{"id":7607,"date":"2020-10-16T13:30:07","date_gmt":"2020-10-16T12:30:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7607"},"modified":"2020-10-15T17:31:38","modified_gmt":"2020-10-15T16:31:38","slug":"kepak-yn-targedu-prentisiaethau-yng-nghymru-i-uwchsgilioi-weithlu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kepak-yn-targedu-prentisiaethau-yng-nghymru-i-uwchsgilioi-weithlu\/","title":{"rendered":"Kepak yn targedu prentisiaethau yng Nghymru i uwchsgilio\u2019i weithlu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/kepak-targets-welsh-apprenticeships-to-upskill-its-workforce\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kepak-yn-targedu-prentisiaethau-yng-nghymru-i-uwchsgilioi-weithlu\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_12885\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/Press-pic-2-scaled-e1602756881645.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-12885\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/10\/Press-pic-2-scaled-e1602756881645.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"275\" class=\"size-full wp-image-12885\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-12885\" class=\"wp-caption-text\">Prentisiaid Aaron Buckler a Rebecca Sage yn St Merryn Merthyr, yn y llun gyda chyfarwyddwr safle Kepak, Paul Hughes, rheolwr AD Karan Dyer a phennaeth uned busnes bwyd a diod Cwmni Cambrian Chris Jones.<\/p><\/div>\n<p>Mae Kepak, y ffatri prosesu cig a\u2019r lladd-dy mwyaf yng Nghymru, wedi cofrestru i Raglen Brentisiaeth Llywodraeth Cymru i uwchsgilio a datblygu ei weithlu.<\/p>\n<p>Mae Kepak, sy\u2019n cyflogi 768 o bobl yng nghyfleusterau arloesol y cwmni yn St Merryn Merthyr, yn uwchsgilio 50 o aelodau staff yn y cam cyntaf o brentisiaethau, gan gynyddu i ryw 100 aelod o staff ymhen blwyddyn.<\/p>\n<p>Nod tymor hir y cwmni yw cynnig fframwaith prentisiaeth i\u2019w holl staff ym Merthyr Tudful. Mae yna angen penodol i ddenu a datblygu cigyddion medrus gan fod prinder ohonynt ar draws diwydiant cig y DU.<\/p>\n<p>Mae Kepak yn gweithio\u2019n agos gyda\u2019r darparwr dysgu yn y gwaith cenedlaethol, Hyfforddiant Cambrian, i gyflwyno prentisiaethau lefelau 2, 3 a 4 mewn Sgiliau\u2019r Diwydiant Cig a Dofednod, Sgiliau\u2019r Diwydiant Bwyd, Rheoli Bwyd, Arwain T\u00eem Bwyd a Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd.<\/p>\n<p>Dywedodd Paul Hughes, Cyfarwyddwr Safle Kepak St Merryn Merthyr: \u201cUn o brif werthoedd Kepak yw uchelgais. Rydym am fuddsoddi mewn Rhaglen Brentisiaeth sy\u2019n rhoi cyfle i\u2019n holl weithwyr dyfu a datblygu i\u2019w llawn botensial yn y busnes a bodloni eu nodau personol eu hunain.<\/p>\n<p>\u201cCeir prinder enfawr mewn sgiliau yn y diwydiant bwyd, yn enwedig yn y sector cig, ac mae disgwyl i hyn fod yn her hyd yn oed yn fwy i fusnesau fel ein rhai ni oni y cymerwn gamau cadarnhaol. Mae pwysigrwydd y sector cig wedi cael sylw ar hyd y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cEin blaenoriaeth ni yw uwchsgilio\u2019n gweithlu presennol, yna byddwn yn edrych i ddenu staff newydd a chynnig llwybr gyrfa glir iddynt. Rydym yn gobeithio y gallwn ddenu ystod amrywiol o ddoniau i\u2019n busnes. Ein nod yw cadw\u2019r doniau hynny trwy gynnig cyfleoedd i ddatblygu gyrfa mewn ffordd ymarferol a gwerth chweil.<\/p>\n<p>\u201cCaiff Hyfforddiant Cambrian ei argymell yn gryf fel partner hyfforddiant yng Nghymru. Mae\u2019n amlwg eu bod yn rhannu\u2019r un gwerthoedd \u00e2 ni. Mae ganddynt angerdd i ddarparu hyfforddiant o safon, meithrin perthnasoedd gyda\u2019n t\u00eem ar y safle, helpu pobl eraill i gyflawni eu llawn botensial a herio\u2019r status quo er mwyn cyflawni\u2019u gwaith. Maen nhw hefyd wedi addasu eu ffordd o gyflwyno hyfforddiant er mwyn gweddu i anghenion ein busnes ym Merthyr.<\/p>\n<p>\u201cCredwn fod y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru\u2019n ei rhoi i fusnesau fel ein un ni\u2019n flaengar iawn. Mae\u2019n gwneud y prentisiaethau hyn a chyfleoedd Twf Swyddi Cymru\u2019n realiti. <\/p>\n<p>\u201cRydym yn edrych ymlaen at gael mwy o bobl leol yn ymuno \u00e2\u2019n busnes a rhoi\u2019r cyfleoedd hyfforddiant hyn iddynt yn ystod y misoedd nesaf.