{"id":7767,"date":"2021-02-24T12:15:57","date_gmt":"2021-02-24T12:15:57","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7767"},"modified":"2021-02-23T19:17:35","modified_gmt":"2021-02-23T19:17:35","slug":"william-davies","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/william-davies\/","title":{"rendered":"Prentis peirianneg yn arbed \u00a320,000 y flwyddyn i\u2019w gyflogwr"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/william-davies\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/william-davies\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13202\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-William-Davies-land-scaled-e1614107498124.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13202\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-William-Davies-land-scaled-e1614107498124.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13202\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13202\" class=\"wp-caption-text\">William Davies<\/p><\/div>\n<p>Mae William Davies, sy\u2019n gweithio i Kautex Textron CVS Ltd yn Hengoed, sy\u2019n arbenigo mewn systemau gweld yn glir ar gyfer y diwydiant moduro, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Prentisiaethau Cymru 2021.<\/p>\n<p>Mae William, 20, o Lwydcoed, Aberd\u00e2r, wedi gwneud cyfraniad pwysig at y busnes rhyngwladol, gan arbed \u00a320,000 y flwyddyn i\u2019w gyflogwr trwy awtomeiddio system cydosod cynnyrch.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae wedi rhoi argraffydd newydd 3D Rapid Prototyping ar waith er mwyn helpu i ddatblygu systemau cerbydau awtonomaidd, mae wedi gwneud gwelliannau ym meysydd Iechyd a Diogelwch a chynhyrchiant ac mae wedi rheoli prosiect i adnewyddu cant\u00een a sicrhau ei fod yn ddiogel rhag Covid.<\/p>\n<p>Yn awr, mae William ar y rhestr fer i ennill gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar Ebrill 29.<\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. <\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Steve Mills, rheolwr gwaith technegol a gwelliant parhaus y cwmni, mae William yn un o\u2019r cymeriadau mwyaf eithriadol y mae wedi dod ar ei draws yn ei 25 mlynedd fel rheolwr. Canmolodd allu William i mewn nifer o wahanol feysydd, gan ddweud ei fod eisoes yn gweithio ar lefel peiriannydd gweithgynhyrchu \u00e2 gradd. <\/p>\n<p>\u201cEr iddi fod yn flwyddyn arbennig o anodd oherwydd y cyfyngiadau ar weithio, yr angen i ddysgu o bell a\u2019r addasiadau y bu\u2019n rhaid eu gwneud, mae\u2019n debygol y bydd William yn rhagori ar ein disgwyliadau unwaith eto,\u2019 meddai. <\/p>\n<p>Mae gan William restr o gymwysterau a rhagoriaethau i\u2019w enw, wedi\u2019u casglu wrth iddo ymdrechu i gyflawni ei uchelgais o fod yn beiriannydd siartredig\/cyfarwyddwr cwmni. <\/p>\n<p>Cwblhaodd Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg (Cymorth Technegol ym maes Peirianneg) chwe mis yn gynt na&#8217;r disgwyl yng Ngholeg y Cymoedd lle\u2019r enillodd ddwy wobr. Ar hyn o bryd, mae\u2019n gweithio tuag at HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Pen-y-bont.<\/p>\n<p>Dywedodd William: \u201cPenderfynais wneud prentisiaeth gan fy mod yn credu y byddai\u2019n rhoi\u2019r sgiliau, y wybodaeth a\u2019r profiad ymarferol angenrheidiol i mi i wireddu breuddwyd oes, sef bod yn beiriannydd gweithgynhyrchu, ac fe wnaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r brentisiaeth yn sicr wedi helpu i fy ngwneud yn fwy cyflogadwy ac rwy\u2019n gwthio fy hunan yn barhaus i ragori ar ddisgwyliadau fy nghyflogwr.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n anelu at berffeithrwydd ac mae gwerthoedd craidd a llwyddiant fy nghwmni yn agos iawn at fy nghalon.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.  <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae William Davies, sy\u2019n gweithio i Kautex Textron CVS Ltd yn Hengoed, sy\u2019n arbenigo mewn systemau gweld yn glir ar gyfer y diwydiant moduro, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Prentisiaethau Cymru 2021. &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/william-davies\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7767","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7767","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7767"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7767\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7767"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7767"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7767"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}