{"id":7758,"date":"2021-02-23T16:45:56","date_gmt":"2021-02-23T16:45:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7758"},"modified":"2021-02-23T16:38:33","modified_gmt":"2021-02-23T16:38:33","slug":"joel-mallison","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/joel-mallison\/","title":{"rendered":"Gyrfa ddifyr gydag Openreach o fewn cyrraedd i Joel y prentis"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/joel-mallison\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/joel-mallison\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13190\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Joel-Mallison-10-Land-scaled-e1614098125896.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13190\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Joel-Mallison-10-Land-scaled-e1614098125896.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13190\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13190\" class=\"wp-caption-text\">Joel Mallison, gyrfa ddifyr o fewn cyrraedd.<\/p><\/div>\n<p>Mae Joel Mallison, prentis a cherddor, wedi taro\u2019r nodyn ar ei ben wrth newid gyrfa gan ei fod yn gwneud yn ardderchog fel prentis gyda chwmni telathrebu Openreach.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l mynd i astudio cerddoriaeth a graddio gyda rhagoriaeth mewn Cynhyrchu ar gyfer y Radio, bu Joel, 30, o\u2019r Fenni, yn gweithio ym musnes paentio ac addurno ei dad am chwe blynedd cyn penderfynu newid gyrfa.<\/p>\n<p>Gan fod ganddo ddiddordeb mewn telathrebu, aeth at Openreach a chwblhau Prentisiaeth Sylfaen ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol mewn TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu fis Medi diwethaf. Darparwyd y brentisiaeth gan Openreach a\u2019i chefnogi gan ALS Training, Caerdydd.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Joel wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<br \/>\nMae gyrfa Joel yn datblygu\u2019n gyflym. Mae\u2019n gweithio i safon uchel ac yn frwd iawn dros ddysgu sgiliau newydd sy\u2019n golygu ei fod yn gallu atgyweirio diffygion cymhleth a hyfforddi gweithwyr yn Openreach ar yr un pryd. Mae\u2019n nod ganddo ddod yn uwch-beiriannydd, fel ei fentor gyda\u2019r cwmni.<\/p>\n<p>\u201cUn o\u2019r prif bethau oedd yn apelio ata i am Raglen Brentisiaethau Openreach oedd y cyfle i gael gyrfa a allai roi boddhad go iawn i mi a swydd ddiogel,\u201d meddai Joel, sy\u2019n brif ganwr ac yn gitarydd mewn band yn ei amser hamdden.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n teimlo bod telathrebu\u2019n bwysig iawn ar gyfer y dyfodol, fel yr ydym wedi\u2019i weld yn ystod pandemig Covid. Trwy\u2019r Rhaglen Brentisiaethau, rwy wedi llwyddo i lansio fy ngyrfa fy hunan a hybu gyrfaoedd pobl eraill trwy eu hyfforddi.\u201d<\/p>\n<p>Un o\u2019r tasgau sydd wedi rhoi\u2019r boddhad mwyaf i Joel hyd yma oedd gweithio am 10 awr, gan ddefnyddio\u2019r holl sgiliau a ddysgodd fel prentis, i atgyweirio cabinet o ffibrau oedd wedi\u2019u difrodi, er mwyn adfer gwasanaeth band eang dros 100 o gwsmeriaid, llawer ohonynt yn weithwyr allweddol. <\/p>\n<p>Dywedodd rheolwr bro Openreach yn ardal y Fenni, Matthew James: \u201cMae Joel yn gydwybodol iawn ac mae\u2019n chwilio\u2019n barhaus am ffyrdd o ehangu ei wybodaeth a\u2019i sgiliau trwy fod yn chwilfrydig ac yn awyddus i weithio. Ar \u00f4l gweithio gyda Joel, mae fy nisgwyliadau ar gyfer fy mheirianwyr yn uchel iawn.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.  <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Joel Mallison, prentis a cherddor, wedi taro\u2019r nodyn ar ei ben wrth newid gyrfa gan ei fod yn gwneud yn ardderchog fel prentis gyda chwmni telathrebu Openreach. Ar \u00f4l mynd i astudio cerddoriaeth a graddio gyda &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/joel-mallison\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7758","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7758","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7758"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7758\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7758"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7758"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7758"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}