{"id":7432,"date":"2020-06-19T13:30:05","date_gmt":"2020-06-19T12:30:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7432"},"modified":"2020-06-12T08:53:17","modified_gmt":"2020-06-12T07:53:17","slug":"fiona-barod-i-hyrwyddo-ansawdd-dysgu-seiliedig-ar-waith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/fiona-barod-i-hyrwyddo-ansawdd-dysgu-seiliedig-ar-waith\/","title":{"rendered":"Fiona\u2019n barod i hyrwyddo ansawdd dysgu seiliedig ar waith"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/passion-for-work-based-learning-lands-fiona-a-quality-job\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/fiona-barod-i-hyrwyddo-ansawdd-dysgu-seiliedig-ar-waith\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/fiona-argent-2018-e1591947543406.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/fiona-argent-2018-e1591947604787.jpg\" alt=\"fiona-argent-2018\" width=\"230\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-7433\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae menyw sy\u2019n credu\u2019n gryf mewn dysgu seiliedig ar waith wedi\u2019i phenodi i swydd allweddol gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Penodwyd Fiona Argent, 51 oed, o Hengoed, Caerffili, yn bennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith ar \u00f4l treulio dros chwe blynedd yn rheolwr y Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau o\u2019r NTfW ac mae ganddo gysylltiadau \u00e2 miloedd o gyflogwyr ledled Cymru. Mae\u2019r darparwyr yn cyflenwi rhaglenni\u2019n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch ar ran Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>\u201cDyma swydd wych mewn maes rwy\u2019n credu\u2019n angerddol ynddo,\u201d meddai Fiona. \u201cRoedd yn her nad oeddwn i am golli\u2019r cyfle i\u2019w thaclo. Y peth mwyaf a\u2019m denodd i at y swydd oedd y pwyslais ar ymarferwyr proffesiynol ym maes dysgu seiliedig a\u2019r waith a\u2019r cyfle i lunio set o safonau a fydd yn helpu\u2019r gweithlu i ddatblygu yn y dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cYn fy marn i, swydd ymarferydd dysgu seiliedig ar waith yw\u2019r swydd fwyaf amlochrog ym myd dysgu ac addysg. Mae disgwyl i chi asesu, addysgu, hyfforddi, paratoi gwersi a hwyluso dulliau dysgu effeithiol. Mae\u2019n swydd broffesiynol ac mae\u2019n bryd iddi gael ei chydnabod.<\/p>\n<p>\u201cRydym ar drothwy cyfnod cyffrous iawn, yn enwedig o ran datblygiad proffesiynol ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a dechrau eu meincnodi. Erbyn hyn, dechreuodd Cyngor y Gweithlu Addysg gydnabod y swydd ochr yn ochr \u00e2 swyddi mewn addysg bellach ac addysg prif lif.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd fod pandemig COVID-19 wedi cyflymu\u2019r broses o ddefnyddio platfformau dysgu digidol gan ddarparwyr hyfforddiant i gefnogi dysgwyr. Y cam nesaf fydd sicrhau bod y platfformau hyn yn cael eu defnyddio hyd yn oed yn fwy effeithiol, meddai.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n ymuno \u00e2 rhwydwaith prysur a bywiog iawn lle mae pobl yn credu\u2019n gryf mewn dysgwyr a dysgu a mwy o gysylltiad nag a fu \u00e2\u2019r rhanddeiliaid,\u201d meddai Fiona. \u201cCaiff dysgu seiliedig ar waith ei drefnu a\u2019i reoli mewn ffordd fuddiol iawn yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cRhoddir lle canolog i ansawdd y ddarpariaeth ac mae\u2019n bwysig bod pawb yn sylweddoli hynny, nid dim ond y dysgwyr ond y cyflogwyr a Llywodraeth Cymru hefyd. Er mwyn sicrhau ansawdd y ddarpariaeth, mae angen i\u2019r addysgu a\u2019r dysgu fod yn effeithiol. Mae gan y cyflogwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn talu\u2019r ardoll brentisiaethau, ran bwysig i\u2019w chwarae yn hyn ac mae ganddynt lwyfan i fynegi eu barn mewn Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.<\/p>\n<p>\u201cA ninnau\u2019n ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith, mae&#8217;n hanfodol ein bod yn cynnig gwerth am arian a\u2019n bod yn cynnig addysg drawsnewidiol (transformational) yn hytrach nag addysg ryngweithredol (transactional).\u201d<\/p>\n<p>Mae Fiona\u2019n briod \u00e2 Simon, sy\u2019n gyfarwyddwr adnoddau dynol ac mae ganddynt ddau o blant, Harriet, 22 oed a Jacob, 19. Bu\u2019n astudio rheoli lletygarwch yng Ngholeg Polytechnig Brighton cyn gwneud diploma \u00f4l-radd ym maes person\u00e9l ac adnoddau dynol ac mae\u2019n Gymrawd yn Sefydliad Siartredig Pobl a Datblygiad (FCIPD). Ers hynny, mae wedi gwneud MBA Weithredol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.<\/p>\n<p>Dechreuodd ei gyrfa mewn hyfforddi a datblygu gyda G\u0175yl Gerddi Glyn Ebwy yn 1991 cyn iddi ymuno \u00e2 Link Training lle bu\u2019n rheolwr rhanbarthol hyfforddiant ac ansawdd am chwe blynedd. Yna, bu\u2019n ymgynghorydd hunangyflogedig hyfforddi a datblygu am naw mlynedd, yn cynnwys pum mlynedd yn gynghorydd datblygu adnoddau dynol a Buddsoddwyr mewn Pobl ar ran Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Treuliodd saith mlynedd wedyn yn bennaeth cyflenwi darpariaeth Acorn (ALS erbyn hyn) cyn ymuno \u00e2 Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.<\/p>\n<p>Dywedodd Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW: \u201cMae Fiona wedi\u2019i phenodi i\u2019r swydd hon, sy\u2019n eithriadol o bwysig i\u2019r rhwydwaith darparwyr prentisiaethau, mewn cyfnod o newid sylweddol i economi Cymru.  <\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau wedi bod, ac mae\u2019n si\u0175r y byddant i\u2019r dyfodol, yn gonglfaen i ddatblygu\u2019r gweithlu yng Nghymru. Felly, mae\u2019n hollbwysig bod pob prentisiaeth yn cyrraedd yr ansawdd gorau posibl, o safbwynt cyflogwyr ac unigolion. <\/p>\n<p>\u201cMae gan Gymru raglen brentisiaethau ragorol ac mae llawer o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau ei bod gyda\u2019r gorau yn y byd. Bydd gan Fiona ran ganolog yn y datblygiadau hyn, gan ganolbwyntio ar ddatblygu ein gweithlu proffesiynol ymhellach, fel bod ansawdd ein prentisiaethau\u2019n mynd o nerth i nerth.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae menyw sy\u2019n credu\u2019n gryf mewn dysgu seiliedig ar waith wedi\u2019i phenodi i swydd allweddol gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Penodwyd Fiona Argent, 51 oed, o Hengoed, Caerffili, yn bennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith ar &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/fiona-barod-i-hyrwyddo-ansawdd-dysgu-seiliedig-ar-waith\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7432","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7432","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7432"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7432\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7432"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7432"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7432"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}