{"id":7640,"date":"2020-12-17T09:30:59","date_gmt":"2020-12-17T09:30:59","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7640"},"modified":"2020-12-17T09:50:13","modified_gmt":"2020-12-17T09:50:13","slug":"partneriaeth-sgiliaun-cyfrannu-at-lwybr-adferiad-llywodraeth-ymru-ar-ol-covid-19","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/partneriaeth-sgiliaun-cyfrannu-at-lwybr-adferiad-llywodraeth-ymru-ar-ol-covid-19\/","title":{"rendered":"Partneriaeth Sgiliau\u2019n cyfrannu at lwybr adferiad Llywodraeth Cymru ar \u00f4l COVID-19"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ccrsp-informing-welsh-governments-covid-19-pathway-to-recovery\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/partneriaeth-sgiliaun-cyfrannu-at-lwybr-adferiad-llywodraeth-ymru-ar-ol-covid-19\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/5_cardiff-capital-region-scaled-e1607729153464.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/5_cardiff-capital-region-scaled-e1607729153464.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"153\" class=\"alignleft size-full wp-image-12983\" \/><\/a><\/p>\n<p>Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (PSPRC) yw\u2019r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol yn ne-ddwyrain Cymru ac mae\u2019n cynnwys ardaloedd 10 awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru\u2019n disgwyl i\u2019r Bartneriaeth baratoi a dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, cynghori sut y dylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer sgiliau yn y dyfodol, a chynrychioli buddiannau ei rhanbarth wrth baratoi system sgiliau a seilir ar alw. <\/p>\n<p>Mewn rhaglen waith y cytunwyd arni, yn gysylltiedig \u00e2 phandemig y coronafeirws (COVID-19), bu Bartneriaeth yn cysylltu \u00e2 chyflogwyr a rhanddeiliaid yn ddiweddar er mwyn ceisio cael gwell dealltwriaeth o effaith y feirws ar sgiliau yn y de-ddwyrain. Casglwyd profiadau a theimladau pobl i\u2019w cynnwys mewn adroddiadau deufisol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ac fe gaiff y rhain eu defnyddio i gyfrannu at lwybr adferiad.  <\/p>\n<p>Yn \u00f4l y gwaith, mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar yr economi a gwaith ym maes sgiliau ers iddo ymddangos tua mis Ionawr 2020, ond cafodd rhai sectorau eu taro\u2019n waeth nag eraill. I fanylu, mae sector eang Deunyddiau Uwch a Gweithgynhyrchu yn wynebu heriau mawr, yn enwedig yn is-sectorau Awyrofod a  Moduron a\u2019r busnesau bach a chanolig cysylltiedig. Gan fod cynyrchiadau wedi\u2019u hatal, mae\u2019r sector Creadigol wedi dioddef yn sylweddol hefyd ac roddwyd llawer o sylw i\u2019r heriau sy\u2019n wynebu\u2019r sectorau sy\u2019n cynnal yr economi sylfaenol, yn cynnwys lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth.  Ym meysydd Adeiladu a Thechnolegau Galluogi Digidol, ymddengys bod y sefyllfa\u2019n amrywio: mae rhai busnesau\u2019n wynebu heriau mawr ond am gyfnod byrrach yr amharwyd ar waith busnesau eraill.<\/p>\n<p>Adroddir am dwf yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae\u2019n drawiadol mai ychydig o effaith a gafodd y pandemig yn sector y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Yma, gwelodd rhai busnesau ostyngiad mewn cynhyrchiant ar y dechrau ond yna bu cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid ac ymddengys felly na fu diffygion ariannol.  Gallai hyn, ynghyd \u00e2\u2019r angen am gysylltedd cyflym a thechnoleg feddygol fod yn hwb ar gyfer twf yn y dyfodol. Ym maes Technoleg Ddigidol, tyfodd yr angen am Seiberddiogelwch wrth i fusnesau sylweddoli bod cael staff yn gweithio gartref yn golygu bod angen cryfhau eu systemau.  <\/p>\n<p>Bu llai o waith dysgu a datblygu mewn llawer o fusnesau am gyfnod a dechreuwyd defnyddio dysgu cyfunol ar gyfer hyfforddiant hanfodol. O ran Prentisiaethau, ymddengys bod cyflogwyr yn benderfynol o gwblhau\u2019r elfen ddysgu yn llwyddiannus ond cydnabyddir bod anawsterau wedi codi ar gyfer yr elfennau cymhwysedd. Gallai fod yn anodd recriwtio prentisiaid yn y dyfodol, yn enwedig ar y llwybrau traddodiadol. <\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.ccrsp.co.uk\/cym\/SharedFiles\/Download.aspx?pageid=296&#038;mid=582&#038;fileid=218\"><strong>Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Adroddiad LMI Covid-19<\/strong><\/a> <\/p>\n<p>Yn ogystal, ar 18 Tachwedd, cyfrannodd PSPRC at ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, yn Senedd Cymru i ymateb y <a href=\"https:\/\/busnes.senedd.cymru\/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=28663\">Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i bandemig COVID a\u2019u r\u00f4l yn yr adferiad<\/a>.<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o\u2019r datblygiadau hyn, cysylltwch \u00e2: <a href=\"mailto:RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk\">RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk<\/a>.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiffcapitalregion.wales\/cy\/ynghlych\/partneriaeth-sgiliau\/\">Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (PSPRC) yw\u2019r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol yn ne-ddwyrain Cymru ac mae\u2019n cynnwys ardaloedd 10 awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru\u2019n disgwyl i\u2019r Bartneriaeth baratoi a dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, cynghori sut y &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/partneriaeth-sgiliaun-cyfrannu-at-lwybr-adferiad-llywodraeth-ymru-ar-ol-covid-19\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7640","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7640","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7640"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7640\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7640"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7640"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7640"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}