"2020-05-18T18:15:44","slug":"yr-economi-sylfaenol-yn-hybu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/yr-economi-sylfaenol-yn-hybu\/","title":{"rendered":"Yr Economi Sylfaenol yn hybu newid yn ystod cyfnod y feirws"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/foundational-economy-drives-change-during-virus-outbreak\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/yr-economi-sylfaenol-yn-hybu\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ccrsp-care-sml-e1589647069339.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ccrsp-care-sml-e1589647069339.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-12422\" \/><\/a><\/p>\n<p>Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (y Bartneriaeth) yw Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol De-ddwyrain Cymru ac mae\u2019n cynnwys ardaloedd 10 awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru\u2019n disgwyl i\u2019r Bartneriaeth baratoi a dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, cynghori sut y dylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer sgiliau yn y dyfodol, a chynrychioli buddiannau ei rhanbarth wrth baratoi system sgiliau a seilir ar alw. <\/p>\n<p>Mae\u2019r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau\u2019n ysgogi gwaith y Bartneriaeth ac, yma, daw cynrychiolwyr byd busnes a darparwyr addysg a hyfforddiant ynghyd i rannu eu gwybodaeth a\u2019u dealltwriaeth o\u2019r sectorau a gynrychiolir ganddynt er mwyn sicrhau bod y rhanbarth mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau ym maes sgiliau.  <\/p>\n<p>Mae\u2019r Bartneriaeth, mewn ymgynghoriad \u00e2 rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru, wedi paratoi <a href=\"https:\/\/www.cardiffcapitalregion.wales\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/ccr-regional-skills-plan-welsh.pdf\">Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 2019-22<\/a> i fod yn weledigaeth dair blynedd ar gyfer y rhanbarth. Defnyddir y cynllun i roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac i ddylanwadu ar ei gwaith yn cynllunio ac yn ariannu addysg \u00f4l-16 gan helpu i sicrhau system sgiliau sy\u2019n seiliedig ar y galw ac i gynyddu cynhyrchiant a ffyniant ledled y rhanbarth. <\/p>\n<p>Yn ogystal, mae\u2019r Bartneriaeth wedi cefnogi datblygiad nifer o wahanol grwpiau sector \u00e2 blaenoriaeth ledled y rhanbarth sydd wedi chwarae rhan bwysig yn llunio\u2019r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau. Mae\u2019r grwpiau clwstwr hyn yn arweinwyr strategol yn y gwaith o gyflenwi argymhellion a chamau allweddol ar lefel y sector. <\/p>\n<p>Mae gr\u0175p clwstwr yr Economi Sylfaenol yn cynnwys cynrychiolwyr o feysydd addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant a\u2019r gwasanaethau brys, pob un ohonynt yn chwarae rhan bwysig iawn mewn ymateb i bandemig COVID-19. Dywedodd Grant Santos, prif weithredwr gr\u0175p Educ8 a chadeirydd gr\u0175p clwstwr Economi Sylfaenol y Bartneriaeth bod \u201caelodau o\u2019r gr\u0175p yn cyflogi staff sydd wedi bod yn gweithio yn y rheng flaen yn ystod cyfnod y feirws; staff sy\u2019n peryglu eu bywydau eu hunain i warchod iechyd y genedl ac i helpu i leihau\u2019r effaith ar economi Cymru\u201d. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gr\u0175p clwstwr yn ymwybodol hefyd o bwysigrwydd cyflogi a chadw gweithlu medrus yn ystod y cyfnod anodd hwn ac maent yn defnyddio technoleg i gynnal rhithgyfarfodydd ac i symud ymlaen ag argymhellion a gwaith pwysig. Er enghraifft, bu Gofal Cymdeithasol Cymru\u2019n gweithio&#8217;n galed i godi ymwybyddiaeth o&#8217;r sector iechyd a gofal cymdeithasol a&#8217;n cefnogi ymgyrch genedlaethol &#8216;Gofalwn Cymru&#8217; sydd \u00e2&#8217;r nod o gyflogi miloedd yn rhagor o bobl i weithio&#8217;n gofalu am oedolion a phlant. Awgryma Grant Santos y \u201cbydd yr ymgyrch yn hollbwysig er mwyn i\u2019r sector gadw i fyny \u00e2\u2019r cynnydd yn y galw am wasanaethau gofal a chynnig cymorth i gymunedau ledled y wlad\u201d.<\/p>\n<p>Ym maes Prentisiaethau, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dal i gefnogi mynediad at Brentisiaethau pob-oed ar draws y sector iechyd. Maent wrthi\u2019n gweithio ar fframweithiau newydd ar lefel 4\/5 ac mae\u2019n bosib y dechreuir ymgynghori arnynt mor fuan \u00e2 mis Medi. Yn yr un modd, bu Gwasanaeth T\u00e2n ac Achub De Cymru yn gweithio ar Brentisiaeth newydd i ddiffoddwyr t\u00e2n gyda&#8217;r bwriad o recriwtio tua 12 o ddysgwyr ym mis Medi. Maent hefyd yn ysgogi datblygiad Fframwaith Lefel 4 mewn Archwilio a Pheirianneg yn arbennig ar gyfer y gwasanaethau t\u00e2n yng Nghymru. <\/p>\n<p>Yn olaf, bu Cyngor y Gweithlu Addysg wrthi\u2019n hyrwyddo dysgu fel gyrfa ddeniadol a hyfyw a bydd yn datblygu platfform digidol newydd er mwyn ceisio sicrhau cynnydd sylweddolyn nifer ac ansawdd yr athrawon sy\u2019n ymgeisio am swyddi yng Nghymru.<br \/>\nOs hoffech wybod mwy am unrhyw un o\u2019r datblygiadau hyn, cysylltwch \u00e2: <a href=\"mailto:RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk\">RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (y Bartneriaeth) yw Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol De-ddwyrain Cymru ac mae\u2019n cynnwys ardaloedd 10 awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru\u2019n disgwyl i\u2019r Bartneriaeth baratoi a dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, cynghori sut y &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/yr-economi-sylfaenol-yn-hybu\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7299","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7299","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7299"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7299\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7299"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7299"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7299"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}