{"id":7762,"date":"2021-02-24T12:15:34","date_gmt":"2021-02-24T12:15:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7762"},"modified":"2021-02-23T19:02:35","modified_gmt":"2021-02-23T19:02:35","slug":"owain-carbis","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/owain-carbis\/","title":{"rendered":"Cyfle i brentis creadigol hyrwyddo Doctor Who"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/owain-carbis\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/owain-carbis\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13193\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Owain-Carbis-Land-scaled-e1614105683683.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13193\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Owain-Carbis-Land-scaled-e1614105683683.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13193\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13193\" class=\"wp-caption-text\">Owain Carbis \u2013 prentisiaeth gyda\u2019r BBC fel gwireddu breuddwyd.<\/p><\/div>\n<p>Dychmygwch pa mor gyffrous fyddai cael cyfle i greu negeseuon i hyrwyddo cyfres deledu eiconig ar y BBC a helpu i\u2019w rheoli a chithau\u2019n ddim ond 19 oed. <\/p>\n<p>Dyna\u2019n union ddigwyddodd i Owain Carbis, bachgen dawnus o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd, yn ystod ei brentisiaeth gydag adran ddigidol a marchnata BBC Cymru. <\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 Doctor Who, bu\u2019n hyrwyddo Line of Duty, His Dark Materials, Sherlock, Luther, Our Girl a dram\u00e2u newydd eraill gan weithio gyda s\u00ear fel Michelle Keegan a Jodie Whittaker.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Owain ar y rhestr fer i ennill gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. <\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Roedd cydweithio \u00e2 th\u00eem Doctor Who fel gwireddu breuddwyd i Owain, sy\u2019n weithiwr llawrydd erbyn hyn, gan ei fod wrth ei fodd \u00e2\u2019r gyfres. Cafodd ei waith, a welwyd gan filiynau o bobl ym mhedwar ban byd, ganmoliaeth fawr gan rai o benaethiaid y BBC.<\/p>\n<p>Gwelodd dros 12 miliwn o bobl ddwsin o bosteri a grewyd gan Owain i ddathlu pen blwyddi hen rifynnau o Doctor Who. Roedd hefyd yn un o\u2019r rhai oedd yn creu ac yn cynnal y gyfres \u2018What happens next?\u2019 ar stor\u00efau Instagram BBC iPlayer, gan ymwneud \u00e2 gwylwyr selog a rhai newydd.<\/p>\n<p>Darparwyd Prentisiaeth Owain yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol gan Sgil Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg, gan roi sgiliau iddo ym maes fideo, graffeg, gwefannau a\u2019r cyfryngau cymdeithasol. Erbyn hyn, mae\u2019n defnyddio\u2019r sgiliau hynny fel gweithiwr llawrydd. <\/p>\n<p>\u201cFe wnes i gais am brentisiaeth er mwyn cael fy nhroed ar ysgol gyrfa ym myd marchnata digidol. Fy nod oedd dysgu am y gwaith oddi wrth oreuon y busnes,\u201d meddai Owain.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r ffaith eu bod nhw wedi ymddired ynof i i weithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Doctor Who \u2013 un o brif frandiau\u2019r BBC \u2013 yn dangos faint o barch sydd gan fy nghydweithwyr ataf i a phrentisiad eraill yn y busnes. Rwy wrth fy modd fy mod wedi gallu rhoi fy ngweledigaethau creadigol ar waith.\u201d <\/p>\n<p>Dywedodd Matthew Rogers, uwch-gynhyrchydd cynnwys gyda BBC Cymru: \u201cMae Owain wedi gwneud gwaith eithriadol gyda\u2019i allu ym maes graffeg a golygu fideo. Roedd bob amser yn gwneud gwaith o safon uchel ar gyfer brandiau enwog. Bu\u2019n bleser gweld ei hyder yn tyfu a datblygu.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.  <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dychmygwch pa mor gyffrous fyddai cael cyfle i greu negeseuon i hyrwyddo cyfres deledu eiconig ar y BBC a helpu i\u2019w rheoli a chithau\u2019n ddim ond 19 oed. Dyna\u2019n union ddigwyddodd i Owain Carbis, bachgen dawnus o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/owain-carbis\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7762","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7762","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7762"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7762\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7762"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7762"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7762"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}