{"id":7308,"date":"2020-05-19T14:00:36","date_gmt":"2020-05-19T13:00:36","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7308"},"modified":"2020-05-19T17:29:19","modified_gmt":"2020-05-19T16:29:19","slug":"gweithgareddau-rhithwir-yn-wythnos-addysg-oedolion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gweithgareddau-rhithwir-yn-wythnos-addysg-oedolion\/","title":{"rendered":"Gweithgareddau rhithwir yn Wythnos Addysg Oedolion 2020!"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/adult-learners-week-2020-to-go-virtual\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gweithgareddau-rhithwir-yn-wythnos-addysg-oedolion\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12343\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/HJ-Inspire_Andrea-GarveyEX9I5222-e1589425272918.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12343\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/HJ-Inspire_Andrea-GarveyEX9I5222-e1589425272918.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-12343\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12343\" class=\"wp-caption-text\">Andrea Garvey<\/p><\/div>\n<p>Wythnos Addysg Oedolion yw\u2019r ymgyrch fwyaf ym myd addysg oedolion yng Nghymu. Caiff ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&#038;W) yng Nghymru mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ac eraill.<\/p>\n<p>Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli ac annog miloedd o oedolion bob blwyddyn i barhau i ddysgu a datblygu sgiliau mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o werth addysg oedolion trwy ddathlu llwyddiant dysgwyr a darparwyr ac ysbrydoli rhagor o bobl i ganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau er gwell. <\/p>\n<p>Gwneir hyn trwy gydweithio \u00e2 llu o sefydliadadu preifat a chyhoeddus i hyrwyddo digwyddiadau profi di-d\u00e2l, sesiynau cwta, gweithgareddau hyrwyddo, cyrsiau byr, ac arweiniad a chefnogaeth ym maes gyrfaoedd a sgiliau er mwyn hybu oedolion ledled y wlad i fynd yn \u00f4l i ddysgu.<\/p>\n<p>Mewn ymateb i\u2019r coronafeirws (COVID-19), cynhelir ymgyrch rithwir eleni ar wahanol blatfformau ar-lein. <\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru a\u2019r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn awyddus i greu\u2019r gronfa fwyaf a welwyd erioed yng Nghymru o adnoddau digidol addysg oedolion. Credant ei bod yn bwysicach nag erioed i ddwyn eu hadnoddau ynghyd a chydweithio er lles Cymru a sgiliau\u2019r dyfodol trwy ymgyrch rithwir Wythnos Addysg Oedolion. <\/p>\n<p>Mae\u2019r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwahodd sefydliadau sydd \u00e2 diddordeb mewn trefnu sesiynau ar-lein ym mis Mehefin i <a href=\"mailto:alwevents@learningandwork.org.uk\"><strong>gysylltu \u00e2 nhw<\/strong><\/a>. <\/p>\n<p>Gallech benderfynu cyflwyno sesiynau ffurfiol neu anffurfiol, yn cynnwys dysgu digidol, celf a chrefft, ieithoedd, mathemateg sylfaenol, ymarfer corff, neu farchnata trwy&#8217;r cyfryngau cymdeithasol. Gall sesiynau profi ar-lein fod yn gyfuniad o diwtorials, gweminarau a chyrsiau \u2013 rhai byw a rhai wedi\u2019u recordio ymlaen llaw. Cewch wybod mwy am <a href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/cy\/\"><strong>Wythnos Addysg Oedolion yma<\/strong><\/a>. <\/p>\n<p>Mae\u2019r ymgyrch yn cael llawer o sylw yn y cyfryngau yng Nghymru, gyda <a href=\"http:\/\/www.sefydliaddysguagwaith.cymru\/ein-gwaith\/hyrwyddo-dysgu-a-sgiliau\/wythnos-addysg-oedolion\/gwobrau-ysbrydoli-2020\/\"><strong>Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli!<\/strong><\/a> yn dathlu llwyddiant pobl, prosiectau a sefydliadau. Caiff cannoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau eu trefnu gan lu o ddarparwyr a chodir ymwybyddiaeth o bwysigrwydd meithrin diwylliant cenedlaethol o ddysgu gydol oes.<\/p>\n<p>Andrea Garvey, myfyrwraig yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, a enillodd y \u2018Wobr Newid Bywyd a Symud Ymlaen\u2019 yng Ngwobrau Ysbrydoli! y Sefydliad Dysgu a Gwaith 2019. Roedd Andrea yn un o 12 enillydd a gafodd eu cydnabod yn y Gwobrau y llynedd.<\/p>\n<p>Cafodd Andrea, o Bort Talbot, sy\u2019n fam sengl i dri, byliau difrifol o orbryder, iselder a phrofedigaeth fawr wrth astudio llawn-amser i wireddu\u2019r uchelgais oedd ganddi er pan oedd yn blentyn i fod yn gyfreithwraig. Er gwaetha\u2019r anawsterau, enillodd radd gymhwyso yn y gyfraith yn 51 oed, gan raddio ag LLB yn y Gyfraith yn 2018, 35 o flynyddoedd ar \u00f4l gadael yr ysgol heb gymwysterau o gwbl.<br \/>\nDywedodd Andrea, \u201cFe ddewisais i symud ymlaen un cam ar y tro a derbyn y pethau da a\u2019r pethau drwg. Peidiwch \u00e2 meddwl gormod am rwystrau a pheidiwch ag edrych yn rhy bell ymlaen. Fe synnwch faint y gallwch ei gyflawni \u2013 rwy\u2019n gwybod achos rwy wedi gwireddu fy mreuddwyd.\u201d<br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.swansea.ac.uk\/cy\/y-gyfraith\/newyddion\/myfyriwrobrifysgolabertawencipiogwobrofri.php\"><strong>Darllenwch stori Andrea yn llawn yma<\/strong><\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Wythnos Addysg Oedolion yw\u2019r ymgyrch fwyaf ym myd addysg oedolion yng Nghymu. Caiff ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&#038;W) yng Nghymru mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ac eraill. Nod yr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gweithgareddau-rhithwir-yn-wythnos-addysg-oedolion\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7308","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7308","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7308"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7308\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7308"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7308"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7308"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}