{"id":7442,"date":"2020-07-13T16:00:15","date_gmt":"2020-07-13T15:00:15","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7442"},"modified":"2020-07-13T15:13:26","modified_gmt":"2020-07-13T14:13:26","slug":"gweithdai-ar-lein-yn-helpu-hyfforddwyr-i-roi-gwell-cymorth-i-ddysgwyr-awtistig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gweithdai-ar-lein-yn-helpu-hyfforddwyr-i-roi-gwell-cymorth-i-ddysgwyr-awtistig\/","title":{"rendered":"Gweithdai ar-lein yn helpu hyfforddwyr i roi gwell cymorth i ddysgwyr awtistig"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/online-workshops-helping-trainers-improve-support-for-autistic-learners\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gweithdai-ar-lein-yn-helpu-hyfforddwyr-i-roi-gwell-cymorth-i-ddysgwyr-awtistig\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12634\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Autism-resource-pack-launch-e1594647914481.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12634\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/Autism-resource-pack-launch-e1594647914481.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"384\" class=\"size-full wp-image-12634\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12634\" class=\"wp-caption-text\">Yn y llun, mewn digwyddiad dysgu seiliedig ar waith, Gweithio gydag Awtistiaeth a gynhaliwyd yn ACT Training, Caerdydd, mae (o\u2019r chwith) Sara Harvey, arweinydd strategol cenedlaethol a Wendy Thomas, arweinydd proffesiynol cenedlaethol y T\u00eem Awtistiaeth Cenedlaethol, Ben Gray, aelod cabinet Cyngor Sir Caerdydd a\u2019r Fro dros ofal cymdeithasol ac iechyd, y Gweinidog Addysg Kirsty Williams AS, Darren James ac Ellie Curtis sy\u2019n brentisiaid, Charlotte Dando o ACT Training a Humie Webbe o\u2019r NTfW.<\/p><\/div>\n<p>Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru\u2019n dilyn gweithdai ar-lein yn ystod pandemig COVID-19 er mwyn gwella\u2019r cymorth a roddir i ddysgwyr awtistig.<\/p>\n<p>Cofrestrodd 90 o bobl sy\u2019n gweithio i 18 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ar gyfer y ddau weithdy diweddaraf, a drefnwyd gan Humie Webbe, arweinydd strategol cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). <\/p>\n<p>Arweinir y gweithdai gan y T\u00eem Awtistiaeth Cenedlaethol, sy\u2019n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a\u2019i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan weithio mewn partneriaeth \u00e2 Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae\u2019r t\u00eem yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i helpu i wella bywydau pobl awtistig, eu teuluoedd a\u2019u gofalwyr ledled Cymru. <\/p>\n<p>Bu\u2019r t\u00eem yn gweithio gydag arweinwyr ym maes awtistiaeth ledled Cymru, yr NTfW ac ACT Training, Caerdydd, ynghyd \u00e2 phobl awtistig i baratoi pecyn adnoddau ar gyfer dysgu seiliedig ar waith. Mae\u2019r pecyn adnoddau i\u2019w weld yn <a href=\"https:\/\/www.asdinfowales.co.uk\/home.php?page_id=9110&#038;setLanguage=4\">ASDinfoWales.co.uk<\/a>.<\/p>\n<p>Mae dau ganllaw yn y pecyn \u2013 un i helpu darparwyr dysgu i ddeall a chefnogi pobl awtistig a\u2019r llall i helpu dysgwyr awtistig i ddilyn eu taith trwy ddysgu seiliedig ar waith yn llwyddiannus.<\/p>\n<p>Mae\u2019n rhoi cyngor, gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol i ddarparwyr hyfforddiant i helpu i greu amgylchedd addas i bobl awtistig yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys ystyried elfennau synhwyraidd a chyfathrebu, ynghyd \u00e2 rheoli tasgau a chefnogaeth yn y gwaith.<\/p>\n<p>Yng gweithdy ar-lein yr hyfforddwyr c\u00e2nt wylio ffilm sy\u2019n dangos beth y mae awtistiaeth yn ei olygu i dri o bobl awtistig, yn cynnwys cyfathrebu cymdeithasol, patrymau ac arferion, profiadau synhwyraidd a sut i wneud gwelliannau. Mae Dr Elin Walker Jones, seicolegydd ymgynghorol, yn cyfrannu llais proffesiynol.