{"id":7575,"date":"2020-09-23T09:30:50","date_gmt":"2020-09-23T08:30:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7575"},"modified":"2020-09-22T15:00:04","modified_gmt":"2020-09-22T14:00:04","slug":"gwasanaeth-cyfeirio-cyflogwyr-yn-trefnu-eu-500fed-prentis-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwasanaeth-cyfeirio-cyflogwyr-yn-trefnu-eu-500fed-prentis-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Gwasanaeth cyfeirio cyflogwyr yn trefnu eu 500fed prentis yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/employer-referral-service-signs-up-500th-apprentice-in-wales\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwasanaeth-cyfeirio-cyflogwyr-yn-trefnu-eu-500fed-prentis-yng-nghymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12766\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/Tech_Wales_001-scaled-e1599838745766.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12766\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/Tech_Wales_001-scaled-e1599838745766.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"347\" class=\"size-full wp-image-12766\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12766\" class=\"wp-caption-text\">Y prentisiaid, Callum Ackery a Caitlyn Sheldon, gyda (o\u2019r chwith) rheolwr gyfarwyddwr ITeC Abertawe, Helen Necrews; cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW, Jeff Protheroe a chydgyfarwyddwyr Tech-Wales, Adrian Williams a Michael Price.<\/p><\/div>\n<p>Mae t\u00eem a benodwyd i\u2019w gwneud yn haws i gyflogwyr ymwneud \u00e2 Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu sgiliau eu gweithwyr wedi trefnu ei 500fed prentis.<\/p>\n<p>Mae T\u00eem Prentisiaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn helpu busnesau ledled Cymru i gyflogi prentisiaid ac yn annog recriwtio pobl ifanc i sectorau sydd o bwys cenedlaethol neu ranbarthol.<\/p>\n<p>Ariannir y t\u00eem gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ac mae\u2019n cydweithio\u2019n agos \u00e2 chyflogwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru i ymdrin ag ymholiadau am Brentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn canfod anghenion cyflogwr a pha fframwaith a llwybr Prentisiaethau sy\u2019n addas cyn ei gyfeirio at y darparwyr dysgu sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu Rhaglenni Prentisiaethau mewn sectorau penodol. Yna, mae\u2019r cyflogwr yn penderfynu gyda pha ddarparwr mae\u2019n dymuno gweithio. <\/p>\n<p>Cyrhaeddwyd carreg filltir y 500fed prentis pan recriwtiwyd Caitlyn Sheldon, 20, a Callum Ackery, 24, ar yr un pryd gan Tech-Wales o Bort Talbot. Mae\u2019r ddau yn gweithio ar Brentisiaeth i Weithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu a gyflenwir gan ITeC Abertawe.<\/p>\n<p>Mae Tech-Wales yn cynnig gwasanaethau cymorth TG, telathrebu a chyfrifiadura cwmwl i fusnesau bach a chanolig eu maint ledled De Cymru a Chanolbarth Lloegr.<\/p>\n<p>Dywedodd Adrian Williams, Cyfarwyddwr, mai Caitlyn a Callum yw prentisiaid cyntaf y cwmni a\u2019i fod wrth ei fodd \u00e2 nhw. Yn ystod cyfnod cloi Covid-19, bu\u2019r ddau brentis yn gweithio gartref gan gael hyfforddiant o bell gan y cwmni trwy Microsoft Teams.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n hoffi datblygu ein pobl yn ein ffordd ni o weithio ac, erbyn hyn, a ninnau\u2019n dod allan o\u2019r cyfnod cloi, mae Caitlyn a Callum yn barod am waith, sy\u2019n beth da gan fod y cwmni\u2019n brysurach nag ydoedd cyn Covid-19,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cDoedden ni ddim yn gwybod beth i\u2019w ddisgwyl wrth recriwtio ein prentisiaid cyntaf, ond mae wedi mynd yn dda iawn. Cawsom wasanaeth gwych gan D\u00eem Prentisiaethau NTfW ac ITeC Abertawe.\u201d<\/p>\n<p>Graddiodd Callum, sy\u2019n byw ym Mhort Talbot, mewn Dawns Trefol ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain cyn dod yn \u00f4l i Gymru i chwilio am waith. Er iddo ddilyn cwrs coleg mewn TG, cymerodd dros ddwy flynedd iddo gael ei dderbyn yn brentis datblygwr meddalwedd gyda Tech-Wales.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n ddiolchgar iawn fy mod yn gallu dysgu a datblygu gyda Tech-Wales sy\u2019n gwmni mor braf a chroesawgar i weithio iddo,\u201d meddai Callum, sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).<\/p>\n<p>\u201cRwy am symud ymlaen ym maes datblygu meddalwedd ac apiau i fod y gorau y gallaf fod.  Ar \u00f4l i chi ddatblygu&#8217;r sgiliau, gallwch chi fynd i unrhyw le yn y byd i weithio, a hoffwn wneud hynny yn y dyfodol.&#8221; <\/p>\n<p>Mae Caitlyn yn gweithio gyda\u2019r t\u00eem cymorth TG ac yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gadawodd yr ysgol \u00e2 lefelau \u2018A\u2019 ond heb fawr o syniad am yrfa bosibl. Ar \u00f4l bod yn y coleg, rhoddodd gynnig ar ychydig o swyddi a gwnaeth Brentisiaeth Sylfaen cyn ymuno \u00e2 Tech-Wales.