{"id":7579,"date":"2020-09-23T09:30:03","date_gmt":"2020-09-23T08:30:03","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7579"},"modified":"2020-09-22T14:57:16","modified_gmt":"2020-09-22T13:57:16","slug":"sicrhau-sefyllfa-fwy-cyfartal-ar-gyfer-cymunedau-difreintiedig-a-dysgwyr-o-gefndiroedd-amrywiol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sicrhau-sefyllfa-fwy-cyfartal-ar-gyfer-cymunedau-difreintiedig-a-dysgwyr-o-gefndiroedd-amrywiol\/","title":{"rendered":"Sicrhau sefyllfa fwy cyfartal ar gyfer cymunedau difreintiedig a dysgwyr o gefndiroedd amrywiol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/reducing-inequalities-for-disadvantaged-communities-and-diverse-learners\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sicrhau-sefyllfa-fwy-cyfartal-ar-gyfer-cymunedau-difreintiedig-a-dysgwyr-o-gefndiroedd-amrywiol\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/enews-story-4-09-2020-nb-e1600634604914.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/enews-story-4-09-2020-nb-e1600634604914.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"alignleft size-full wp-image-12840\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae lledaeniad y coronafeirws wedi effeithio\u2019n fawr ar y sector dysgu seiliedig ar waith (DSW) gyda llawer o\u2019n dysgwyr ar ffyrlo neu\u2019n ddi-waith am fod busnesau wedi cau.  Mae&#8217;r pandemig wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau mewn cymdeithas gydag ymchwil yn dangos bod y feirws yn effeithio&#8217;n waeth ar bobl sy&#8217;n byw mewn cymunedau difreintiedig neu&#8217;n dod o gefndiroedd difreintiedig.   Mae Llywodraeth Cymru yn dal i drafod gyda&#8217;r sector gan gynnig canllawiau ar gyfer dychwelyd yn ddiogel i&#8217;n gweithleoedd.  Rydym hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd cofleidio ffyrdd digidol o weithio er mwyn cadw cysylltiad \u00e2&#8217;n cydweithwyr a&#8217;n dysgwyr.<\/p>\n<p>Bu&#8217;n gyfnod prysur i Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (SEDL) NTfW. Mae wedi cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi ar-lein i ddarparwyr DSW ac wedi ymuno \u00e2 sawl fforwm a gr\u0175p cynghori ar-lein er mwyn sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith yn dal i dalu sylw i faterion sy&#8217;n poeni dysgwyr o gefndiroedd amrywiol y mae coronafirws a&#8217;r cloi wedi amharu arnynt.  Yn fwyaf nodedig, gwahoddwyd y SEDL i ymuno ag Is-gr\u0175p Cymdeithasol-Economaidd BAME Prif Weinidog Cymru ar Covid-19 a fu&#8217;n ystyried pam y bu i&#8217;r feirws effeithio&#8217;n waeth ar bobl o gefndiroedd BAME ac a chwaraeodd ran allweddol wrth baratoi argymhellion adroddiad yr Is-gr\u0175p a oedd yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau ym meysydd iechyd, tai, addysg a chyflogaeth.  <\/p>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2&#8217;r gwaith hwn, mae&#8217;r SEDL yn cydweithio \u00e2 phrif ddarparwyr DSW i gynhyrchu ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn DSW. Mae wedi cynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid allanol i sicrhau bod gwaith yn y maes yn cael ei wneud gydag ymroddiad ac mewn ffordd gydgysylltiedig.  <\/p>\n<p>Gallwn ni, fel sector, ymfalch\u00efo yn y ffordd yr ydym wedi parhau i gefnogi ein dysgwyr i gwblhau eu fframweithiau yn ystod pandemig y coronafeirws. Er bod amseroedd heriol o&#8217;n blaen ym maes dysgu seiliedig ar waith, mae ein Strategaeth ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn DSW yn gyfle i symud ymlaen yn hyderus, gyda&#8217;n rhanddeiliaid allanol, i sicrhau model mwy cynhwysol ar gyfer prentisiaethau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae lledaeniad y coronafeirws wedi effeithio\u2019n fawr ar y sector dysgu seiliedig ar waith (DSW) gyda llawer o\u2019n dysgwyr ar ffyrlo neu\u2019n ddi-waith am fod busnesau wedi cau. Mae&#8217;r pandemig wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau mewn cymdeithas &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sicrhau-sefyllfa-fwy-cyfartal-ar-gyfer-cymunedau-difreintiedig-a-dysgwyr-o-gefndiroedd-amrywiol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7579","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7579","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7579"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7579\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7579"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7579"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7579"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}