<\/p>\n<p>Bwriad y ffilm yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth, yn enwedig mewn perthynas \u00e2 dysgu seiliedig ar waith, gan rannu gwybodaeth ac arferion da.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gwylio\u2019r ffilm ac edrych dros y pecyn adnoddau, mae\u2019n rhaid i\u2019r hyfforddwyr ateb cyfres o 20 o gwestiynau\u2019n gywir er mwyn cael Tystysgrif Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth.<\/p>\n<p>Mae un darparwr hyfforddiant, North Wales Training, wedi ennill y Dystysgrif Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth ar gyfer y cwmni ar \u00f4l i 41 allan o 45 o\u2019r hyfforddwyr a\u2019r aseswyr gwblhau\u2019r gweithdy\u2019n llwyddiannus ar 3 Mehefin.<\/p>\n<p>Dywedodd Ruth Collinge, rheolwr contractau North Wales Training, bod holl hyfforddwyr ac aseswyr y cwmni wedi elwa ar y gweithdy.<\/p>\n<p>\u201cMae gennym lawer o ddysgwyr sy\u2019n awtistig ac mae\u2019r staff, fel rhan o\u2019u datblygiad proffesiynol parhaus, bob amser yn chwilio am adnoddau dysgu newydd er mwyn eu cefnogi,\u201d meddai. \u201cMae adnoddau\u2019r T\u00eem Awtistiaeth Cenedlaethol ar gyfer staff a dysgwyr yn dda iawn ac maent wedi codi ymwybyddiaeth pawb. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r staff wedi dysgu sut i ddatblygu strategaethau dysgu neilltuol er mwyn deall dysgwyr awtistig a\u2019u cefnogi\u2019n well.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Wendy Thomas, arweinydd proffesiynol cenedlaethol y T\u00eem Awtistiaeth Cenedlaethol ym maes awtistiaeth, ei bod yn falch \u00e2\u2019r diddordeb a ddangoswyd yn y rhith-weithdy.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n dangos bod gwir angen am yr adnodd dysgu hwn,&#8221; meddai. \u201cRydym wrth ein bodd yn gweld pobl yn ei ddefnyddio ac yn rhoi\u2019r canllawiau ar waith.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n bwysig sicrhau bod pawb yn gwybod y gall pobl awtistig gymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith. Dylai pawb gael yr un cyfle i ddilyn yr yrfa o\u2019u dewis, pa un bynnag a ydyn nhw&#8217;n awtistig neu beidio. Y peth pwysicaf yw cael y person cywir i\u2019r swydd gywir.\u201d<\/p>\n<p>Roedd Humie Webbe yn falch bod daparwyr dysgu seiliedig ar waith a cholegau addysg bellach ledled Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i\u2019r gweithdai ar-lein ac roedd am eu hannog i gyd i ymgeisio am y Dystysgrif Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth i sefydliadau.<\/p>\n<p>\u201cMae darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru\u2019n awyddus iawn i sicrhau bod ganddynt y sgiliau a\u2019r wybodaeth angenrheidiol i gefnogi dysgwyr niwro-amrywiol,\u201d meddai. <\/p>\n<p>\u201cByddwn yn cynnal sesiynau dilynol yn yr hydref er mwyn clywed oddi wrth y darparwyr dysgu sut y maen nhw\u2019n defnyddio\u2019u sgiliau newydd a\u2019r adnoddau dysgu.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru\u2019n dilyn gweithdai ar-lein yn ystod pandemig COVID-19 er mwyn gwella\u2019r cymorth a roddir i ddysgwyr awtistig. Cofrestrodd 90 o bobl sy\u2019n gweithio i 18 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gweithdai-ar-lein-yn-helpu-hyfforddwyr-i-roi-gwell-cymorth-i-ddysgwyr-awtistig\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7442","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7442","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7442"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7442\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7442"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7442"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7442"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}