<\/p>\n<p>\u201cBu gen i ddiddordeb erioed mewn TG ac rydw i wrth fy modd gyda fy swydd,\u201d meddai.  \u201cYn y math hwn o amgylchedd, mae yna lawer o ryddid i ganolbwyntio ar galedwedd, meddalwedd neu weithio gyda chwsmeriaid sy&#8217;n galw i mewn gyda phob math o wahanol broblemau.<\/p>\n<p>\u201cFy uchelgais yw symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) a gweld lle mae hynny&#8217;n fy arwain gyda&#8217;r cwmni.  Prentisiaeth yw&#8217;r peth gorau i mi oherwydd rwy&#8217;n mwynhau dysgu wrth ennill bywoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu&#8217;n bendant y dylai ysgolion wneud mwy i hyrwyddo Prentisiaethau yn hytrach na chanolbwyntio ar brifysgol a choleg yn unig, oherwydd mae cyflogwyr heddiw yn awyddus i gyflogi pobl sydd \u00e2 phrofiad o fyd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Bu Helen Necrews, rheolwr gyfarwyddwr ITeC Abertawe, yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 Tech-Wales i recriwtio Caitlyn a Callum gan deilwra\u2019r fframwaith Brentisiaethau i anghenion y cwmni.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n braf iawn cael atgyfeiriad trwy NTfW ar \u00f4l i gyflogwr fynegi diddordeb mewn recriwtio prentis,\u201d ychwanegodd. \u201cGobeithio y bydd Callum a Caitlyn yn symud ymlaen gyda Tech-Wales \u2013 mae\u2019r cwmni\u2019n haeddu ei ganmol am fwrw ymlaen gyda\u2019r Prentisiaethau yng nghyfnod Covid-19.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Ken Skates:  \u201cMae\u2019n newyddion gwych ein bod ni, ar y cyd ag NTfW, wedi trefnu ein 500fed prentis ers sefydlu\u2019r broses atgyfeirio ar Borth Sgiliau Busnes Cymru. <\/p>\n<p>\u201cDyna i chi 500 o bobl a oedd yn ansicr, efallai, ynghylch cyfeiriad eu gyrfa ond sydd, diolch i gefnogaeth Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru, yn ennill sgiliau, gwybodaeth a hyder newydd, gan ennill cyflog ar yr un pryd.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaetu\u2019n hanfodol i\u2019n heconomi ac yn rhan hollbwysig o\u2019n hymateb i effeithiau economaidd pandemig y coronafeirws.  Hoffwn ddymuno\u2019r gorau i Callum, Caitlyn a phawb sy\u2019n cychwyn ar brentisiaeth.  Hoffwn ddiolch hefyd i fusnesau sy\u2019n rhan o\u2019r rhaglen am eu hymrwymiad i helpu unigolion i symud ymlaen.\u201d<\/p>\n<p>Mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau o\u2019r NTfW ac mae ganddo gysylltiadau \u00e2 miloedd o gyflogwyr ledled Cymru. <\/p>\n<p>Dywedodd y cyfarwyddwr gweithrediadau, Jeff Protheroe: \u201cMae trefnu&#8217;r 500fed prentisiaeth yn garreg filltir anhygoel i&#8217;r gwasanaeth rydyn ni&#8217;n ei gynnig. Mae&#8217;r ffaith i hyn ddigwydd mewn cyfnod economaidd mor ansicr yn dangos gymaint y mae cyflogwyr ac unigolion yn gwerthfawrogi&#8217;r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.  <\/p>\n<p>\u201cYn ogystal \u00e2 bod yn wych gweld bod cyflogwyr yn dal i recriwtio prentisiaid i gynyddu a datblygu eu gweithluoedd, mae&#8217;n galonogol clywed straeon Callum a Caitlyn. Mae&#8217;r ddau\u2019n dangos bod pobl ifanc ddisglair a thalentog yn troi at brentisiaethau i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.  <\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n annog unrhyw gyflogwr sy\u2019n ystyried defnyddio\u2019r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru i ddatblygu eu busnes, ond sy\u2019n ansicr ble i ddechrau, i gysylltu \u00e2 ni yn NTfW. Mae&#8217;r Rhaglen Brentisiaethau yn barod iawn i helpu.&#8221;   Mae\u2019r Rhaglen Brentisiaethau yn barod iawn i helpu.\u201d<\/p>\n<p>Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau<\/a>  neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod mwy. <\/p>\n<p>Gall pobl sydd am wybod mwy am fanteision dod yn brentis ganfod rhagor o wybodaeth yn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a>.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae t\u00eem a benodwyd i\u2019w gwneud yn haws i gyflogwyr ymwneud \u00e2 Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu sgiliau eu gweithwyr wedi trefnu ei 500fed prentis. Mae T\u00eem Prentisiaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn helpu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwasanaeth-cyfeirio-cyflogwyr-yn-trefnu-eu-500fed-prentis-yng-nghymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7575","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7575","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7575"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7575\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7575"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7575"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7575"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}