{"id":7764,"date":"2021-02-24T12:45:04","date_gmt":"2021-02-24T12:45:04","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7764"},"modified":"2021-02-23T18:59:08","modified_gmt":"2021-02-23T18:59:08","slug":"owen-lloyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/owen-lloyd\/","title":{"rendered":"Gobaith am wobr i Owen, prentis sydd \u00e2\u2019i fryd ar ddiogelu cymunedau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/owen-lloyd\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/owen-lloyd\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13197\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Owen-Lloyd-land-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13197\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Owen-Lloyd-land-scaled-e1614106633166.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13197\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13197\" class=\"wp-caption-text\">Owen Lloyd yn brysur wrth ei waith.<\/p><\/div>\n<p>Wrth ei waith, mae Owen Lloyd yn ymdrechu i ddatrys y problemau llifogydd sy\u2019n poeni pobl Rhondda Cynon Taf a\u2019i uchelgais yw rhagori fel peiriannydd sifil.<\/p>\n<p>Mae Owen, 23, o Goed y Cwm, Pontypridd, yn gweithio i\u2019r T\u00eem Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.<\/p>\n<p>Enillodd ragoriaeth yn ei gwrs BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a\u2019r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) yng Ngholeg Pen-y-bont, gan gwblhau ei brentisiaeth o fewn blwyddyn \u2013 hanner yr amser arferol. Erbyn hyn, mae wedi dechrau ar HNC Lefel 4, a\u2019i nod yn y pen draw yw bod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.<\/p>\n<p>Mae Owen yn gobeithio cymhwyso fel technegydd (EngTech) gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) ac yntau wedi ennill Ysgoloriaeth ICE Quest ac wedi\u2019i ddyfarnu\u2019n Brentis y Flwyddyn gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus ym maes Priffyrdd a Goleuo Strydoedd fis Hydref diwethaf.<\/p>\n<p>Yn awr, mae ar y rhestr fer i ennill gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ar-lein ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. <\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Dechreuodd Owen ei brentisiaeth gyda\u2019r cyngor ym mis Medi 2018 a\u2019i fwriad oedd cael profiad gyda gwahanol adrannau. Fodd bynnag, gwnaeth y fath argraff yn ei swydd gyntaf fel iddo gael swydd technegydd llawn amser gyda\u2019r T\u00eem Rheoli Perygl Llifogydd ar \u00f4l dim ond ychydig fisoedd.<\/p>\n<p>Defnyddiodd sgiliau cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) i ddatrys llawer o broblemau posibl \u00e2 llifogydd, yn cynnwys un mewn cwlfert yn Nhreherbert. Mae wedi cael profiad o weithio mewn 25 achos o lifogydd, Storm Dennis oedd y gwaethaf, a bu\u2019n goruchwylio timau oedd yn ymateb i lifogydd a\u2019n gwneud gwaith adfer yn ardal Pentre.<\/p>\n<p>Dywedodd Owen: \u201cRwy\u2019n gweithio i\u2019r safon uchaf er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i fy nghyflogwr ac i\u2019r cyhoedd sy\u2019n dibynnu ar fy ngwaith i i\u2019w cadw nhw a\u2019u teuluoedd yn ddiogel mewn stormydd.<\/p>\n<p>\u201cMae cael y cyfle i ddysgu wrth ennill cyflog trwy\u2019r Rhaglen Brentisiaethau wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder ac wedi fy annog i anelu mor uchel ag y gallaf yn fy addysg ac yn fy ngyrfa.\u201d <\/p>\n<p>Dywedodd Owen Griffiths, rheolwr peryglon llifogydd a thomenni glo gyda\u2019r cyngor, bod Owen yn gwneud yn rhagorol yn ei swydd, bob amser yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd a\u2019i fod yn gaffaeliad i\u2019r t\u00eem.<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.  <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Wrth ei waith, mae Owen Lloyd yn ymdrechu i ddatrys y problemau llifogydd sy\u2019n poeni pobl Rhondda Cynon Taf a\u2019i uchelgais yw rhagori fel peiriannydd sifil. Mae Owen, 23, o Goed y Cwm, Pontypridd, yn gweithio i\u2019r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/owen-lloyd\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7764","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7764","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7764"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7764\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7764"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7764"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7764"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}