{"id":7430,"date":"2020-06-12T13:30:10","date_gmt":"2020-06-12T12:30:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7430"},"modified":"2020-06-11T21:36:14","modified_gmt":"2020-06-11T20:36:14","slug":"mahiman-lansioi-gyrfa-gyda-phrentisiaeth-yn-senedd-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mahiman-lansioi-gyrfa-gyda-phrentisiaeth-yn-senedd-cymru\/","title":{"rendered":"Mahima\u2019n lansio\u2019i gyrfa gyda phrentisiaeth yn Senedd Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/mahima-launches-her-career-with-an-apprenticeship-at-welsh-parliament\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mahiman-lansioi-gyrfa-gyda-phrentisiaeth-yn-senedd-cymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12573\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Mahima-with-Lydia-e1591906854563.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12573\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Mahima-with-Lydia-e1591906854563.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"427\" class=\"size-full wp-image-12573\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12573\" class=\"wp-caption-text\">Mahima Khan yn derbyn gwobr Prentis y Flwyddyn Gweinyddu Busnes y Gynghrair Ansawdd Sgiliau oddi wrth Lydia Harris, rheolwr hyfforddiant gyda&#8217;r JGR Group.<\/p><\/div>\n<p>Mae ei phenderfyniad i lansio\u2019i gyrfa \u00e2 phrentisiaeth yng Nghymru yn hytrach na gradd brifysgol yn talu ar ei ganfed i Fwslim ifanc sydd eisoes wedi ennill gwobrau.<\/p>\n<p>Mae Mahima Khan, 20 oed, o Gaerdydd, wedi cwblhau prentisiaeth sylfaen (Lefel 2) mewn gweinyddu busnes ac wedi symud ymlaen i wneud diploma Lefel 3, gan weithio yn Senedd Cymru. <\/p>\n<p>Cyflwynir y rhaglen ddysgu ar ran Coleg Caerdydd a\u2019r Fro (CAVC) gan y JGR Group fel rhan o gonsortiwm y Gynghrair Ansawdd Sgiliau.<\/p>\n<p>Enillodd Mahima wobrau Prentis y Flwyddyn a Phrentis y Flwyddyn Gweinyddu Busnes yng ngwobrau blynyddol y Gynghrair Ansawdd Sgiliau ym mis Mawrth. Cafodd ei henwebu hefyd ar gyfer Gwobr y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwobrau Prentisiaethau\u2019r Deyrnas Unedig ar gyfer Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) a gynhelir yn nes ymlaen eleni.<\/p>\n<p>Bu ei chyfnod yn gweithio yn yr adrannau addysg, adnoddau dynol a\u2019r gwasanaeth ymchwil yn y Senedd yn brofiad gwerthfawr i Mahima a llwyddodd i gael swydd barhaol yn swyddog cymorth i\u2019r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.<\/p>\n<p>Mae wedi cyfrannu at ddatblygu strategaethau recriwtio a derbyn y Senedd, mae\u2019n cydgadeirio\u2019r rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ac mae\u2019n mynd ati gydag angerdd i gynrychioli\u2019r gymuned o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.  <\/p>\n<p>Fe gyfrannodd at sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru, gan helpu yn y broses o ddewis 60 o aelodau o blith y 450 o ymgeiswyr. Yn ogystal, dewiswyd hi i ymuno \u00e2 phenaethiaid gwasanaethau mewn gr\u0175p ffocws a ffurfiwyd i benodi cyfarwyddwr cyfathrebu newydd i\u2019r Senedd. <\/p>\n<p>\u201cFe wnaeth hyn fy ngrymuso a\u2019m hysgogi gan fy mod ynghanol pobl sydd mewn swyddi y gallwn i, efallai, eu gwneud rhyw ddiwrnod,\u201d medda Mahima. \u201cYn dilyn fy lleoliadau gwaith mewn gwahanol adrannau, roeddwn yn ddigon hyderus i ymgeisio am swydd barhaol.\u201d<\/p>\n<p>Yn ystod ei phrentisiaeth, dysgodd sut i greu briff cyhoeddi ac ymchwil, rheoli a chynnal adnoddau gwybodaeth yn y llyfrgell, ehangu casgliad digidol trwy greu cofnodion catalogio newydd, ac ysgrifennu a golygu gwybodaeth ddwyieithog ar gyfer Aelodau\u2019r Senedd.<\/p>\n<p>Wrth feddwl am ei diwrnod cyntaf fel prentis yn Senedd Cymru, roedd Mahima\u2019n cyfaddef ei bod yn nerfus.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn i\u2019n poeni na fyddwn i\u2019n teimlo \u2019mod i\u2019n perthyn yma ac y byddai pobl yn edrych i lawr arna i am fy mod yn Fwslim ifanc sy\u2019n gwisgo hijab,\u201d meddai. \u201cDoedd dim angen i mi boeni oherwydd mae pawb yn y Senedd wedi bod yn gefnogol iawn ac yn wych.<\/p>\n<p>\u201cErs y diwrnod cyntaf, rwy wedi cael croeso mawr ac rwy\u2019n gobeithio aros yma i gael bod yn esiampl i ferched ifanc Mwslimaidd eraill. Rwy yma i gynrychioli\u2019r mwyafrif, nid y lleiafrif, ac rwy mor falch mod i wedi setlo mewn gweithle lle nad ydw i wedi profi rhagfarn na chamwahaniaethu.