{"id":7722,"date":"2021-02-15T07:00:06","date_gmt":"2021-02-15T07:00:06","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7722"},"modified":"2021-02-12T20:05:06","modified_gmt":"2021-02-12T20:05:06","slug":"ser-dysgu-seiliedig-ar-waith-ar-restrau-byrion-gwobrau-prentisiaethau-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ser-dysgu-seiliedig-ar-waith-ar-restrau-byrion-gwobrau-prentisiaethau-cymru\/","title":{"rendered":"S\u00ear Dysgu Seiliedig ar Waith ar restrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/aac-finalists-2021\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ser-dysgu-seiliedig-ar-waith-ar-restrau-byrion-gwobrau-prentisiaethau-cymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13138\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/AAC-finalists-press-pic-scaled-e1613158635723.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13138\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/AAC-finalists-press-pic-scaled-e1613158635723.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"272\" class=\"size-full wp-image-13138\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13138\" class=\"wp-caption-text\">Yr arweinydd dysgu, Alex Laurie gyda\u2019r prentisiaid, Rhydian Price a Charlotte Clissold o Dow Silicones UK Limited yn y Barri, a gyrhaeddodd rownd derfynol y categori Cyflogwr Mawrth y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p><\/div>\n<p>Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni.<\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 36 o ymgeiswyr yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori mewn seremoni ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:<\/strong> \u201cLlongyfarchiadau i\u2019r holl ddysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi cyrraedd rhestrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<br \/>\n &nbsp;<br \/>\n\u201cBu\u2019r flwyddyn ddiwethaf yn eithriadol o anodd ond rydym wedi gweld pobl ar eu gorau hefyd, wrth iddynt ddangos bod ganddynt y ddawn, y sgiliau a\u2019r ymroddiad i lwyddo eu hunain ac i gefnogi eraill.<br \/>\n &nbsp;<br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru ac yn galluogi pobl i ennill cyflog wrth ddatblygu sgiliau a galluoedd newydd. Credaf y byddant yn chwarae rhan hollbwysig yn ein helpu i ddod dros effeithiau\u2019r coronafeirws.<br \/>\n &nbsp;<br \/>\n\u201cRydyn ni fel llywodraeth eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon. Diolch i waith Llywodraeth Cymru, rydym yn rhoi profiadau pwysig i brentisiaid a hyfforddeion o bob oed gan sicrhau bod cwmn\u00efau yn holl sectorau\u2019r gymuned fusnes yn elwa yn awr ac i\u2019r dyfodol. Rwy\u2019n falch iawn o hynny.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Dywedodd Connie Dixon, cyfarwyddwr partneriaethau Openreach yng Nghymru:<\/strong> \u201cRydym wrth ein bodd o gael cefnogi\u2019r digwyddiad gwych hwn eto eleni a hoffem longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion.<\/p>\n<p>\u201cBu prentisiaethau\u2019n rhan allweddol o strategaeth recriwtio Openreach erioed. Yn ogystal \u00e2 dod ag egni, cyffro a brwdfrydedd i\u2019n busnes, maen nhw\u2019n dod \u00e2 sgiliau newydd, profiadau newydd a syniadau newydd. Pob hwyl i bawb sydd yn y rownd derfynol.\u201d<\/p>\n<p>Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod \u00e2 gwobrau mewn pedwar categori. Dyma\u2019r rhai sydd yn y rownd derfynol: Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1 i 49 o weithwyr): Compact Orbital Gears, Rhaeadr Gwy; Wales England Care Limited, Casnewydd a Thomas Skip and Plant Hire, Caernarfon. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 i 249 o weithwyr): Andrew Scott Limited, Port Talbot; Convey Law, Casnewydd a Cambria Maintenance Services Limited, Ewlo. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 i 4,999 o weithwyr): Heddlu Dyfed Powys, Caerfyrddin; Aspire Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, a Dow Silicones UK Limited, Barry. Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5,000+ o weithwyr): Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cwm Clydach a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Baglan.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cystadlu am ddwy wobr: Yn y rownd derfynol mae: Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Matt Redd, o Gaerdydd sy\u2019n gweithio i Sgil Cymru, Rebecca Strange o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd sy\u2019n gweithio i Educ8 Group a Lydia Harris o Ben-y-bont ar Ogwr sy\u2019n gweithio i JGR Training. Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Stephanie Fry o Wales England Care, Casnewydd, Hannah Kane-Roberts o Sblot, Caerdydd sy\u2019n gweithio i Itec a Karen Richards o\u2019r Coed Duon sy\u2019n gweithio i ACT, Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae pedwar categori ar gyfer y gwobrau i brentisiaid. Yn y rownd derfynol mae: Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Bethany Mason, 21, Llantrisant; Stevie Williams, 36, o Goetre, Port Talbot a Joel Mallison, 30, o\u2019r Fenni. Prentis y Flwyddyn: William Davies, 20, Aberd\u00e2r; Owain Carbis, 19, Draenen Pen-y-graig, Caerdydd; Owen Lloyd, 23, Coed y Cwm, Pontypridd. Prentis Uwch y Flwyddyn: Natalie Morgan, 33, Penarth; Rhyanne Rowlands, 38, Aberd\u00e2r; Ciara Lynch, 22, Treforys, Abertawe. <\/p>\n<p>Cyflwynwyd y wobr \u201cDoniau\u2019r Dyfodol\u201d yn 2019 gan ofyn i gyflogwyr enwebu prentisiaid presennol sy\u2019n disgleirio. Yn y rownd derfynol mae Sophie Williams, 21, o Hirwaun, sy\u2019n gweithio i wasanaeth maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Connor Paskell, 21, o Lantrisant, sy\u2019n gweithio i British Airways Avionic Engineering, Llantrisant a Ryan Harris, 21, o\u2019r Ddraenen Wen, Pontypridd sy\u2019n gweithio i Renishaw plc, Meisgyn.<\/p>\n<p>Mae\u2019r categori cyflogadwyedd yn cydnabod dysgwyr mewn dau gategori. Yn y rownd derfynol mae: Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Jessica Apps, 19, o Forge Side, Blaenafon; Ross Vincent, 18, o Ddoc Penfro a Lewis O&#8217;Neill, 17, Garden City, Glannau Dyfrdwy. Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Thibaud Gailliard, 21, o Lyn Ebwy; James Hopkins, 20, o Beachley, Cas-gwent a Chloe Harvey, 19, o Gil-maen, Sir Benfro. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\">llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ser-dysgu-seiliedig-ar-waith-ar-restrau-byrion-gwobrau-prentisiaethau-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7722","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7722","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7722"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7722\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7722"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7722"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7722"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}