{"id":7317,"date":"2020-05-21T08:30:05","date_gmt":"2020-05-21T07:30:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7317"},"modified":"2022-09-13T10:49:35","modified_gmt":"2022-09-13T09:49:35","slug":"darparwyr-hyfforddiant-yn-helpu-dysgwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/darparwyr-hyfforddiant-yn-helpu-dysgwyr\/","title":{"rendered":"Darparwyr hyfforddiant yn helpu dysgwyr yng Nghymru i oresgyn rhwystrau\u2019r cyfnod clo"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/training-providers-help-welsh-learners-overcome-lockdown-barriers\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/darparwyr-hyfforddiant-yn-helpu-dysgwyr\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12491\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Graham-Jones-sml.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12491\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Graham-Jones-sml.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"280\" class=\"size-full wp-image-12491\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12491\" class=\"wp-caption-text\">Mae\u2019r gefnogaeth a gaiff Graham Jones yn ei helpu i brysuro ymlaen \u00e2\u2019i Brentisiaeth yn ystod y cyfnod clo oherwydd y pandemig.<\/p><\/div>\n<p>Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru\u2019n llwyddo i barhau \u00e2\u2019u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud y Coronafeirws, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol.<\/p>\n<p>Sefyllfa\u2019r dysgwyr sydd flaenaf ym meddyliau\u2019r darparwyr hyfforddiant ac maent wedi bod yn arbennig o hyblyg yn addasu eu dulliau dysgu fel na fydd eu rhaglenni dysgu\u2019n cael eu dal yn \u00f4l oherwydd y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Mae platfformau ar-lein fel Google Hangouts, Smart Rooms, Zoom, Microsoft Teams a Facebook yn galluogi darparwyr hyfforddiant i gadw mewn cysylltiad \u00e2 phrentisiaid a hyfforddeion a\u2019u cefnogi wrth iddynt gyflawni, adolygu ac asesu unedau eu Prentisiaethau a\u2019u Hyfforddeiaethau.<\/p>\n<p>Wrth ddysgu sgiliau mewn ffordd hyblyg fel hyn, bydd y dysgwyr mewn sefyllfa dda i gwblhau eu rhaglenni dysgu pan godir y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Mae gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gontractau gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu sy\u2019n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch.<\/p>\n<p>Yn ystod y cyfnod clo, nid ydynt yn gallu trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb \u00e2\u2019u dysgwyr sy\u2019n perthyn i dri dosbarth: ar ffyrlo neu eu swydd wedi\u2019i dileu; yn dal i weithio a heb lawer o amser i barhau i ddysgu oherwydd pwysau gwaith yn y rheng flaen; ac yn gweithio fel arfer naill ai gartref neu yn eu gweithle arferol. <\/p>\n<p>Mae darparwyr dysgu yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd \u00e2 dysgwyr sy\u2019n wynebu rhwystrau i dysgu, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio tuag at Hyfforddeiaethau, ac yn trefnu rhithgyfarfodydd gr\u0175p i sicrhau eu bod yn iawn ac i roi gwaith iddynt i\u2019w wneud gartref.<\/p>\n<p>Ychydig iawn o sylw a gafodd cyfraniad gwerthfawr darparwyr hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda\u2019r sylw\u2019n canolbwyntio ar y GIG, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr rheng flaen eraill. Fodd bynnag, bydd gwaith y darparwyr yn amhrisiadwy wrth iddynt helpu i ddarparu\u2019r sgiliau angenrheidiol i roi hwb i&#8217;r economi pan godir y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffyrdd newydd o weithio wedi bod o fudd, nid yn unig i\u2019r dysgwyr, ond i\u2019r darparwyr hyfforddiant hwythau sydd wedi gwella\u2019u sgiliau a datblygu rhai newydd.  <\/p>\n<p>Jeff Protheroe yw cyfarwyddwr gweithrediadau\u2019r NTfW, sef sefydliad y mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau ohono ac sydd \u00e2 chysylltiadau \u00e2 miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n gyfnod heriol a phryderus ond mae darparwyr dysgu\u2019n brysurach nag erioed ac maen nhw\u2019n haeddu clod am newid eu ffordd o weithio dros nos,\u201d meddai. \u201cMae\u2019r ffyrdd newydd o weithio yn effeithiol iawn oherwydd mae\u2019r darparwyr yn gwasgu llawer iawn o waith i\u2019w diwrnod trwy beidio \u00e2 gorfod teithio o le i le. <\/p>\n<p>\u201cPan godir y cyfyngiadau symud, dylem fod mewn lle gwell o lawer o ran gweithio\u2019n ddigidol a ffyrdd newydd o weithio a bydd hynny\u2019n fanteisiol yn y pen draw. Mae dysgwyr wedi dangos awydd mawr i barhau \u00e2\u2019u prentisiaethau a\u2019u hyfforddeiaethau.\u201d<\/p>\n<p><div id=\"attachment_12452\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Ken-Skates-1-e1589845876858.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12452\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Ken-Skates-1-e1589845876858.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"399\" class=\"size-full wp-image-12452\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12452\" class=\"wp-caption-text\">Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru<\/p><\/div><br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates<\/strong>: \u201cMae prentisiaid a hyfforddeion yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a byddant yn hollol hanfodol wrth i ni ddod dros yr argyfwng hwn.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cEin nod ni yw, nid yn unig adennill ein sefyllfa flaenorol ar \u00f4l y pandemig, ond cyrraedd sefyllfa well trwy greu economi genedlaethol lle caiff cyfoeth a ffyniant eu rhannu\u2019n fwy cyfartal ledled Cymru \u2013 mae gan brentisiaid a hyfforddeion ran allweddol i\u2019w chwarae yn hyn.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cEr bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, mae wedi tynnu sylw at ddoniau, ymroddiad a gwytnwch anhygoel y darparwyr hyfforddiant sy\u2019n cefnogi pobl yma yng Nghymru. Rydym yn cydnabod eu cyfraniad ac mae eu hymdrechion yn rhoi hyder i mi yn y dyfodol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd John Nash, cadeirydd dros dro NTfW, ac un o gyfarwyddwyr TSW Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr: \u201cRydym yn croesawu\u2019r ffaith fod Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod y rhan allweddol y bydd prentisiaid a hyfforddeion yn ei chwarae wrth i ni adfer economi Cymru, oherwydd gwyddom y gall effeithiau dirwasgiad amharu\u2019n fawr ar bobl ifanc.<\/p>\n<p>\u201cWrth i ni ailgychwyn ar \u00f4l y pandemig, bydd mwy o angen sgiliau nag erioed ar Gymru. Mae&#8217;r NTfW a\u2019i aelodau\u2019n barod i gydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r Gweinidog a\u2019i d\u00eem i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ac i ddiogelu dyfodol prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<div id=\"attachment_12447\" style=\"width: 240px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/arwyn-watkins-10-e1589870652494.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12447\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/arwyn-watkins-10-e1589870652494.jpg\" alt=\"\" width=\"230\" height=\"153\" class=\"size-full wp-image-12447\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12447\" class=\"wp-caption-text\">Arwyn Watkins, Hyfforddiant Cambrian<\/p><\/div>\n<p>Ym marn Arwyn Watkins, OBE, rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian, gallai\u2019r cyfnod clo drawsnewid y busnes, sydd \u00e2 swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r pandemig yn gwneud i\u2019r cwmni ailystyried ein ffordd o weithio, ein ffyrdd o gysylltu \u00e2 dysgwyr a chydweithwyr, a\u2019n ffordd o ddefnyddio technoleg gwybodaeth er mwyn gwneud llai o ddrwg i\u2019r amgylchedd,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cYn y dyfodol, bydd yn ff\u00f4l gofyn i bobl deithio o bob rhan o Gymru i bob cyfarfod t\u00eem pan ellir eu cynnal trwy gyswllt fideo. Bydd argyfwng y coronafeirws yn dysgu llawer i ni amdanon ni\u2019n hunain ac am y doniau cudd sydd gennym yn y busnes.