{"id":7592,"date":"2020-09-23T09:30:35","date_gmt":"2020-09-23T08:30:35","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7592"},"modified":"2020-09-22T14:56:50","modified_gmt":"2020-09-22T13:56:50","slug":"cymorth-i-geiswyr-gwaith-ledled-de-ddwyrain-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cymorth-i-geiswyr-gwaith-ledled-de-ddwyrain-cymru\/","title":{"rendered":"Cymorth i geiswyr gwaith ledled de-ddwyrain Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/support-for-job-seekers-across-south-east-wales\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cymorth-i-geiswyr-gwaith-ledled-de-ddwyrain-cymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/sewales-virtual-jobs-fair-e1600702710602.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/09\/sewales-virtual-jobs-fair-e1600702710602.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-12854\" \/><\/a><\/p>\n<p>Bu sefydliadau o bob cwr o dde-ddwyrain Cymru yn cydweithio i gynnal ffair swyddi rithwir ar-lein am ddim ar Facebook ar 16 Medi.<\/p>\n<p>Nodau\u2019r ffair rithwir oedd:<\/p>\n<ul>\n<li>Galluogi cwsmeriaid i gael mynediad at swyddi gwag a chael cymorth gyda\u2019u hanghenion cyflogadwyedd, gan gynnwys y rhai ar seibiant, y di-waith neu\u2019r rhai mewn perygl o golli eu swyddi o ganlyniad i\u2019r pandemig COVID-19.<\/li>\n<li>Cynorthwyo cyflogwyr yn y rhanbarth i recriwtio, gan gynnwys y rhai sy\u2019n ei chael yn anodd llenwi swyddi gwag.<\/li>\n<li>Amlygu\u2019r cyfleoedd hyfforddi, addysg bellach (AB)\/addysg uwch (AU), prentisiaeth\/hyfforddeiaeth, addysg oedolion a chymorth cyflogaeth.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cynhaliwyd y digwyddiad am ddim gan Cymru\u2019n Gweithio, sy\u2019n dod o dan adain Gyrfa Cymru, mewn partneriaeth \u00e2 thimau Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a\u2019r Ganolfan Byd Gwaith ar draws de-ddwyrain Cymru. Y part\u00efon eraill oedd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), darparwyr dysgu seiliedig ar waith, awdurdodau lleol a sefydliadau AB ac AU.<\/p>\n<p>Yn cwmpasu ardaloedd Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, cafodd y rhai a fynychodd y digwyddiad fynediad at amrywiaeth o swyddi gwag mewn 24 o sefydliadau o wahanol ddiwydiannau\/sectorau, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, manwerthu, gwasanaethau brys, adeiladu a\u2019r sector creadigol. <\/p>\n<p>Cafwyd gwybodaeth hefyd am brentisiaethau\/hyfforddeiaethau\/AB\/AU yn ogystal \u00e2 chyngor gyrfaoedd arbenigol i gynorthwyo pobl i chwilio am swydd.  Cafodd y rhai a fynychodd gyfle i ofyn cwestiynau\u2019n uniongyrchol i gyflogwyr yn ogystal \u00e2 chael mynediad at gymorth pellach gan Cymru\u2019n Gweithio ac asiantaethau eraill yn ystod y digwyddiad ac ar \u00f4l y digwyddiad. <\/p>\n<p>Denodd y digwyddiad dros 600 o fynychwyr a chyrraedd dros 22,000 o bobl ar Facebook. <\/p>\n<p>Ymysg y cyflogwyr\/sefydliadau a fu\u2019n cymryd rhan roedd Tesco, Asda, ITV Cymru ac S4C, My Care My Home, Wales England Care Ltd, Q-Care, Royal Educare, Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Pineshield, Hyfforddiant Torfaen, Calon Cymru Fostering, Bailey Care, Randstad Inhouse Services, Gwasanaethau Dysgu Apollo, Supply Desk, Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Busnes Cymru, The Utility Warehouse, Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Faithful+Gould, Valley to Coast, Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy \u2013 Cyngor Caerffili, Change Grow Live, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth T\u00e2n ac Achub De Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Hyfforddiant Educ8, Y Prentis, Hyfforddiant Cambrian, Hyfforddiant ALS, ACT, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), Y Coleg Merthyr Tudful, Coleg Caerdydd a\u2019r Fro, Prifysgol De Cymru. <\/p>\n<p>Er bod y digwyddiad eisoes wedi\u2019i gynnal, gall unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb weld y swyddi drwy ddefnyddio\u2019r dolenni isod. Dewiswch \u2018yn mynd\u2019 a sicrhewch eich bod yn yr adran \u2018trafodaeth\u2019 i weld yr holl swyddi.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/events\/3188640451218152\/\">Digwyddiad Cymraeg<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/events\/324023462070767\/\">Digwyddiad Saesneg<\/a><\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Meddai prif weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence:<\/strong> \u201cEr bod y cyfyngiadau wedi\u2019u codi ledled Cymru, mae\u2019n rhaid i ni barhau i ohirio neu ganslo ffeiriau swyddi traddodiadol wyneb-yn-wyneb.  Nawr, yn fwy nag erioed o\u2019r blaen, mae ceiswyr gwaith a chyflogwyr yn dibynnu ar gymorth ar-lein i ddod o hyd i swyddi ac i lenwi swyddi gwag.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\nRydym felly yn falch o gael gweithio gyda\u2019n partneriaid yn ne-ddwyrain Cymru i gyflwyno\u2019r digwyddiad hwn. Mae ein cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn rhan hanfodol o gefnogi\u2019r economi yn ystod y pandemig hwn, ac mae\u2019r digwyddiadau hyn ar-lein yn ein galluogi i barhau i gyrraedd a chynorthwyo ein cwsmeriaid yn effeithiol ac yn ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Ariennir Cymru\u2019n Gweithio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop ac fe\u2019i lansiwyd gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates ym mis Mai 2019. <\/p>\n<p>Mae Cymru\u2019n Gweithio, sydd ar gael i unrhyw un dros 16 oed, yn darparu gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd cyflogadwyedd un-i-un wedi\u2019i deilwra, gan gynorthwyo pobl ledled Cymru i chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, hyfforddi ac uwchsgilio yn ogystal \u00e2 chael cymorth ar \u00f4l colli eu swydd.<\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am Cymru\u2019n Gweithio ewch i: <a href=\"https:\/\/cymrungweithio.llyw.cymru\/\">cymrungweithio.llyw.cymru<\/a> neu ffoniwch 0800 028 4844.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bu sefydliadau o bob cwr o dde-ddwyrain Cymru yn cydweithio i gynnal ffair swyddi rithwir ar-lein am ddim ar Facebook ar 16 Medi. Nodau\u2019r ffair rithwir oedd: Galluogi cwsmeriaid i gael mynediad at swyddi gwag a chael &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cymorth-i-geiswyr-gwaith-ledled-de-ddwyrain-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7592","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7592","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7592"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7592\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7592"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7592"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7592"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}