{"id":7556,"date":"2020-09-23T09:30:29","date_gmt":"2020-09-23T08:30:29","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7556"},"modified":"2020-09-22T14:57:43","modified_gmt":"2020-09-22T13:57:43","slug":"sgiliau-dysgu-ac-addysgu-digidol-yn-datblygu-ar-garlam","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sgiliau-dysgu-ac-addysgu-digidol-yn-datblygu-ar-garlam\/","title":{"rendered":"Sgiliau dysgu ac addysgu digidol yn datblygu ar garlam"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/accelerated-learning-in-digital-teaching-and-learning-skills\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sgiliau-dysgu-ac-addysgu-digidol-yn-datblygu-ar-garlam\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/enews-story-5-09-2020-nb-e1600634811220.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/enews-story-5-09-2020-nb-e1600634811220.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"alignleft size-full wp-image-12842\" \/><\/a><\/p>\n<p>Yn ddi-os, mae\u2019r newid sydyn a welwyd mewn dulliau dysgu ac addysgu oherwydd sefyllfa Covid-19 wedi cyflymu&#8217;r datblygiad yn y maes ymhlith y gweithlu dysgu seiliedig ar waith (DSW) yng Nghymru.<\/p>\n<p>Roedd yr <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2019-12\/astudiaeth-gwmpasu-dysgu-proffesiynol-ol-16-adroddiad-terfynol.pdf\">Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol \u00d4l-16<\/a>, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019, yn cynnig trosolwg o\u2019r \u2018bylchau sgiliau\u2019 yr oedd angen mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw yn y gweithlu \u00f4l-16 er mwyn gwella ansawdd cyffredinol addysgu yn y sector. Yn unol \u00e2 <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/digidol-2030-fframwaith-strategol\">Digidol 2030: Fframwaith strategol<\/a>, a gyhoeddwyd yn 2019 hefyd, cyfeiriai\u2019r adroddiad at yr heriau a wynebai ymarferwyr o ran defnyddio technoleg ddigidol ar gyfer addysgu\u2019n effeithiol. Roedd yn cydnabod bod diffyg sgiliau addysgu ym maes tiwtora ar-lein a datblygu\u2019r cwricwlwm. <\/p>\n<p>Ddechrau\u2019r flwyddyn, dechreuodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) gydweithio \u00e2\u2019r Dr Esther Barrett, Arbenigwr Pwnc, JISC Cymru, i ddatblygu rhaglen achrededig yn null \u2018hyfforddi\u2019r hyfforddwr\u2019 ar gyfer ymarferwyr. Byddai modd i bob darparwr raeadru hyn gan edrych ar sgiliau dysgu cyfunol mewn ffordd gydnabyddedig, gyda chysondeb, ar gyfer y gweithlu cyfan. <\/p>\n<p>Bydd cwrs \u2018Crafted Teaching, Active Learning\u2019 yn dechrau yn yr hydref 2020 a bydd pwyslais mawr ar &#8216;sut mae dysgwyr yn dysgu, sut mae addysgwyr yn addysgu a sut y gall sgiliau digidol helpu\u2019. Bydd y cwrs yn cydweddu \u00e2\u2019r <a href=\"https:\/\/hwb.gov.wales\/api\/storage\/04ac1db8-f5e0-4797-a806-89e9039b48eb\/safonau-proffesiynol-athrawon-addysg-bethach-ymarferwyr-dysgu-seliedig-ar-waith-nghymru.pdf\">Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru<\/a> ac \u00e2  <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/sites\/default\/files\/publications\/2019-06\/digidol-2030-fframwaith-strategol-ar-gyfer-dysgu-ol-16-digidol-yng-nghymru.pdf\">Digidol 2030: Fframwaith strategol ar gyfer dysgu \u00f4l-16 digidol yng Nghymru<\/a> sydd newydd ei ddatblygu. Yn ogystal, bydd y cwrs yn defnyddio Pasbort Dysgu Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg [CGA] i roi tystiolaeth ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus, myfyrio gan ymarferwyr, ac asesu. <\/p>\n<p>Bu NTfW yn dangos hefyd sut y gall technoleg gefnogi a gwella dulliau asesu mwy arloesol ac effeithiol yn y gweithle. Mae trafodaethau ar y gweill gyda Cymwysterau Cymru a chyrff dyfarnu ynghylch y brys cynyddol i ddefnyddio technoleg ar gyfer yr asesiadau hyn. Byddant yn arwain at opsiynau mwy hyblyg a defnyddio goruchwyliaeth o bell ar gyfer asesiadau a phrofion os yw goruchwylio wyneb yn wyneb yn anodd. <\/p>\n<p>Bu NTfW yn cynrychioli DSW ar gr\u0175p gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru ar ddysgu cyfunol, un o chwe ffrwd waith a sefydlwyd fel rhan o Gynllun Caderind COVID-19 ar gyfer y sector \u00f4l-16. Bydd y <a href=\"https:\/\/hwb.gov.wales\/dysgu-o-bell\/dysgu-a-sgiliau-ol-16\/canllawiau-dysgu-cyfunol-ar-gyfer-darparwyr-ol-16\">Canllawiau dysgu cyfunol ar gyfer darparwyr \u00d4l-16<\/a> yn rhoi cymorth ychwanegol i ymarferwyr ddefnyddio technoleg a phlatfformau dysgu digidol<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Yn ddi-os, mae\u2019r newid sydyn a welwyd mewn dulliau dysgu ac addysgu oherwydd sefyllfa Covid-19 wedi cyflymu&#8217;r datblygiad yn y maes ymhlith y gweithlu dysgu seiliedig ar waith (DSW) yng Nghymru. Roedd yr Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sgiliau-dysgu-ac-addysgu-digidol-yn-datblygu-ar-garlam\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7556","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7556","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7556"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7556\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7556"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7556"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7556"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}