\u201d<\/p>\n<p>Mae un o brentisiaid y cwmni, Graham Jones, 36 oed, o Landrindod, sydd ar y rhestr warchod am 12 wythnos oherwydd problem \u00e2\u2019i system anadlu, yn defnyddio\u2019r cyfnod i brysuro ymlaen \u00e2\u2019i Brentisiaeth mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, ac mae wedi cwblhau 84% ohoni mewn dim ond naw wythnos.<\/p>\n<p>Mae Jay Syrett-Judd, swyddog hyfforddi Graham, yn ei helpu i ddefnyddio system e-bortffolio Learning Assistant gan City &#038; Guilds a meddalwedd cyfathrebu Google Hangouts ar gyfer sgyrsiau wyneb yn wyneb. Felly gall Jay gefnogi Graham ac adolygu&#8217;r dystiolaeth ar gyfer portffoliio ei brentisiaeth.<\/p>\n<p>Gyrrwr a llwythwr gyda th\u00eem gwastraff ac ailgylchu Cyngor Sir Powys yn Rhaeadr Gwy yw Graham. Llwyddodd i gwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) saith mis yn gynnar, ar 26 Chwefror, a chychwyn y Brentisiaeth ar 3 Mawrth.<\/p>\n<p>\u201cPan ges i wybod mod i ar y rhestr warchod ac na allwn i fynd i\u2019r gwaith, fe gysylltais \u00e2 Jay a gofyn iddo anfon y gwaith roedd angen i mi ei wneud ar gyfer Lefel 3,\u201d meddai Graham. <\/p>\n<p>\u201cSoniodd Jay am y Learning Assistant ac rwy\u2019n dilyn yr holl waith cwrs yno. Os bydd gen i gwestiwn, rwy\u2019n ffonio Jay neu\u2019n siarad ag ef trwy Google Hangouts ac mae Jay\u2019n esbonio\u2019r peth i mi. <\/p>\n<p>\u201cDydw i ddim yn dda iawn ar gyfrifiaduron ond mae Learning Assistant yn wych ac yn hawdd ei ddilyn. Gan fy mod i\u2019n weithiwr rheng flaen, nid mewn swyddfa rwy\u2019n gweithio a, gan amlaf, does gen i ddim llawer o amser ar fy nwylo. Oherwydd y cyfyngiadau, rwy\u2019n gallu gwneud gwaith cwrs ar y cyfrifiadur bob bore ac mae Jay yn ei asesu.\u201d<\/p>\n<p>Doedd dim disgwyl iddo gwblhau\u2019r cymhwyster tan fis Medi yn wreiddiol ond mae\u2019n disgwyl ei orffen yn fuan ar \u00f4l codi\u2019r cyfyngiadau. Hoffai symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch, os bydd ei gyflogwr yn fodlon, er mwyn gallu cael swydd well.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Jay ei fod yn siarad bob dydd \u00e2 Graham oedd wedi gorffen elfen \u2018tystysgrif dechnegol\u2019 y Brentisiaeth ac wedi dechrau gweithio ar y ddiploma.<\/p>\n<p>\u201cMae Graham bob amser yn gwneud mwy nag sydd raid ac mae\u2019n gwneud ei waith ymchwil ei hunan,\u201d meddai. \u201cMae\u2019n ddysgwr sydd wir yn elwa ar yr hyn y mae\u2019n ei ddysgu.\u201d<\/p>\n<p>Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau<\/a> neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor.  Gall unigolion sy\u2019n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy\u2019n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth?_ga=2.245604548.1301137780.1589813815-1104049465.1579534244\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru\u2019n llwyddo i barhau \u00e2\u2019u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud y Coronafeirws, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol. &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/darparwyr-hyfforddiant-yn-helpu-dysgwyr\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7317","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7317","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7317"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7317\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8790,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7317\/revisions\/8790"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7317"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7317"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7317"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}