{"id":7536,"date":"2020-09-18T13:30:23","date_gmt":"2020-09-18T12:30:23","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7536"},"modified":"2020-09-16T14:31:57","modified_gmt":"2020-09-16T13:31:57","slug":"cystadleuwyr-o-gymru-tim-du-ewropeaidd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cystadleuwyr-o-gymru-tim-du-ewropeaidd\/","title":{"rendered":"Cystadleuwyr o Gymru wedi&#8217;u henwi yn Nh\u00eem y Du are gyfer Cystadleuaeth Ewropeaidd"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/team-uk-line-up\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cystadleuwyr-o-gymru-tim-du-ewropeaidd\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12798\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/montage-team-uk.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12798\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/montage-team-uk.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"219\" class=\"size-full wp-image-12798\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12798\" class=\"wp-caption-text\">Phoebe McLavy, Rhys Watts a Sam Everton<\/p><\/div>\n<p>Mae tri o bobl ifanc o Gymru wedi\u2019u dewis i gystadlu yn erbyn goreuon Ewrop yn y prawf sgiliau mawr cyntaf ers Brexit, sef EuroSkills. <\/p>\n<p>Y cystadleuwyr o Gymru yw Sam Everton, Phoebe McLavy a Rhys Watts a bydd y tri ohonyn nhw\u2019n rhan o d\u00eem y DU, sy\u2019n cynnwys 14 o\u2019r prentisiaid a\u2019r gweithwyr proffesiynol ifanc gorau, er mwyn cystadlu yn Graz, Austria ym mis Ionawr (6 \u2013 10).<\/p>\n<p><strong>Mae Sam Everton, sy\u2019n 23 oed ac yn dod o Gilgerran yn Sir Benfro<\/strong>, yn gweithio fel chef de partie yn The Grove, sef gwesty moethus yn Arberth. Dywedodd: \u201cMae\u2019n anrhydedd cael fy newis ac rwy\u2019n edrych ymlaen at weld beth fydd yn dod nesaf. Mae\u2019r daith hyd yma wedi bod yn wych ac rwy\u2019n edrych ymlaen at y cam nesaf.\u201d Fe enillodd Sam fedaliwn rhagoriaeth yn WorldSkills y llynedd yn Kazan ac mae hefyd wedi cystadlu yn Awstralia a Tsieina. <\/p>\n<p><strong>Mae Phoebe McLavy, sy\u2019n 21 oed ac yn byw yn Rhosan ar Wy<\/strong>, yn gweithio fel steilydd gwallt yn Salon Gwallt Reds. Dywedodd Pheobe: \u201cMae\u2019n deimlad gwych cael fy newis ar gyfer T\u00eem y DU ac rwy\u2019n edrych ymlaen at gyrraedd y gystadleuaeth a dangos i bawb beth rwyf wedi bod yn hyfforddi ar ei chyfer dros y tair blynedd diwethaf.\u201d Fe gystadlodd Phoebe yn WorldSkills yn Kazan, Russia yn 2019 ac ennill medal efydd.<\/p>\n<p><strong>Mae Rhys Watts, sy\u2019n 19 oed ac yn dod o Abertawe<\/strong>, yn brentis Technegydd Electroneg yng Ngholeg G\u0175yr. Fe ddywedodd: \u201cDyma oedd y tro cyntaf i mi gystadlu ar y lefel hwn. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i\u2019w ddweud pan gefais wybod fy mod wedi cael fy newis. Mae wedi fy helpu i fagu hyder yn barod.\u201d<\/p>\n<p>Bydd y t\u00eem sydd wedi\u2019u dewis, eu hyfforddi a\u2019u mentora gan elusen addysg a sgiliau WorldSkills UK, yn cystadlu yn erbyn dros 500 o gystadleuwyr o 28 o wledydd sy\u2019n ymarfer 45 o wahanol ddisgyblaethau sgiliau.<\/p>\n<p>Cafodd y gystadleuaeth ei gohirio oherwydd Covid ac mae\u2019n cael ei hystyried yn ddangosydd pwysig o ran safon systemau sgiliau&#8217;r DU yn erbyn cystadleuwyr economaidd allweddol ledled Ewrop.  <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:<\/strong> \u201cMae sgiliau lefel uchel yn hanfodol i economi Cymru lwyddo a byddant yn allweddol i\u2019n helpu ni i adfer ar \u00f4l effaith ddifrifol y coronafeirws.