{"id":7352,"date":"2020-05-21T15:00:59","date_gmt":"2020-05-21T14:00:59","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7352"},"modified":"2022-09-13T10:48:07","modified_gmt":"2022-09-13T09:48:07","slug":"cefnogaeth-hyfforddwyr-yn-ysbrydoli-dysgwyr-yng-nghymru-i-oresgyn-rhwystraur-cyfnod-clo","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cefnogaeth-hyfforddwyr-yn-ysbrydoli-dysgwyr-yng-nghymru-i-oresgyn-rhwystraur-cyfnod-clo\/","title":{"rendered":"Cefnogaeth hyfforddwyr yn ysbrydoli dysgwyr yng Nghymru i oresgyn rhwystrau\u2019r cyfnod clo"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/training-support-inspires-welsh-learners\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cefnogaeth-hyfforddwyr-yn-ysbrydoli-dysgwyr-yng-nghymru-i-oresgyn-rhwystraur-cyfnod-clo\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12488\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Katlin-Rees-sml.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12488\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Katlin-Rees-sml.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"280\" class=\"size-full wp-image-12488\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12488\" class=\"wp-caption-text\">Katlin Rees yn gweithio gartref ar ei Hyfforddeiaeth Lefel Un mewn Chwaraeon.<\/p><\/div>\n<p>Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru\u2019n llwyddo i barhau \u00e2\u2019u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud Coronafeirws, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol.<\/p>\n<p>Sefyllfa\u2019r dysgwyr sydd flaenaf ym meddyliau\u2019r darparwyr hyfforddiant ac maent wedi bod yn arbennig o hyblyg yn addasu eu dulliau dysgu fel na fydd eu rhaglenni dysgu\u2019n cael eu dal yn \u00f4l oherwydd y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Mae platfformau ar-lein fel Google Hangouts, Smart Rooms, Zoom, Microsoft Teams a Facebook yn galluogi darparwyr hyfforddiant i gadw mewn cysylltiad \u00e2 phrentisiaid a hyfforddeion a\u2019u cefnogi wrth iddynt gyflawni, adolygu ac asesu unedau eu Prentisiaethau a\u2019u Hyfforddeiaethau.<\/p>\n<p>Wrth ddysgu sgiliau mewn ffordd hyblyg fel hyn, bydd y dysgwyr mewn sefyllfa dda i gwblhau eu rhaglenni dysgu pan godir y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Mae gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gontractau gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu sy\u2019n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch.<\/p>\n<p>Yn ystod y cyfnod clo, nid ydynt yn gallu trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb \u00e2\u2019u dysgwyr sy\u2019n perthyn i dri dosbarth: ar ffyrlo neu eu swydd wedi\u2019i dileu; yn dal i weithio a heb lawer o amser i barhau i ddysgu oherwydd pwysau gwaith yn y rheng flaen; ac yn gweithio fel arfer naill ai gartref neu yn eu gweithle arferol. <\/p>\n<p>Mae darparwyr dysgu yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd \u00e2 dysgwyr sy\u2019n wynebu rhwystrau i dysgu, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio tuag at Hyfforddeiaethau, ac yn trefnu rhithgyfarfodydd gr\u0175p i sicrhau eu bod yn iawn ac i roi gwaith iddynt i\u2019w wneud gartref.<\/p>\n<p>Ychydig iawn o sylw a gafodd cyfraniad gwerthfawr darparwyr hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda\u2019r sylw\u2019n canolbwyntio ar y GIG, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr rheng flaen eraill. Fodd bynnag, bydd gwaith y darparwyr yn amhrisiadwy wrth iddynt helpu i ddarparu\u2019r sgiliau angenrheidiol i roi hwb i&#8217;r economi pan godir y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffyrdd newydd o weithio wedi bod o fudd, nid yn unig i\u2019r dysgwyr, ond i\u2019r darparwyr hyfforddiant hwythau sydd wedi gwella\u2019u sgiliau a datblygu rhai newydd.  <\/p>\n<p>Jeff Protheroe yw cyfarwyddwr gweithrediadau\u2019r NTfW, sef sefydliad y mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau ohono ac sydd \u00e2 chysylltiadau \u00e2 miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n gyfnod heriol a phryderus ond mae darparwyr dysgu\u2019n brysurach nag erioed ac maen nhw\u2019n haeddu clod am newid eu ffordd o weithio dros nos,\u201d meddai. \u201cMae\u2019r ffyrdd newydd o weithio yn effeithiol iawn oherwydd mae\u2019r darparwyr yn gwasgu llawer iawn o waith i\u2019w diwrnod trwy beidio \u00e2 gorfod teithio o le i le. <\/p>\n<p>\u201cPan godir y cyfyngiadau symud, dylem fod mewn lle gwell o lawer o ran gweithio\u2019n ddigidol a ffyrdd newydd o weithio a bydd hynny\u2019n fanteisiol yn y pen draw. Mae dysgwyr wedi dangos awydd mawr i barhau \u00e2\u2019u prentisiaethau a\u2019u hyfforddeiaethau.\u201d<\/p>\n<p><div id=\"attachment_12452\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Ken-Skates-1-e1589845876858.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12452\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Ken-Skates-1-e1589845876858.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"399\" class=\"size-full wp-image-12452\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12452\" class=\"wp-caption-text\">Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru<\/p><\/div><br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates<\/strong>: \u201cMae prentisiaid a hyfforddeion yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a byddant yn hollol hanfodol wrth i ni ddod dros yr argyfwng hwn.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cEin nod ni yw, nid yn unig adennill ein sefyllfa flaenorol ar \u00f4l y pandemig, ond cyrraedd sefyllfa well trwy greu economi genedlaethol lle caiff cyfoeth a ffyniant eu rhannu\u2019n fwy cyfartal ledled Cymru \u2013 mae gan brentisiaid a hyfforddeion ran allweddol i\u2019w chwarae yn hyn.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cEr bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, mae wedi tynnu sylw at ddoniau, ymroddiad a gwytnwch anhygoel y darparwyr hyfforddiant sy\u2019n cefnogi pobl yma yng Nghymru. Rydym yn cydnabod eu cyfraniad ac mae eu hymdrechion yn rhoi hyder i mi yn y dyfodol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd John Nash, cadeirydd dros dro NTfW, ac un o gyfarwyddwyr TSW Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr: \u201cRydym yn croesawu\u2019r ffaith fod Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod y rhan allweddol y bydd prentisiaid a hyfforddeion yn ei chwarae wrth i ni adfer economi Cymru, oherwydd gwyddom y gall effeithiau dirwasgiad amharu\u2019n fawr ar bobl ifanc.<\/p>\n<p>\u201cWrth i ni ailgychwyn ar \u00f4l y pandemig, bydd mwy o angen sgiliau nag erioed ar Gymru. Mae&#8217;r NTfW a\u2019i aelodau\u2019n barod i gydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r Gweinidog a\u2019i d\u00eem i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ac i ddiogelu dyfodol prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Un o\u2019r darparwyr hyfforddiant sydd wedi addasu\u2019n sydyn i\u2019r cyfnod clo yw Inspire Training o Abertawe. Mae\u2019r cwmni\u2019n cyflogi 21 aelod o staff sy\u2019n darparu rhaglenni Hyfforddeiaethau, Ymgysylltu a Lefel 1, i 150 o ddysgwyr, llawer ohonynt \u00e2 rhwystrau&#8217;n eu hatal rhag dysgu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r staff yn gweithio o bell ac yn dal mewn cysylltiad \u00e2&#8217;r dysgwyr bob dydd, naill ai fel gr\u0175p neu yn unigol, trwy alwadau ff\u00f4n neu gyswllt fideo. Datblygwyd pecynnau gwaith cartref ar gyfer pob un o\u2019r dysgwyr er mwyn sicrhau nad yw\u2019r cyfnod clo yn eu dal yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Addaswyd unedau\u2019r rhaglenni dysgu fel y gall y tiwtoriaid ddysgu ar lein gan osod tasgau wythnosol. Defnyddir adnoddau ar-lein amrywiol i gefnogi&#8217;r dysgwyr o bell.