{"id":7642,"date":"2020-12-17T09:30:26","date_gmt":"2020-12-17T09:30:26","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7642"},"modified":"2020-12-15T09:42:46","modified_gmt":"2020-12-15T09:42:46","slug":"quals-wales-adeiladu-amgylchedd-adeiledig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-adeiladu-amgylchedd-adeiledig\/","title":{"rendered":"Diwygio Cymwysterau Adeiladu a\u2019r Amgylchedd Adeiledig"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/quals-wales-construction-built-environment\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-adeiladu-amgylchedd-adeiledig\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/6_Construction_Built-cropped.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/6_Construction_Built-cropped-e1608025270492.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"230\" class=\"alignleft size-full wp-image-13050\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae cyfres newydd o gymwysterau adeiladu a\u2019r amgylchedd adeiledig yn cael eu datblygu er mwyn diwallu anghenion sgiliau Cymru ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion, colegau ac ar brentisiaethau. Gan ddechrau ym mis Medi 2021, bydd y cymwysterau newydd yn cynig dilyniant clir o ddysgu i gyflogaeth yn y sector. Adeiladu a\u2019r amgylchedd adeiledig yw un o\u2019r sectorau cyflogaeth pwysicaf yng Nghymru. <\/p>\n<p><strong>Gweithio Gyda Rhanddeiliaid yn y Diwydiant<\/strong><br \/>\nMae cynrychiolwyr y diwydiant yn bwysig i lwyddiant y gyfres newydd hon o gymwysterau. Mae\u2019r wybodaeth a\u2019r cymwyseddau sy\u2019n cael eu cynnwys yn y cymwysterau\u2019n cael eu llunio gan gyflogwyr yng Nghymru. Drwy weithio gyda CITB, BESA, ECA, APHC a Cadw ymysg eraill, byddwn yn sicrhau bod yr hyn a ddysgir yn berthnasol i\u2019r hyn sydd ei angen ar y diwydiant o ran eu recriwtiaid, gan leihau\u2019r angen am ailhyfforddi unwaith y bydd dysgwr yn symud i fyd gwaith.  <\/p>\n<p><strong>Y Cymwysterau<\/strong><\/p>\n<p><strong>Iaith Gymraeg Lewyrchus<\/strong>. Bydd llawer o ddysgwyr yn dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ein cymwysterau newydd a\u2019n deunydd cymorth swyddogol a\u2019n cymwysterau prentisiaeth yn helpu i gefnogi ein cenedl ddwyieithog drwy sicrhau y bydd modd i bob dysgwr gael ei asesu yn y Gymraeg a\/neu\u2019r Saesneg.  <\/p>\n<p><strong>Bydd cymwysterau TGAU ac UG\/Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig newydd<\/strong> yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion a cholegau. Mae\u2019r cymwysterau hyn yn rhoi blas o sgiliau ymarferol ac yn cyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth o adeiladau a\u2019r diwydiant adeiladu a fydd yn werthfawr i ddysgwyr sy\u2019n mynd ymlaen i addysg bellach neu uwch. Bydd y lefel UG\/Safon Uwch newydd arloesol o ran darparu llwybr newydd cyffrous i raglenni gradd fel tirfesur, pensaern\u00efaeth a rheoli adeiladu. <\/p>\n<p><strong>Bydd y cymhwyster Sylfaen newydd mewn Adeiladu a\u2019r Amgylchedd Adeiledig<\/strong> yn rhoi cyflwyniad eang i ddysgwyr i\u2019r sector cyfan, gan gynnwys datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a\u2019u gallu i gyflawni tasgau mewn ffyrdd sy\u2019n diogelu iechyd, diogelwch a llesiant. Bydd y dysgwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol rhagarweiniol mewn dau faes crefft, gan eu galluogi i wneud dewis gwybodus yngl\u0177n \u00e2\u2019u crefft yn y dyfodol a defnyddio\u2019r sgiliau hyn yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Ar \u00f4l cwblhau\u2019r Sylfaen, bydd dysgwyr wedi eu paratoi\u2019n dda ar gyfer dechrau prentisiaeth. Mae\u2019r cymhwyster hwn wedi\u2019i gynllunio\u2019n bennaf ar gyfer astudio\u2019n llawn amser a bydd yn cael ei ddyfarnu ar lefel 2.  <\/p>\n<p><strong>Mae\u2019r Cymhwyster Dilyniant<\/strong> yn darparu llwybr i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymhellach mewn addysg bellach am flwyddyn arall, os nad ydynt yn symud ymlaen yn uniongyrchol i brentisiaeth ar \u00f4l cwblhau eu cymhwyster Sylfaen. Mae dysgwyr yn arbenigo mewn un grefft, gan ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a\u2019u dealltwriaeth o arfer cyfredol yn y grefft a newidiadau dros amser, tra hefyd yn parhau i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ehangach.  <\/p>\n<p><strong>Mae\u2019r Cymhwyster Prentisiaeth<\/strong> yn addas ar gyfer dysgwyr sydd am ddilyn ystod eang o lwybrau crefft. Maent yn caniat\u00e1u i ddysgwyr ddangos ystod eu gwybodaeth dechnegol, eu sgiliau a\u2019u dealltwriaeth yn eu crefft arbenigol, gan gynnwys y safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer y grefft honno. Bydd dysgwyr hefyd yn astudio arferion y sector yng Nghymru.<\/p>\n<p>I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cymwysterau hyn ymunwch \u00e2 rhestr bost cylchlythyr <a href=\"https:\/\/qualificationswales.org\/cymraeg\/cymerwch-ran\/cadw-mewn-cysylltiad\/cylchlythyrau\/\">Y Llechen<\/a>.<\/p>\n<p>Am fwy o wybodaeth ymwelwch \u00e2 gwefannau <a href=\"https:\/\/www.skillsforwales.wales\/cy\">Sgiliau i Gymru<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.cbac.co.uk\/cymwysterau\/amgylchedd-adeiledig-ug-safon-uwch\/#tab_overview\">CBAC<\/a> a <a href=\"https:\/\/qualificationswales.org\/cymraeg\/cymwysterau\/diwygio-cymwysterau\/diwygio-cymwysterau-galwedigaethol\/adeiladu-ar-amgylchedd-adeiledig\/\">Cymwysterau Cymru<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyfres newydd o gymwysterau adeiladu a\u2019r amgylchedd adeiledig yn cael eu datblygu er mwyn diwallu anghenion sgiliau Cymru ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion, colegau ac ar brentisiaethau. Gan ddechrau ym mis Medi 2021, bydd y cymwysterau &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/quals-wales-adeiladu-amgylchedd-adeiledig\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7642","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7642","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7642"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7642\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7642"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7642"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7642"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}