{"id":7324,"date":"2020-05-19T14:00:05","date_gmt":"2020-05-19T13:00:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7324"},"modified":"2022-09-13T10:50:03","modified_gmt":"2022-09-13T09:50:03","slug":"cyfrifo-addasu-neu-oedi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyfrifo-addasu-neu-oedi\/","title":{"rendered":"Cyfrifo, addasu neu oedi \u2013 trefniadau arfaethedig ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/calculate-adapt-or-delay\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyfrifo-addasu-neu-oedi\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12431\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Philip_Blaker_20-sml-e1589648366879.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12431\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Philip_Blaker_20-sml-e1589648366879.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-12431\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12431\" class=\"wp-caption-text\">Prif Weithredwr, Philip Blaker, Cymwysterau Cymru<\/p><\/div>\n<p><strong>Nodyn gan Prif Weithredwr, Philip Blaker, Cymwysterau Cymru<\/strong><\/p>\n<p>Yn ein gwaith fel rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, rydym yn monitro cydymffurfiaeth cyrff dyfarnu, yn adolygu cymwysterau presennol, yn goruchwylio&#8217;r gwaith o gynllunio cymwysterau newydd, ac yn cefnogi&#8217;r system gymwysterau. Drwy wneud y gwaith hwn, rydym yn sicrhau y gall dysgwyr, ymarferwyr a&#8217;r cyhoedd yng Nghymru fod yn ffyddiog bod cymwysterau, a&#8217;r system gymwysterau, yn diwallu eu hanghenion.<\/p>\n<p>Yn dilyn cyhoeddiad Gweinidog Addysg Cymru ynghylch cau canolfannau a chanslo cyfres arholiadau haf 2020 er mwyn helpu i frwydro yn erbyn lledaeniad y coronafeirws (COVID-19), rydym wedi bod yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid, ar draws y DU, i ganfod y trefniadau gorau posibl ar gyfer dyfarnu graddau&#8217;r haf hwn. Dros amser, rydym wedi gallu rhannu atebion i&#8217;r cwestiwn \u2018beth nesaf?\u2019 sy&#8217;n cael ei ofyn gan ddysgwyr a rhanddeiliaid ehangach.<\/p>\n<p>Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd <a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data\/file\/885130\/Guidance_for_Centres__-_what_to_expect_for_VTQs_summer_2020_14MAY2020_1.pdf\"><strong>Ofqual<\/strong><\/a> ganllawiau i ganolfannau ynghylch dyfarnu cymwysterau galwedigaethol a thechnegol, a chymwysterau cyffredinol eraill, yn haf 2020. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r trefniadau&#8217;n berthnasol i&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r cymwysterau galwedigaethol a ddilynir mewn ysgolion, colegau a gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae&#8217;r trefniadau&#8217;n berthnasol i&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r cymwysterau galwedigaethol a ddilynir mewn ysgolion a cholegau a gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae&#8217;r cymwysterau hyn ar gael ledled y DU, felly mae&#8217;n bwysig ein bod yn sicrhau cysondeb er tegwch i ddysgwyr.<\/p>\n<p>Bydd cyrff dyfarnu yn defnyddio tystiolaeth amrywiol i sicrhau bod y canlyniadau mor ddibynadwy a chyson \u00e2 phosibl, fel y gall y cyhoedd ymddiried ynddynt ac fel bod darparwyr addysg a chyflogwyr yn rhoi yr un gwerth arnynt ag mewn unrhyw flwyddyn arall.<\/p>\n<p>Y prif nod yw sicrhau y gall dysgwyr dderbyn graddau yr haf hwn fel y gallant symud ymlaen i&#8217;w cam nesaf, gan roi sicrwydd ar yr un pryd bod y graddau&#8217;n cael eu cydnabod a bod y dull gweithredu\u2019n deg. <\/p>\n<p><strong>Bydd cymwysterau\u2019n cael eu dosbarthu i un o dri chategori gwahanol<br \/>\n<\/strong><br \/>\nO ystyried cymhlethdod ac amrywiaeth y sefyllfa o ran cymwysterau galwedigaethol, nid yw&#8217;n bosibl gweithredu\u2019r un dull ar gyfer pawb. Felly mae cymwysterau&#8217;n cael eu dosbarthu fel y gellir defnyddio&#8217;r dull gorau gyda\u2019r cysondeb mwyaf posibl.