{"id":7719,"date":"2021-02-10T07:00:19","date_gmt":"2021-02-10T07:00:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7719"},"modified":"2021-02-10T00:22:51","modified_gmt":"2021-02-10T00:22:51","slug":"cyn-chwaraewr-rygbi-rhyngwladol-yn-dewis-gyrfan-gofalu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyn-chwaraewr-rygbi-rhyngwladol-yn-dewis-gyrfan-gofalu\/","title":{"rendered":"Cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yn dewis gyrfa\u2019n gofalu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ex-wales-rugby-star-peter-swaps-scrums-for-a-caring-career\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyn-chwaraewr-rygbi-rhyngwladol-yn-dewis-gyrfan-gofalu\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13104\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Peter-Rogers-scaled-e1612915576534.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13104\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Peter-Rogers-scaled-e1612915576534.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"450\" class=\"size-full wp-image-13104\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13104\" class=\"wp-caption-text\">Peter Rogers sy\u2019n datblygu gyrfa newydd diolch i brentisiaethau.<\/p><\/div>\n<p>Mae Peter Rogers a fu\u2019n brop yn nh\u00eem rygbi Cymru yn un o brentisiaid hynaf ei wlad erbyn hyn gan ddefnyddio sgiliau oedd yn werthfawr iddo wrth wynebu rhai o dimau rygbi gorau\u2019r byd yn ei yrfa newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.<\/p>\n<p>Enillodd Peter, sy\u2019n 51 oed, 18 cap i Gymru a bu\u2019n chwarae i dimau Gwyddelod Llundain, Casnewydd, Caerdydd a Roma. Yn ei farn ef, mae gyrfa ym maes gofal yn ddelfrydol i ddynion a menywod a fu\u2019n broffesiynol ym maes chwaraeon.<\/p>\n<p>\u201cEfallai nad yw\u2019n ymddangos yn waith cyffrous iawn ond, yn fy marn i, mae gofal iechyd yn y cartref yn ddelfrydol i bobl a fu\u2019n chwaraewyr proffesiynol ac sydd heb yrfa\u2019n disgwyl amdanyn nhw ar \u00f4l ymddeol,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae angen sgiliau tebyg mewn chwaraeon proffesiynol a gofal iechyd yn y cartref \u2013 disgyblaeth, gwaith t\u00eem, cyfathrebu\u2019n dda, cryfder meddyliol, a\u2019r gallu i ddelio \u00e2 sefyllfaoedd cymhleth sy\u2019n gofyn am gefnogaeth. Mae\u2019r ddwy yrfa\u2019n rhoi boddhad mawr.\u201d<\/p>\n<p>Dywed Peter, sy\u2019n byw yng Nghaerdydd gyda\u2019i wraig, Stephanie, ei fod yn falch o ddilyn yn \u00f4l traed ei dad, Phillip, a oedd yn weithiwr cymdeithasol yn Abertawe.<\/p>\n<p>Roedd Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a drefnwyd gan y darparwr dysgu gr\u0175p t2, yn ddigon i agor y drws iddo i yrfa newydd gyda Right at Home, Caerdydd a Chasnewydd. Erbyn hyn mae wedi symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) i ddatblygu ei sgiliau rheoli, gan gynnwys helpu i asesu cleientiaid.<\/p>\n<p>\u201cPan ddechreuais i gyda Right at Home ym mis Mehefin 2019, dim ond am ryw flwyddyn ro\u2019n i\u2019n bwriadu aros,\u201d esboniodd. \u201cNawr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, dydw i ddim yn credu y gwna i adael y diwydiant gofal; byddai gormod o hiraeth arna i am ddefnyddwyr rheolaidd y gwasanaeth.<\/p>\n<p>\u201cFe gefais i hyfforddiant ardderchog. Rwy\u2019n mwynhau mynd i dai pobl i ddarparu gofal ac rwy\u2019n cael teimlad braf bob dydd, rhywbeth nad ydych yn ei gael mewn llawer o swyddi. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r prentisiaethau wedi rhoi\u2019r wybodaeth ymarferol a\u2019r sgiliau bywyd i mi i wneud y gwaith, ynghyd \u00e2\u2019r hyder i drafod pethau pwysig gyda defnyddwyr y gwasanaeth. Wrth ddod i wybod mwy, rwy\u2019n mwynhau\u2019r gwaith yn fwy hefyd.