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Chris Jones, pennaeth uned fusnes bwyd a diod Hyfforddiant Cambrian: \u201cRydym wrth ein boddau o weithio gyda Kepak ac edrychwn ymlaen at gyflwyno ystod o brentisiaethau yn St Merryn Merthyr. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n wych fod busnes o\u2019r maint hwn yng Nghymru\u2019n buddsoddi yn y dyfodol trwy ymrwymo i hyfforddi ac uwchsgilio\u2019i weithlu. Mae\u2019r cwmni\u2019n cydnabod y manteision o ymgymryd yn llawn mewn prentisiaethau ac mae ganddo ddiddordeb hefyd yn rhaglen Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:<strong> \u201cMae\u2019n amlwg bod Kepak yn ymrwymo i uwchsgilio a datblygu ei weithlu ac rwy\u2019n falch y bydd ein rhaglen brentisiaethau\u2019n helpu\u2019r cwmni i wneud hynny.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cGwna brentisiaethau gyfraniad enfawr at ein heconomi a ffurfiant ran dyngedfennol o\u2019n hadferiad o effeithiau difrifol coronafeirws. Rydym eisoes ar y trywydd iawn i gyflawni\u2019n nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor llywodraeth hwn, ond rydym yn gwneud mwy a bydd rhagor o gefnogaeth ar gael fel rhan o\u2019r pecyn swyddi a sgiliau gwerth \u00a340m a gyhoeddais ym mis Gorffennaf.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cDymunaf y gorau i bob un prentis yn Kepak yn awr ac yn y dyfodol. Rwy\u2019n gobeithio bod eu profiad o\u2019r brentisiaeth yn llawn boddhad ac yn werth chweil.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Cwmni bwyd teuluol, sy\u2019n wynebu\u2019r dyfodol yw Kepak a chanddo dreftadaeth gyfoethog o dros 50 mlynedd o waith cig. Ar \u00f4l sefydlu siop gigydd teuluol yn Nulyn ym 1966, mae Kepak wedi tyfu\u2019n sylweddol ac erbyn heddiw, mae gan y gr\u0175p drosiant o \u20ac1.6bn ac yn cyflogi dros 5,000 o bobl ar draws 12 safle gweithgynhyrchu yn Iwerddon a\u2019r DU.<\/p>\n<p>Mae Kepak yn cyflenwi toriadau dethol o gig i rai o\u2019r enwau mwyaf yn y byd adwerthu, cyfanwerthu a gwasanaeth bwyd ledled Iwerddon, y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol.<\/p>\n<p>Mae Kepak wedi buddsoddi erioed mewn gwelliant ac arloesedd parhaus yn y busnes cig, ar bob lefel, o\u2019i ddechreuad di-nod i\u2019w gweithrediad yn fyd-eang.<\/p>\n<p>Mae gan Hyfforddiant Cambrian, sy\u2019n 25 oed eleni, swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli a Llanfair-ym-Muallt. Mae gan y cwmni ryw 1,500 o ddysgwyr ar Raglenni Prentisiaeth a gyflwynir ar gyfer Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Ymhlith y prentisiaethau a gyflwynir gan y cwmni mae Lletygarwch, sy\u2019n cynnwys Coginio Crefftus a Sefydliad Tafarnwyr Prydain, Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, Cigyddiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar Plant, Ceffylau, Gwasanaethau Ariannol, Arwain a Rheoli T\u00eem, Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu, Adwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid, Rheoli Adnoddau\u2019n Gynaliadwy a Pheirianneg D\u0175r.<\/p>\n<p>Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cambriantraining.com\/wp\/cy\/\">Hyfforddiant Cambrian<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Kepak, y ffatri prosesu cig a\u2019r lladd-dy mwyaf yng Nghymru, wedi cofrestru i Raglen Brentisiaeth Llywodraeth Cymru i uwchsgilio a datblygu ei weithlu. Mae Kepak, sy\u2019n cyflogi 768 o bobl yng nghyfleusterau arloesol y cwmni yn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/kepak-yn-targedu-prentisiaethau-yng-nghymru-i-uwchsgilioi-weithlu\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7607","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7607","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7607"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7607\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7607"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7607"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7607"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}