<\/p>\n<p>Categori 1 \u2013 Cymwysterau a ddefnyddir ar gyfer symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch<br \/>\nCategori 2 \u2013 Cymwysterau sy&#8217;n cyflawni dibenion cymysg<br \/>\nCategori 3 \u2013 Cymwysterau sy&#8217;n dyfarnu cymhwysedd galwedigaethol <\/p>\n<p>Bydd cyrff dyfarnu yn penderfynu pa rai o&#8217;r dulliau canlynol y dylid eu defnyddio:<\/p>\n<ul>\n<li>Gradd wedi&#8217;i chyfrifo, os yw\u2019n bosibl (Cyfrifo) \u2013 caiff hwn ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o gymwysterau categori 1<\/li>\n<li>Lle nad oes modd cyfrifo, dylid ystyried addasu asesiadau sy&#8217;n bodoli eisoes (Addasu)<\/li>\n<li>Aildrefnu asesiadau lle mae&#8217;n amlwg nad yw cyfrifo nac addasu yn bosibl (Oedi)<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cynigiwyd dull rheoleiddio llai cyfarwyddol, a fydd yn \u201cfframwaith eithriadol\u201d sy\u2019n hyblyg ac wedi\u2019i seilio ar egwyddorion. Gyda\u2019r dull hwn, caiff y cyfrifoldeb am benderfynu sut i gyflwyno canlyniadau i ddysgwyr ei ddirprwyo i\u2019r cyrff dyfarnu. Bydd gan yr holl ddarparwyr a chanolfannau r\u00f4l allweddol wrth sicrhau bod unrhyw drefniadau newydd yn gweithio&#8217;n effeithiol ac y gellir darparu canlyniadau, neu drefniadau asesu eraill, i ddysgwyr. <\/p>\n<p>Defnyddiwyd yr un egwyddorion gennym wrth wneud penderfyniadau am gymwysterau galwedigaethol sydd wedi&#8217;u cynllunio&#8217;n benodol i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru. Mae\u2019r gwaith a wnaethom yn ddiweddar o ran cytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn enghraifft dda o sefyllfa ble\u2019r oedd rhaid cydbwyso&#8217;r awydd i gyhoeddi canlyniadau yr haf hwn \u00e2&#8217;r angen i sicrhau bod dysgwyr wedi dangos y cymhwysedd proffesiynol angenrheidiol i weithio yn y sector pwysig hwn. <\/p>\n<p>Yr opsiwn Oedi yw&#8217;r opsiwn lleiaf ffafriol. Fodd bynnag, ar gyfer rhai cyrsiau, hwn fydd yr unig opsiwn ymarferol, yn enwedig lle nad yw cyfrifo nac addasu yn briodol a lle mae&#8217;n rhaid dangos cymhwysedd galwedigaethol. Bydd pob corff dyfarnu yn cynnig canllawiau penodol pellach ar ei weithdrefnau ei hunan.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n gwbl ymwybodol o&#8217;r heriau cymhleth sy&#8217;n wynebu darparwyr dysgu seiliedig ar waith a&#8217;u dysgwyr yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, a byddwch, gobeithio, eisoes yn gweithio gyda&#8217;ch cyrff dyfarnu ar y broses a ddewiswyd ganddynt ar gyfer trefniadau haf 2020. <\/p>\n<p>Gydag un llygad ar heddiw, rydym hefyd yn paratoi ar gyfer <a href=\"https:\/\/qualificationswales.org\/cymraeg\/coronafeirws---covid-19\/blogiau\/edrych-ymlaen-ar-gyfer-y-rhai-sydd-hanner-ffordd-drwy-eu-cyrsiau\/\"><strong>yfory<\/strong><\/a>, gan gynllunio ar gyfer pob senario bosibl o ran y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn 2020\u20132021.  <\/p>\n<p>A ninnau\u2019n rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, byddwn yn monitro\u2019r ffordd y gweithredir y \u2018trefniadau eithriadol\u2019 ar gyfer dysgwyr yng Nghymru dros yr haf. Byddwn yn parhau i gyfathrebu \u00e2 chi drwy ein <a href=\"https:\/\/qualificationswales.org\/cymraeg\/\"><strong>gwefan<\/strong><\/a>, ac os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau penodol, cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:cyfathrebu@cymwysteraucymru.org\"><strong>cyfathrebu@cymwysteraucymru.org<\/strong><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Nodyn gan Prif Weithredwr, Philip Blaker, Cymwysterau Cymru Yn ein gwaith fel rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, rydym yn monitro cydymffurfiaeth cyrff dyfarnu, yn adolygu cymwysterau presennol, yn goruchwylio&#8217;r gwaith o gynllunio cymwysterau newydd, ac yn cefnogi&#8217;r system &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyfrifo-addasu-neu-oedi\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7324","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7324","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7324"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7324\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8794,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7324\/revisions\/8794"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7324"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7324"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7324"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}