{"id":7628,"date":"2020-12-17T09:32:51","date_gmt":"2020-12-17T09:32:51","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7628"},"modified":"2020-12-16T13:27:08","modified_gmt":"2020-12-16T13:27:08","slug":"cynnydd-o-40-yn-y-galw-am-brentisiaethau-gan-gyflogwyr-yng-nghymru-ers-mis-medi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynnydd-o-40-yn-y-galw-am-brentisiaethau-gan-gyflogwyr-yng-nghymru-ers-mis-medi\/","title":{"rendered":"Cynnydd o 40% yn y galw am brentisiaethau gan gyflogwyr yng Nghymru ers mis Medi"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/employer-demand-for-apprenticeships-rises-by-40-in-wales-since-september\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynnydd-o-40-yn-y-galw-am-brentisiaethau-gan-gyflogwyr-yng-nghymru-ers-mis-medi\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/1_Apprenticeships-scaled-e1607938393928.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/1_Apprenticeships-scaled-e1607938393928.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-13045\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae busnesau ym mhob sector ledled Cymru yn dal i gyflogi prentisiaid ac i gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy brentisiaethau er gwaethaf yr heriau economaidd a achoswyd gan bandemig COVID-19, yn \u00f4l ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi.<\/p>\n<p>Rhwng 1 Medi a 22 Tachwedd, dywed Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) bod 373 o gyflogwyr wedi cysylltu \u00e2\u2019i D\u00eem Prentisiaethau trwy Borth Sgiliau Busnes Cymru o\u2019i gymharu \u00e2 234 yn yr un cyfnod y llynedd. Yn ystod yr un cyfnod, cadarnhawyd bod 162 o bobl wedi cychwyn prentisiaethau.<\/p>\n<p>Ledled Cymru, gwelwyd cynnydd o 40% ar gyfartaledd yn nifer y busnesau sy\u2019n dymuno defnyddio prentisiaethau. Y diwydiant adeiladau a gwasanaethau adeiladu sydd ar y blaen yn hyn o beth.<\/p>\n<p>Hyd yma eleni, mae 1,330 o gyflogwyr wedi cysylltu \u00e2\u2019r T\u00eem Prentisiaethau trwy Borth Sgiliau Busnes Cymru o\u2019i gymharu \u00e2 1,172 yn 2019.<\/p>\n<p>Ariannir y t\u00eem gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ac mae\u2019n cydweithio\u2019n agos \u00e2 chyflogwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru i ymdrin ag ymholiadau am Brentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae\u2019r NTfW yn cynrychioli dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel ac mae ganddo gysylltiadau \u00e2 miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.<\/p>\n<p>Mae cyflogwr yn cychwyn y broses brentisiaethau trwy lenwi ffurflen mynegi diddordeb ar wefan Porth Sgiliau Busnes Cymru. Yna, mae T\u00eem Prentisiaethau NTfW yn cysylltu \u00e2\u2019r cyflogwr ac yn penderfynu pa fframwaith a llwybr prentisiaethau sy\u2019n addas cyn trosglwyddo\u2019r mater i\u2019r darparwyr dysgu sydd yn y sefyllfa orau i allu helpu\u2019r sector penodol hwnnw. Yna, mae\u2019r cyflogwr yn dewis gyda pha ddarparwr mae am weithio.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru\u2019n cynnig cymelldaliad o hyd at \u00a33,000 i fusnesau, tan 28 Chwefror y flwyddyn nesaf, am bob aelod newydd o\u2019r staff y maent yn eu recriwtio ac yn eu cofrestru ar y rhaglen brentisiaethau \u2013 hyd at 10 i bob cwmni. <\/p>\n<p>Yn ogystal, lansiwyd ymgyrch farchnata i hyrwyddo prentisiaethau sy\u2019n cael eu cyfrif yn arf allweddol er mwyn sicrhau adferiad economaidd Cymru ar \u00f4l y pandemig.<\/p>\n<p>Ym marn Catherine Morris-Roberts, rheolwr datblygu rhaglen brentisiaethau NTfW, mae\u2019r cymelldaliad, a lansiwyd ddiwedd Hydref, a\u2019r ymgyrch farchnata yn annog rhagor o gyflogwyr i ystyried cyflogi prentisiaid.<\/p>\n<p>Roedd ganddi ganmoliaeth i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru am fod yn hyblyg ac addasu\u2019r ffordd o ymdrin \u00e2 phrentisiaethau i ateb anghenion cyflogwyr yn ystod y pandemig. <\/p>\n<p>\u201cMae llawer o fanteision i gyflogi prentis,\u201d meddai. \u201cDoes dim ots pa mor fawr yw busnes nac ym ma sector y mae. Os yw busnes yn awyddus i ddatblygu gweithlu medrus, mae prentisiaethau\u2019n ddull fforddiadwy o ddenu pobl newydd ddawnus, sy\u2019n awyddus i ddysgu ac a fydd yn deyrngar i\u2019r busnes, neu i gynyddu sgiliau\u2019r gweithlu presennol.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n dda bod cyflogwyr ym mhob un o\u2019r 23 sector yng Nghymru yn cyflogi prentisiaid, nid dim ond y diwydiannau lle bu prentisiaethau\u2019n boblogaidd yn y gorffennol, sef adeiladu, peirianneg, gweithgynhyrchu a thrin gwallt.<\/p>\n<p>\u201cMae llawer o fusnesau\u2019n manteisio ar gymelldaliadau newydd Llywodraeth Cymru i gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol, yn enwedig mewn fframweithiau rheoli.<\/p>\n<p>\u201cMae busnesau eraill yn tyfu er gwaetha\u2019r pandemig ac yn cyflogi prentisiaid. Rydym yn gweld cynnydd yn fframweithiau prentisiaethau TG a marchnata digidol.\u201d<\/p>\n<p>Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau<\/a> neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod mwy. <\/p>\n<p>Gall unigolion sy\u2019n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy\u2019n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth\">llyw.cymru\/prentisiaethau-dewis-doeth<\/a><\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae busnesau ym mhob sector ledled Cymru yn dal i gyflogi prentisiaid ac i gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy brentisiaethau er gwaethaf yr heriau economaidd a achoswyd gan bandemig COVID-19, yn \u00f4l ffigurau sydd newydd eu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynnydd-o-40-yn-y-galw-am-brentisiaethau-gan-gyflogwyr-yng-nghymru-ers-mis-medi\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7628","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7628","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7628"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7628\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7628"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7628"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7628"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}