<\/p>\n<p>\u201cA minnau\u2019n 50 pan ddechreuais ar y brentisiaeth, mae\u2019n rhaid fy mod i\u2019n un o brentisiaid hynaf Cymru. Mae\u2019n dangos nad ydych byth yn rhy hen i ddysgu.\u201d<\/p>\n<p>Nid Peter yw\u2019r unig aelod o\u2019i deulu sy\u2019n elwa ar brentisiaeth \u2013 mae ei fab, Jack, yn brentis trydanwr. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Abbey Folland, rheolwr hyfforddi a gweinyddu gyda Right at Home, Caerdydd a Chasnewydd:<\/strong> \u201cMae prentisiaethau a dysgu pellach yn werthfawr iawn, yn enwedig yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gan eu bod yn galluogi ac yn cefnogi pobl i newid cyfeiriad yn llwyr a dechrau gyrfa newydd.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cDoedd gan Peter ddim cefndir na phrofiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol pan gychwynnodd ei daith gyda ni ond fe roddodd gynnig arni am ei fod yn awyddus i dalu yn \u00f4l. Hwyliodd yn ddiffwdan trwy ei gymhwyster  a\u2019i brentisiaeth ac mae hynny wedi\u2019i helpu i ddod yn ofalwr gwych.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cErbyn hyn mae Peter wedi cychwyn ar Brentisiaeth Uwch i\u2019w helpu i ddeall a dysgu mwy am y sector iechyd a gofal cymdeithasol a gwneud gwaith swyddfa yn y maes.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n addas i bobl o bob cefndir a phob oed ac maen nhw\u2019n bwysig iawn er mwyn sicrhau bod ein gofalwyr yn cyrraedd y safon uchaf.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Meddai Emma Pridmore, rheolwr marchnata t2: \u201cMae Peter yn enghraifft wych sy\u2019n dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa a bod prentisiaeth yn gallu helpu\u2019r broses honno. <\/p>\n<p>\u201cRydym yn gweithio\u2019n galed i dynnu sylw at y ffaith fod prentisiaethau\u2019n addas i bawb sydd dros 16, nid dim ond pobl ifanc. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru\u2019n cynnig cymelliadau ardderchog i gyflogwyr i recriwtio rhagor o brentisiaid er mwyn helpu Cymru i ailgodi ar \u00f4l dioddef effaith pandemig COVID-19.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Ken Skates:<\/strong> \u201cMae\u2019n wych gweld Peter yn ffynnu yn y gwaith ac yn cynnig cymorth hollbwysig i\u2019r bobl sydd \u00e2\u2019r angen mwyaf.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae taith Peter yn dangos bod prentisiaethau\u2019n addas i bobl o bob oed ac rwy wrth fy modd ei fod yn cael cymaint o foddhad.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru ac yn helpu pobl i ennill cyflog wrth ddatblygu sgiliau a galluoedd newydd.<br \/>\n&nbsp;<br \/>\n\u201cRydym ni, yn y llywodraeth, eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon ac rwy\u2019n eithriadol o falch o hynny.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Peter Rogers a fu\u2019n brop yn nh\u00eem rygbi Cymru yn un o brentisiaid hynaf ei wlad erbyn hyn gan ddefnyddio sgiliau oedd yn werthfawr iddo wrth wynebu rhai o dimau rygbi gorau\u2019r byd yn ei yrfa &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyn-chwaraewr-rygbi-rhyngwladol-yn-dewis-gyrfan-gofalu\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-7719","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7719","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7719"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7719\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7719"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7719"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7719"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}