{"id":7393,"date":"2020-06-19T13:30:09","date_gmt":"2020-06-19T12:30:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7393"},"modified":"2020-06-11T21:18:16","modified_gmt":"2020-06-11T20:18:16","slug":"zoe-evans-prentis-citb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/zoe-evans-prentis-citb\/","title":{"rendered":"Zoe Evans, prentis CITB, yn llwyddo wrth baentio"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/citb-apprentice-zoe-evans-painting-a-picture-of-success\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/zoe-evans-prentis-citb\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Zoe-Evans-GB-winner-e1590159222734.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Zoe-Evans-GB-winner-e1590159222734.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"287\" class=\"alignleft size-full wp-image-12526\" \/><\/a><\/p>\n<p>Dechreuodd Zoe Evans o Lanelli brentisiaeth gyda\u2019r CITB ym mis Medi 2017, gan ddilyn rhaglen Lefel 2, paentio ac addurno, cyn symud ymlaen i gwblhau rhaglen Lefel 3 yn haf 2019.<\/p>\n<p>Roedd agwedd a phroffesiynoldeb Zoe yn ystod y rhaglen yn wych.  Roedd yn arweinydd dosbarth yng Ngholeg Sir G\u00e2r lle\u2019r oedd yn astudio, gan fynd ati o\u2019i phen a\u2019i phastwn ei hunan i dorri tir newydd a hyrwyddo technolegau fel Google Documents. <\/p>\n<p>Aeth Zoe ymlaen i gynrychioli\u2019r coleg ar lefel genedlaethol yng nghystadleuaeth SkillBuild lle gwnaeth yn ardderchog.  Bu\u2019n gweithredu fel llysgennad dros y coleg hefyd ac, ar \u00f4l cwblhau cwrs arbennig WorldSkills mewn siarad cyhoeddus, roedd yn ddigon hyderus i fynd i ysgolion i s\u00f4n am yrfaoedd i ferched yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig y cyfleodd sydd ar gael i fyfyrwyr Duon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Trwy wneud hyn roedd yn annog y genhedlaeth nesaf o ferched i ddysgu crefftau i\u2019w galluogi i weithio yn y diwydiant adeiladu.<\/p>\n<p>Roedd Zoe yn uchel ei pharch wrth ei gwaith, yn grefftwraig oedd yn gweithio i safon uchel iawn. Dewiswyd hi i deithio ledled Prydain i wneud gwaith pwysig ac roedd ei chyflogwr, Ian Williams Ltd, yn ffyddiog y byddai\u2019r gwaith yn cael ei wneud i\u2019r safon uchaf.  Tua diwedd ei phrentisiaeth, comisiynwyd Zoe i ddylunio a phaentio murlun yn swyddfa ei chyflogwr.<\/p>\n<p>Mae Zoe, \u00e2\u2019i dawn artistig, yn mwynhau agweddau creadigol ei gwaith a\u2019i bwriad yw dilyn gyrfa ym maes dylunio mewnol. Trwy ei hymroddiad i gyrraedd y safon uchaf, daeth Zoe\u2019n llysgennad dros ferched ym myd adeiladu a hi yw\u2019r wyneb ar bosteri ar draws Coleg Sir G\u00e2r.<\/p>\n<p>Dywedodd Zoe: \u201cRwy wedi mwynhau pob rhan o fy nhaith fel prentis, o\u2019r sesiynau dysgu yn yr ystafell ddosbarth i\u2019r gwaith ymarferol a\u2019r agweddau mwy creadigol ar y swydd. Hoffwn ddiolch i fy mentor, Ken MacKay, a fy nghyflogwr, Ian Williams Ltd. Mae\u2019n deimlad braf iawn cael fy nghydnabod fel hyn. Byddwn yn si\u0175r o argymell prentisiaeth wrth unrhyw un sy\u2019n fodlon gweithio\u2019n galed, anelu\u2019n uchel ac ymdrechu i gyrraedd ei nod.\u201d<\/p>\n<p>Nid oedd bywyd yn hawdd i Zoe tra oedd yn gwneud ei phrentisiaeth; cafodd flynyddoedd anodd yn ceisio cydbwyso\u2019i gwaith ysgol \u00e2 gofalu am ei chwaer anabl. Bu\u2019r holl ofal yn dreth ar iechyd meddwl Zoe ac, ar \u00f4l dioddef o iselder am flynyddoedd, mae\u2019n dweud bod rhai dyddiau\u2019n dal yn anodd iawn ond, gyda chymorth proffesiynol, mae mewn lle gwell o lawer erbyn hyn ac yn edrych ymlaen i\u2019r dyfodol yn obeithiol.  <\/p>\n<p>Mae agwedd ymarferol Zoe yn heintus. Mae\u2019r ffaith ei bod mor benderfynol ac mor awyddus i lwyddo, ynghyd \u00e2\u2019r sgiliau ardderchog sydd ganddi, yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer gyrfa lwyddiannus. <\/p>\n<p>Dywedodd Jon Davies, Swyddog Prentisiaethau CITB: \u201cPan ddechreuodd Zoe ei phrentisiaeth, fe welson ni ei photensial ac felly symudwyd hi i fyny\u2019n sydyn o Lefel 1 i Lefel 2. Roedd yn bwysig i mi ein bod yn sicrhau\u2019r gefnogaeth angenrheidiol iddi gyrraedd yr uchelfannau sydd o fewn ei chyrraedd, ac mae hynny\u2019n digwydd. Mae Zoe\u2019n gwneud y gweithle\u2019n lle brafiach i bawb o\u2019i chwmpas. Gyda\u2019i hagwedd gadarnhaol a\u2019i gallu, mae\u2019n llysgennad perffaith ar gyfer menywod ym myd adeiladu.\u201d<\/p>\n<p>Uchafbwynt ei llwyddiannau ar raglen y CITB oedd ennill gwobr Prentis y Flwyddyn y CITB.  Dyma gamp enfawr a fydd, gobeithio, yn hwb i\u2019w gyrfa yn y diwydiant adeiladu.<\/p>\n<p>all cyflogwyr sy\u2019n awyddus i recriwtio prentisiaid neu i gynyddu sgiliau eu gweithwyr presennol gael rhagor o wybodaeth am Brentisiaethau neu raglenni eraill ym maes sgiliau a hyfforddiant trwy fynd i Borth Sgiliau Busnes Cymru <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant\/prentisiaethau\">businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant\/prentisiaethau<\/a> neu trwy ffonio 03301 228 338.<\/p>\n<p>Gall unigolion sy\u2019n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy\u2019n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.citb.co.uk\/cy-gb\/ynglyn-a-citb\/yr-hyn-a-wnawn\/citb-yn-eich-ardal-leol\/cymru\/\">www.citb.co.uk\/cy-gb<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dechreuodd Zoe Evans o Lanelli brentisiaeth gyda\u2019r CITB ym mis Medi 2017, gan ddilyn rhaglen Lefel 2, paentio ac addurno, cyn symud ymlaen i gwblhau rhaglen Lefel 3 yn haf 2019. Roedd agwedd a phroffesiynoldeb Zoe yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/zoe-evans-prentis-citb\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7393","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7393","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7393"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7393\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7393"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7393"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7393"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}