{"id":7455,"date":"2020-07-28T16:07:03","date_gmt":"2020-07-28T15:07:03","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7455"},"modified":"2020-07-28T16:10:35","modified_gmt":"2020-07-28T15:10:35","slug":"darparwyr-hyfforddiant-cymrun-40m-i-hybu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/darparwyr-hyfforddiant-cymrun-40m-i-hybu\/","title":{"rendered":"Darparwyr hyfforddiant Cymru\u2019n croesawu cronfa gymorth o \u00a340m i hybu sgiliau a swyddi"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wales-training-providers-welcome-40m-fund\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/darparwyr-hyfforddiant-cymrun-40m-i-hybu\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae sefydliad sy\u2019n cynrychioli dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel sydd \u00e2 chysylltiadau \u00e2 miloedd o gyflogwyr ledled Cymru wedi rhoi croeso cynnes i gronfa o \u00a340m i hybu sgiliau a swyddi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth).<\/p>\n<p>Dywed Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn bydd yn dal i gydweithio\u2019n agos \u00e2 Llywodraeth Cymru i gyflenwi\u2019r pecyn cymorth, sy\u2019n cynnwys rhagor o brentisiaethau, hyfforddeiaethau, cymorth i bobl sydd wedi colli eu swyddi a rhaglenni ailhyfforddi.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i gefnogi pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu eu helpu i gychwyn eu busnes eu hunain er mwyn helpu Cymru i ddod dros argyfwng y coronafeirws. Y nod yw \u201cailgodi\u2019n gryfach a sicrhau na chaiff neb ei adael ar \u00f4l\u201d.<\/p>\n<p>Wrth galon y gronfa newydd mae adduned y bydd pawb dros 16 oed yn cael yr help y mae arnynt ei angen i gael cyngor a chefnogaeth i ddod o hyd i waith neu i fynd yn hunangyflogedig neu i ganfod a derbyn lle mewn addysg neu hyfforddiant. <\/p>\n<p>Bydd pecyn Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru\u2019n helpu cyflogwyr i roi gwaith i weithwyr newydd, gyda chymelliadau iddynt recriwtio prentisiaid a phobl ifanc. Bydd hefyd yn helpu oedolion i oresgyn rhwystrau wrth gadw gwaith a chael gwaith, gan ganolbwyntio ar sectorau twf Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun yn rhoi pwyslais ar sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y bobl y bydd y dirywiad economaidd yn effeithio fwyaf arnynt, yn cynnwys pobl anabl, rhai o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod a rhai sydd heb lawer o sgiliau ac sydd ar gyflogau isel.<\/p>\n<p>Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cymorth yn hanfodol er mwyn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cynnydd disgwyliedig mewn diweithdra a\u2019r perygl y bydd y pandemig coronafeirws yn gwaethygu\u2019r anghydraddoldeb economaidd.<\/p>\n<div id=\"attachment_12649\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/27.06.19-MH-NTFW-Conference160-scaled-e1595936390275.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12649\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/27.06.19-MH-NTFW-Conference160-scaled-e1595936390275.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-12649\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12649\" class=\"wp-caption-text\">Jeff Protheroe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, NTfW<\/p><\/div>\n<p>Croesawyd y cyllid ychwanegol gan Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau\u2019r NTfW. \u201cEr ein bod yn disgwyl i gael gweld union fanylion yr hyn a gynigir, mae\u2019r cyhoeddiad heddiw yn amlwg yn gam i\u2019r cyfeiriad cywir,\u201d meddai. \u201cBydd y cyllid ychwanegol yn hwb sylweddol i&#8217;r cyflogwyr a\u2019r unigolion hynny fydd yn elwa ar y cymorth.<\/p>\n<p>\u201cMae gan Gymru raglenni gwych i hybu cyflogadwyedd a sgiliau eisoes, yn cynnwys prentisiaethau, hyfforddeiaethau a Twf Swyddi Cymru, pob un ohonynt yn cael eu cyflenwi trwy ein rhwydwaith o ddarparwyr safonol.<\/p>\n<p>\u201cBydd yr hyn a gynigiwyd heddiw yn sicrhau, nid yn unig bod yna rwyd ddiogelwch ar gyfer yr holl unigolion sydd mewn perygl o ddioddef, ond hefyd bod yna sbardun ar gyfer y rhai sy\u2019n awyddus i sicrhau gwell dyfodol, fel rhan o gynllun ehangach i adfer economi Cymru.<\/p>\n<p>\u201cGwyddom fod yr hinsawdd economaidd presennol yn amharu ar bobl ifanc yn barod a, heb ymyrraeth gan y llywodraeth, bydd hyn yn creu \u2018cenhedlaeth goll\u2019 arall. <\/p>\n<p>\u201cMae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno\u2019i bwriad ac mae ein rhwydwaith ni o ddarparwyr yn barod i\u2019w chefnogi ac i weithredu ar hynny. Yn awr, mae arnom angen i gyflogwyr ac unigolion fanteisio ar y pecyn cymorth fel y gallwn gydweithio i sicrhau bod \u2018T\u00eem Cymru\u2019 yn ailgodi\u2019n egn\u00efol o\u2019r sefyllfa economaidd bresennol.<\/p>\n<p>\u201cMae i brentisiaethau, hyfforddeiaethau a rhaglen Twf Swyddi Cymru fanteision pendant i gyflogwyr ac unigolion fel ei gilydd. Rydym yn annog pawb sy\u2019n gymwys i gael cymorth i wneud cais i\u2019r rhaglenni hyn er mwyn elwa ar eu llwyddiant.<\/p>\n<p>\u201cBydd yr NTfW a\u2019i aelodau\u2019n dal i gydweithio \u00e2 Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod pob ceiniog o\u2019r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei defnyddio er lles, a bod pob cyflogwr ac unigolyn sy\u2019n dymuno cael y cymorth yn derbyn y gwasanaeth a\u2019r canlyniad y maent yn ei haeddu.<\/p>\n<p>Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau<\/a> neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod mwy. <\/p>\n<p>Gall unigolion sy\u2019n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy\u2019n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae sefydliad sy\u2019n cynrychioli dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel sydd \u00e2 chysylltiadau \u00e2 miloedd o gyflogwyr ledled Cymru wedi rhoi croeso cynnes i gronfa o \u00a340m i hybu sgiliau a swyddi &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/darparwyr-hyfforddiant-cymrun-40m-i-hybu\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7455","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7455","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7455"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7455\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7455"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7455"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7455"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}