{"id":7561,"date":"2020-09-23T09:30:13","date_gmt":"2020-09-23T08:30:13","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7561"},"modified":"2020-09-22T15:00:28","modified_gmt":"2020-09-22T14:00:28","slug":"newid-dy-stori-gydag-wythnos-addysg-oedolion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/newid-dy-stori-gydag-wythnos-addysg-oedolion\/","title":{"rendered":"Newid dy Stori gydag Wythnos Addysg Oedolion"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/change-your-story-with-adult-learners-week\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/newid-dy-stori-gydag-wythnos-addysg-oedolion\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/ALW-website-image-e1599912550279.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/ALW-website-image-e1599912550279.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-12774\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae\u2019r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&#038;W) mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru yn cydweithio \u00e2 nifer o bartneriaid i greu\u2019r gronfa fwyaf o addysg ar-lein trwy blatfform <a href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/cy\/\">Wythnos Addysg Oedolion<\/a> sy\u2019n cynnwys dros 800 o gyrsiau ac adnoddau ar-lein AM DDIM.  Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (21 \u2013 27 Medi) bydd nifer o wahanol ddosbarthiadau meistr, sesiynau profi, gweminarau a thrafodaethau byw. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/cy\/find-an-event\/\">Platfform dysgu ar-lein Wythnos Addysg Oedolion<\/a><\/p>\n<p>Mae rhaglen lawn y Dosbarthiadau Meistr i\u2019w <a href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/Adult-Learners-Week-Masterclass-Schedule-2020-Welsh-3.pdf\">gweld yma<\/a> <\/p>\n<p>Dydi hi ddim yn rhy hwyr i gofrestru\u2019ch cyrsiau, eich tiwtorialau a\u2019ch adnoddau ar-lein ar gyfer yr ymgyrch &#8211;  ebostiwch <a href=\"mailto:alwevents@learningandwork.org.uk\">alwevents@learningandwork.org.uk<\/a> i gael gwybod sut i ddod yn bartner yn yr ymgyrch.<\/p>\n<p>Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu ar gael. Maent wedi\u2019u rhannu\u2019n bum dosbarth, sef:<\/p>\n<ul>\n<li>Sgiliau Digidol a Thechnolegol<\/li>\n<li>Ymarfer, Iechyd a Llesiant<\/li>\n<li>Gwneud a Chreu<\/li>\n<li>Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd<\/li>\n<li>Ieithoedd a Chyfathrebu<\/li>\n<\/ul>\n<p>Caiff Wythnos Addysg Oedolion ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol a digidol, ar y radio ac yn y wasg, gan dynnu sylw at wybodaeth a chyngor a welir ar <a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/\">wefan Cymru\u2019n Gweithio<\/a>.<\/p>\n<p>Gallwch chi ymuno i hyrwyddo addysg a sgiliau oedolion ar lein yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Os hoffech chi hyrwyddo Dysgu Gydol Oes ledled Cymru, ymunwch ag L&#038;W ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio\u2019r hashnodau a\u2019r dolenni hyn:<\/p>\n<p><strong>Ymunwch yn y sgwrs:<\/strong><br \/>\n#changeyourstory<br \/>\n#newiddystori<br \/>\n#AdultLearnersWeek  #WythnosAddysgOedolion<\/p>\n<p>Twitter &#8211;  <a href=\"https:\/\/eur02.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Flearningandwork.acemlna.com%2Flt.php%3Fnotrack%3D1%26s%3D922a6e2586aeff856faa690beb21949f%26i%3D364A477A15A7787&#038;data=02%7C01%7Cnisha.patel%40learningandwork.org.uk%7Cb79af1db7a394ce2ec7608d8562fc8d2%7C008187e87d444849a332a9fd32d2032d%7C1%7C0%7C637354110532482626&#038;sdata=zNb0zKTDbHKtFc%2Fjv5GYLl00e4UYrp7s15sSJv%2BdUek%3D&#038;reserved=0\">@LearnWorkCymru<\/a><br \/>\nFacebook &#8211;  <a href=\"https:\/\/eur02.