<\/p>\n<p>Darparwyd dyfeisiau Wi-Fi i ddysgwyr a rhoddwyd gliniaduron ar fenthyg iddynt fel y gallant gysylltu \u00e2\u2019r rhyngrwyd a gweithio o bell. Yn ogystal, mae Inspire yn cynnig sawl dull o ddysgu fel bod rhywbeth yn addas i bawb, beth bynnag eu diddordebau a\u2019u gallu.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r staff yn dal wrthi\u2019n datblygu adnoddau ac yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr ar y trywydd iawn, a\u2019u bod yn ddiogel ac yn iach yn y cyfnod anodd hwn,\u201d meddai\u2019r rheolwr gyfarwyddwr Gavin Earley. \u201cRydym yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd \u00e2 dysgwyr y teimlwn y gallent fod yn agored i niwed. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r dysgwyr hefyd yn dal wrthi, yn cwblhau tasgau, yn dysgu ac yn gweithio tuag at unedau eu cymwysterau. Rwy\u2019n credu eu bod yn gwerthfawrogi ymdrechion y staff i sicrhau eu bod yn dal i symud ymlaen.<\/p>\n<p>\u201cMae eu lles meddyliol yn bwysig i ni. Mae tiwtoriaid a staff yn cymryd galwadau ff\u00f4n gyda\u2019r nosau ac ar benwythnosau gan wybod eu bod yn bwysig i\u2019r dysgwyr. Mae\u2019r berthynas sydd gennym \u00e2\u2019r dysgwyr yn talu ar ei chanfed.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gymuned ehangach ar ei hennill wrth i ni gadw\u2019r bobl ifanc hyn yn brysur. Rwy\u2019n bendant o\u2019r farn bod ein cyfraniad ni\u2019n help mawr i\u2019r bobl ifanc hyn, eu teuluoedd a\u2019u ffrindiau yn enwedig i ddysgwyr sy\u2019n byw\u2019n annibynnol neu\u2019n dioddef o iselder neu orbryder.\u201d<\/p>\n<p>Mae Katlin Rees, 17 oed, o Dreforys yn un o ddysgwyr y cwmni. Mae\u2019n llwyddo i wneud yr holl waith a gaiff gan Inspire Training er ei bod yn gwirfoddoli ar y wardiau cyffredinol yn Ysbyty Treforys. <\/p>\n<p>A hithau\u2019n gweithio tuag at Hyfforddeiaeth Lefel Un mewn Chwaraeon, mae Katlin yn gobeithio symud ymlaen a mynd i brifysgol, gyda\u2019r nod o fod yn barafeddyg yn y pen draw.<\/p>\n<p>Roedd ganddi ganmoliaeth i Inspire Training am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod clo, gyda\u2019r staff yn cadw mewn cysylltiad i holi sut oeddent a sut oedd y gwaith yn dod ymlaen. Bu\u2019n cymryd rhan mewn cyfarfodydd Zoom a Facetime gyda\u2019r cwmni a\u2019r hyfforddeion eraill.<\/p>\n<p>\u201cBu\u2019r cyfnod clo yn her gan nad ydw i\u2019n cael gweld fy ffrindiau na rhai o fy nheulu, ond mae wedi bod yn dda cadw mewn cysylltiad ag Inspire a fy ffrindiau ar y cwrs,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cFe wnaeth ffrind argymell Inspire wrth a i pan adewais i\u2019r ysgol ag ychydig iawn o gymwysterau. Doedd addysg yr ysgol ddim yn fy siwtio ond rwy wedi mwynhau\u2019r Hyfforddeiaeth a fyddwn i ddim lle\u2019r ydw i heddiw heb Inspire.\u201d<\/p>\n<p>Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau<\/a> neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor.  Gall unigolion sy\u2019n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy\u2019n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth?_ga=2.245604548.1301137780.1589813815-1104049465.1579534244\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru\u2019n llwyddo i barhau \u00e2\u2019u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud Coronafeirws, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol. Sefyllfa\u2019r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cefnogaeth-hyfforddwyr-yn-ysbrydoli-dysgwyr-yng-nghymru-i-oresgyn-rhwystraur-cyfnod-clo\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7352","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7352","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7352"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7352\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8789,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7352\/revisions\/8789"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7352"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7352"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7352"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}