{"id":7545,"date":"2020-09-23T09:30:40","date_gmt":"2020-09-23T08:30:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7545"},"modified":"2020-09-22T15:00:54","modified_gmt":"2020-09-22T14:00:54","slug":"myfyrio-ar-5-mlynedd-yn-rheoleiddiwr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/myfyrio-ar-5-mlynedd-yn-rheoleiddiwr\/","title":{"rendered":"Myfyrio ar 5 mlynedd yn Rheoleiddiwr Annibynnol Cymwysterau Nad Ydynt yn Raddau yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/reflecting-5-years-qualifications-wales\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/myfyrio-ar-5-mlynedd-yn-rheoleiddiwr\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12814\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/Cassy_Taylor_06-e1600440390599.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12814\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/Cassy_Taylor_06-e1600440390599.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-12814\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12814\" class=\"wp-caption-text\">Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;n bum mlynedd ers i Cymwysterau Cymru ddechrau gweithio fel rheolydd annibynnol cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru ac mae hyn felly yn rhoi cyfle inni fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma &#8211; ac edrych ymlaen at y dyfodol.<\/p>\n<p>O&#8217;r cychwyn cyntaf ein blaenoriaeth fu sicrhau bod pob cymhwyster yn addas at y diben a\u2019i fod yn diwallu anghenion addysg bellach, cyflogwyr a&#8217;r gymdeithas ehangach. Ac mae hynny&#8217;n egluro pam ein bod wedi neilltuo cymaint o amser ac ymdrech i edrych yn fanwl ar wahanol sectorau cyflogaeth.<\/p>\n<p>Y sector cyntaf i ni ei archwilio oedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofal plant. Mae digwyddiadau eleni, wrth i bandemig COVID-19 ysgubo drwy\u2019r byd, wedi dangos yn glir gymaint rydym yn gwerthfawrogi ac yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad ein gweithwyr iechyd, ein gofalwyr a\u2019n gweithwyr gofal plant. Dyna pam y mae&#8217;n rhaid i&#8217;r cymwysterau sydd ar gael iddyn nhw fod y gorau posibl.<\/p>\n<p>Fe wnaethom ni gyflwyno rhan gyntaf y cymwysterau newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant ym mis Medi 2019 ac eleni ychwanegwyd cymwysterau lefel 4 a 5 atyn nhw. Cr\u00ebwyd y gyfres newydd hon o gymwysterau yn dilyn ymgynghori helaeth \u00e2 dysgwyr, colegau a chyflogwyr yn y sector er mwyn sicrhau eu bod yn union yr hyn sydd ei angen.<\/p>\n<p>Mabwysiadwyd yr un ymagwedd mewn perthynas \u00e2\u2019n holl adolygiadau sector eraill. Cydweithrediad ac ymgynghori yw&#8217;r allwedd i&#8217;w llwyddiant, ac rydym yn falch bod ein dull o adolygu&#8217;r cymwysterau hyn wedi&#8217;i groesawu gan y bobl hynny sy&#8217;n gweithio, yn addysgu ac yn astudio yn y sectorau.<\/p>\n<p>Rydym ni nawr yn cyfrif yr wythnosau tuag at gyfnod dechrau dysgu\u2019r cymwysterau Adeiladu ac Amgylchedd Adeiledig newydd ym mis Medi 2021.<\/p>\n<p>Yn yr ad-drefniad mwyaf ers cenhedlaeth, mae marchnad gymhleth sy\u2019n cynnwys cannoedd o gymwysterau cyfredol yn cael ei symleiddio i greu cyfres o gymwysterau newydd a fydd yn helpu i ail-lunio addysg a hyfforddiant ar gyfer y diwydiant yng Nghymru.<\/p>\n<p>Bydd y cymwysterau newydd hyn yn cynnig gwell llwybrau dilyniant tuag at gyflogaeth yn achos y dysgwyr. Bydd yr asesiad yn symlach ac yn gadarn, ac yn sicrhau bod y bobl ifanc yn ennill y sgiliau a&#8217;r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfaoedd.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, rydym yn datblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster TAG UG\/ Safon Uwch newydd mewn Technoleg Ddigidol, a fydd ar gael i&#8217;w addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2022.<\/p>\n<p>Mae hyn yn dilyn ein hadolygiad o gymwysterau yn y sector technoleg ddigidol. Rydym wedi lansio arolwg er mwyn casglu barn ar y cynigion, a gellir cyrchu\u2019r rhain ar ein gwefan tan y dyddiad cau, sef 23 Hydref.<\/p>\n<p>Rydym hefyd wedi trefnu ambell weminar, lle byddwn yn crynhoi ein cynigion ar gyfer y cymhwyster newydd hwn ac yn caniat\u00e1u ichi ofyn cwestiynau. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr arolwg a\u2019r gweminarau ar ein <strong><a href=\"https:\/\/www.qualificationswales.org\/cymraeg\/cymerwch-ran\/ymgynghoriadau-ac-arolygon\/datblygu-meini-prawf-cymeradwyo-tag-uglefel-a-technoleg-ddigidol\/\">gwefan<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p>Hefyd, mis nesaf byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ein hadolygiad i gymwysterau yn y sectorau peirianneg, gweithgynhyrchu uwch lle byddwn yn nodi canfyddiadau gwaith gyda&#8217;r sector hanfodol hwn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n amser heriol i bawb sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chymwysterau galwedigaethol ac rydym yn falch o fod yn parhau \u00e2\u2019n rhaglen o adolygiadau sector ac yn ei ehangu dros y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn rhannu ein cynlluniau gyda chi yn fuan iawn ac rydym yn edrych ymlaen at berthynas agos barhaus \u00e2 Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a&#8217;i aelodau.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.qualificationswales.org\/cymraeg\/\">Cymwysterau Cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;n bum mlynedd ers i Cymwysterau Cymru ddechrau gweithio fel rheolydd annibynnol cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru ac mae hyn felly yn rhoi cyfle inni fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma &#8211; ac &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/myfyrio-ar-5-mlynedd-yn-rheoleiddiwr\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7545","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7545","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7545"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7545\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7545"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7545"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7545"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}