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Flearningandwork.acemlna.com%2Flt.php%3Fnotrack%3D1%26s%3D922a6e2586aeff856faa690beb21949f%26i%3D364A477A15A7788&#038;data=02%7C01%7Cnisha.patel%40learningandwork.org.uk%7Cb79af1db7a394ce2ec7608d8562fc8d2%7C008187e87d444849a332a9fd32d2032d%7C1%7C0%7C637354110532492584&#038;sdata=As%2Fuwo0wKk1C61Ycf0a9xGrDJWAkGTGrn9xbgvMtENE%3D&#038;reserved=0\">@learningandworkinstitute<\/a><br \/>\nInstagram &#8211; <a href=\"https:\/\/eur02.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Flearningandwork.acemlna.com%2Flt.php%3Fnotrack%3D1%26s%3D922a6e2586aeff856faa690beb21949f%26i%3D364A477A15A7789&#038;data=02%7C01%7Cnisha.patel%40learningandwork.org.uk%7Cb79af1db7a394ce2ec7608d8562fc8d2%7C008187e87d444849a332a9fd32d2032d%7C1%7C0%7C637354110532492584&#038;sdata=6ZEi5Yj5F1BpxL48AspPZve5LAkvyigPGdkX1h6b1mU%3D&#038;reserved=0\">@adultlearnersweekwales<\/a><\/p>\n<p>Mae adnoddau\u2019r ymgyrch i\u2019w cael <a href=\"http:\/\/www.sefydliaddysguagwaith.cymru\/ein-gwaith\/hyrwyddo-dysgu-a-sgiliau\/wythnos-addysg-oedolion\/cynllunio-digwyddiad\/\">yma ar wefan L&#038;W<\/a>. <\/p>\n<p><strong>Newid dy Stori<\/strong> yw\u2019r pennawd allweddol ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion. Gallwch ddefnyddio\u2019r ymgyrch i rannu\u2019ch stor\u00efau, i ddathlu llwyddiant oedolion sy\u2019n dysgu, ac i hyrwyddo\u2019r addysg a\u2019r sgiliau a gynigiwch i oedolion. <\/p>\n<p>Yn ogystal, byddwn yn rhyddhau cyfres o bodlediadau <strong>Newid dy Stori wedi\u2019u cyflwyno<\/strong> gan Nia Parry ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion. Dolenni a manylion i ddilyn.<\/p>\n<p>Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! 2020 ar <strong>21 Medi<\/strong> a byddwn yn rhyddhau eu ffilmiau a rhagor amdanyn nhw a&#8217;u teithiau dysgu ar ein cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<p>Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, David Hagendyk:  \u201cGwyddom y gall dysgu newid bywydau oedolion ac mae\u2019n bwysicach yn awr nag erioed i bobl gael cyfle i ailhyfforddi ar gyfer gwaith ac i ddysgu rhywbeth newydd er budd eu hiechyd a\u2019u lles.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r coronafeirws wedi taro pawb ohonom mewn rhyw ffordd. Mae addysg oedolion yn ffordd wych o\u2019n helpu ni i gyd i baratoi ar gyfer yr adferiad ac mae\u2019r holl dystiolaeth yn dangos y gall helpu pobl i gael gwaith a dyrchafiad, neu i ofalu am eu hiechyd a\u2019u lles.<br \/>\n\u201cYn ystod y cyfnod cloi, trodd miloedd o bobl at gyrsiau ar-lein er mwyn cadw mewn cysylltiad ag eraill a dysgu rhywbeth newydd. Wrth i ni ddechrau dat-gloi\u2019r economi a\u2019n cymunedau, ni fu erioed yn bwysicach ailddechrau dysgu.\u201d<\/p>\n<p>Newid dy stori, a mynd i wefan <a href=\"https:\/\/adultlearnersweek.wales\/cy\/\">Wythnos Addysg Oedolion<\/a> i gael gwybod rhagor<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.sefydliaddysguagwaith.cymru\/\">www.sefydliaddysguagwaith.cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae\u2019r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&#038;W) mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru yn cydweithio \u00e2 nifer o bartneriaid i greu\u2019r gronfa fwyaf o addysg ar-lein trwy blatfform Wythnos Addysg Oedolion sy\u2019n cynnwys dros 800 o gyrsiau ac adnoddau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/newid-dy-stori-gydag-wythnos-addysg-oedolion\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7561","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7561","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7561"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7561\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7561"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7561"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7561"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}