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cDyma pam ein bod ni wedi cyhoeddi pecyn cefnogi swyddi a sgiliau gwerth \u00a340m a fydd yn hanfodol i helpu cyflogwyr i gyflogi a hyfforddi gweithwyr newydd, gan gynnwys prentisiaid a phobl ifanc.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae\u2019n amlwg bod colegau a busnesau ledled Cymru yn helpu i ddatblygu rhai o\u2019r unigolion mwyaf talentog ar y lefel hon, a hoffwn ddymuno pob lwc i Sam, Pheobe a Rhys. Mae cael eich dewis ar gyfer T\u00eem y DU yn wych a dylai ein hunigolion talentog o Gymru fod yn falch iawn ohonyn nhw ei hunain am ennill y cyfle i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Bydd T\u00eem y DU yn cystadlu mewn sbectrwm eang o ddisgyblaethau sy\u2019n amrywio o beirianneg, adeiladu, lletygarwch, a phynciau digidol a chreadigol. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE:<\/strong> \u201cAnghofiwch am yr Ewros y tymor nesaf, mae\u2019r gystadleuaeth hon am fod yn wych ac mae\u2019n llawer iawn pwysicach at ddyfodol ein gwlad \u2013 mae\u2019n dangos bod y genhedlaeth nesaf yn datblygu\u2019r sgiliau sydd eu hangen arnom ni i helpu i adeiladu ein heconomi yn \u00f4l yn well a pharhau i allu cystadlu\u2019n rhyngwladol. <\/p>\n<p>\u201cMae llawer o ddamcaniaethau wedi bod ynghylch sut bydd y Deyrnas Unedig yn ffynnu o ran perfformiad sgiliau. Bydd y gystadleuaeth gyda 27 o\u2019n cymdogion agosaf ar draws y cyfandir yn feincnod gwych ac yn dangos doniau T\u00eem y DU.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae&#8217;r un deg pedwar ohonyn nhw eisoes wedi bod trwy broses hir o gystadleuaeth ranbarthol, rowndiau terfynol cenedlaethol a phroses dewis t\u00eem i gyrraedd y pwynt hwn.  Nawr, maent yn wynebu misoedd o hyfforddiant dwys er mwyn codi eu safonau i lefel rhyngwladol elit, dan arweiniad Rheolwyr Hyfforddi WorldSkills UK. <\/p>\n<p>Bydd llywodraethau a\u2019r diwydiant yn gwylio gyda diddordeb er mwyn meincnodi pa mor dda y bydd T\u00eem y DU yn perfformio o\u2019i gymharu \u00e2 phrif gystadleuwyr Ewropeaidd y wlad. Yn rownd derfynol flaenorol EuroSkills a gynhaliwyd yn Budapest yn 2018 \u2013 fe orffennodd T\u00eem y DU yn y nawfed safle. Bydd WorldSkills UK yn defnyddio Rownd Derfynol EuroSkills i gyfeirio gwaith ei Ganolfan Ragoriaeth, mewn partneriaeth \u00e2 Choleg Addysg Bellach Cenedlaethol, sy\u2019n defnyddio gwybodaeth unigryw WorldSkills UK mewn systemau sgiliau Ewropeaidd a byd-eang i rhoi lle blaenllaw i ragoriaeth mewn datblygu sgiliau.   <\/p>\n<p> <a href=\"https:\/\/www.inspiringskills.wales\/hafan\">Inspiring Skills Excellence in Wales<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/worldskillseurope.org\/\">EuroSkills<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.worldskillsuk.org\/\">www.worldskillsuk.org<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae tri o bobl ifanc o Gymru wedi\u2019u dewis i gystadlu yn erbyn goreuon Ewrop yn y prawf sgiliau mawr cyntaf ers Brexit, sef EuroSkills. Y cystadleuwyr o Gymru yw Sam Everton, Phoebe McLavy a Rhys Watts &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cystadleuwyr-o-gymru-tim-du-ewropeaidd\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[],"class_list":["post-7536","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7536","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7536"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7536\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7536"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7536"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7536"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}