<\/p>\n<p>\u201cYn fy mlwyddyn gyntaf fel prentis, dysgais sut i ddod i wybod mwy am y bobl o fy nghwmpas ac arweiniodd hynny fi i wneud mwy i helpu pobl eraill oedd wedi cael profiadau tebyg i mi. Mae gan bawb stori wahanol. Rwy\u2019n gobeithio gallu rhannu fy stori i gyda rhagor o bobl oherwydd rwy\u2019n credu y gallwn i wneud gwahaniaeth. <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch o gael bod mewn sefyllfa lle gallaf siarad dros y gymuned BAME. Rwy hefyd yn credu\u2019n gryf mewn prentisiaethau achos maen nhw\u2019n sicr yn gallu newid eich bywyd. <\/p>\n<p>\u201cDim ond un arall o fy ffrindiau ysgol ddewisodd wneud prentisiaeth yn lle mynd i\u2019r brifysgol. Mae llawer o fy ffrindiau sydd yn y brifysgol yn dweud eu bod yn difaru eu penderfyniad oherwydd mae gennym ni swyddi parhaol cyn iddyn nhw raddio a bydd raid iddyn nhw ad-dalu eu benthyciad myfyrwyr.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019n awyddus i annog rhagor o bobl o\u2019r gymuned BAME i ddilyn yn \u00f4l ei throed yn hyderus er mwyn sicrhau mwy o amrywiaeth yn y Senedd.<\/p>\n<p>\u201cFy uchelgais i yw aros yn y Senedd, dal ati i weithio&#8217;n galed, dal i gael fy nghydnabod a, gobeithio, symud ymlaen i swydd uwch lle gallaf gyfrannu mwy at y t\u00eem recriwtio er mwyn ceisio sicrhau bod pobl o bob cefndir yn ymgeisio am swyddi yma,&#8221; meddai Mahima.<\/p>\n<p>\u201cMae fy ffydd gref wedi bod o help mawr i hybu fy hyder wrth weithio yn y Senedd. Mae Islam yn dysgu llawer i chi, er enghraifft, os ydych chi\u2019n credu ynoch chi\u2019ch hunan gall unrhyw beth ddigwydd.\u201d<\/p>\n<p>Diolchodd i\u2019w mam am ei hannog i ymgeisio am y brentisiaeth a\u2019i rheolwr hyfforddiant yn y JGR Group, Lydia Harris, am ei chefnogaeth, gan ddweud: \u201cByddaf yn fythol ddiolchgar am gael pobl mor anhygoel yn rhan o fy nhaith.\u201d <\/p>\n<p>Dywedodd Humie Webbe, arweinydd strategol cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda Ffederasiwn Hyffordiant Cenedlaethol Cymru: \u2018Mae Mahima yn llysgennad gwych dros brentisiaethau ac mae ei chariad at ddysgu yn disgleirio trwy ei stori.  <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n wych clywed bod Mahima\u2019n awyddus i ddefnyddio\u2019i phrofiad i helpu merched ifanc sydd heb lawer o hunanhyder a\u2019r gobaith yw y bydd ei stori\u2019n ysbrydoli pobl eraill o gefndir BAME i ystyried prentisiaethau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd pennaeth Coleg Caerdydd a\u2019r Fro, Kay Martin: \u201cRydyn ni fel coleg o\u2019r farn ei bod yn hanfodol i ni gynrychioli\u2019r holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac rydym yn eithriadol o falch o Mahima am ddangos mor glir bod prentisiaethau\u2019n llwybr gyrfa gwerthfawr i bawb, o bob cefndir.<\/p>\n<p>\u201cMae Mahima\u2019n batrwm ar gyfer prentisiaid ym mhob man, yn enwedig rai o gefndiroedd BAME. Mae\u2019n si\u0175r o fynd yn bell a defnyddio\u2019i phrofiadau a\u2019i hymroddiad i annog eraill i wneud yr un peth.\u201d<\/p>\n<p>Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau<\/a> neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor.<br \/>\nGall unigolion sy\u2019n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy\u2019n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth <\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae ei phenderfyniad i lansio\u2019i gyrfa \u00e2 phrentisiaeth yng Nghymru yn hytrach na gradd brifysgol yn talu ar ei ganfed i Fwslim ifanc sydd eisoes wedi ennill gwobrau. Mae Mahima Khan, 20 oed, o Gaerdydd, wedi cwblhau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/mahiman-lansioi-gyrfa-gyda-phrentisiaeth-yn-senedd-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7430","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7430","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7430"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7430\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7430"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7430"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7430"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}