{"id":7769,"date":"2021-02-24T13:45:42","date_gmt":"2021-02-24T13:45:42","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7769"},"modified":"2021-02-23T20:55:02","modified_gmt":"2021-02-23T20:55:02","slug":"stevie-williams","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/stevie-williams\/","title":{"rendered":"Gobaith am wobr a gyrfa\u2019i breuddwydion i Stevie diolch i brentisiaethau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/stevie-williams\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/stevie-williams\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_13206\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/15.02.21-mh-App-Awards-Stevie-Williams-31-scaled-e1614113274785.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-13206\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/15.02.21-mh-App-Awards-Stevie-Williams-31-scaled-e1614113274785.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-13206\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-13206\" class=\"wp-caption-text\">Mae Stevie Williams wrth ei bodd yn ei gyrfa newydd.<\/p><\/div>\n<p>Mae Stevie Williams wedi rhoi\u2019r gorau i\u2019w swydd ym myd gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn anelu at yrfa\u2019i breuddwydion yn dysgu peirianneg, diolch i brentisiaeth.<\/p>\n<p>Cafodd Stevie, 36, o\u2019r Goetre, Port Talbot, swydd fel technegydd a hyfforddwr peirianneg fecanyddol gyda Gr\u0175p Colegau NPTC ar \u00f4l cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Peirianneg Fecanyddol mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (Lefel 2) a Chymhwyster Cysylltiedig \u00e2 Galwedigaeth (VRQ), Lefel 2, chwe mis yn gynnar.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth a VRQ Lefel 3 gan fwriadu symud ymlaen i wneud Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) a Phrentisiaeth Radd yn y dyfodol er mwyn gwireddu ei huchelgais o fod yn ddarlithydd mewn peirianneg.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Stevie wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<br \/>\nMae Stevie\u2019n gwneud ei phrentisiaethau gyda\u2019r darparwr dysgu, Pathways Training. Yn \u00f4l Lee Hughes, asesydd a chynghorydd peirianneg fecanyddol, mae\u2019n \u201cbrentis delfrydol\u201d. <\/p>\n<p>Dywed fod brwdfrydedd, ymroddiad ac aeddfedrwydd Stevie\u2019n dylanwadu ar brentisiaid eraill ac ar fyfyrwyr peirianneg eraill yng Ngr\u0175p NPTC.<\/p>\n<p>Dywedodd Lee: \u201cMae Stevie yn batrwm i bobl eraill ei ddilyn ac mae\u2019r dysgwyr eraill yn ei pharchu fel hyfforddwr. Mae\u2019n wych ei gweld yn symud ymlaen ac yn delio\u2019n dda \u00e2\u2019r holl waith.\u201d<\/p>\n<p>Dywed Stevie, sy\u2019n fam i ddau o blant, ei bod yn awyddus i gael gyrfa a fydd yn cynnal ei theulu. Yn ogystal \u00e2\u2019r brentisiaeth, mae\u2019n manteisio ar bob cyfle sy\u2019n codi i ddysgu mwy.<\/p>\n<p>\u201cMae gen i ddiddordeb mawr mewn peirianneg ac rwy\u2019n mwynhau gwaith ymarferol ond bu\u2019n nod gen i ddysgu pobl eraill erioed, ac felly roedd prentisiaeth gyda Gr\u0175p Colegau NPTC yn ddelfrydol i mi,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cErbyn hyn, rwy mewn swydd ddiogel, mewn gyrfa sydd \u00e2 rhagolygon gwych. Fyddai hynny ddim yn bosib heb fy mhrentisiaeth a chefnogaeth fy nghydweithwyr. Gobeithio y gall fy llwyddiant i ysbrydoli fy myfyrwyr.\u201d<\/p>\n<p>Mae Stevie wedi arbed dros \u00a32,000 y flwyddyn i\u2019r coleg trwy gyflwyno nifer o welliannau yn y gweithdy a bu\u2019n helpu gydag asesiadau ymarferol y myfyrwyr yn ystod y pandemig.<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.  <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Stevie Williams wedi rhoi\u2019r gorau i\u2019w swydd ym myd gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn anelu at yrfa\u2019i breuddwydion yn dysgu peirianneg, diolch i brentisiaeth. Cafodd Stevie, 36, o\u2019r Goetre, Port Talbot, swydd fel technegydd a hyfforddwr peirianneg &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/stevie-williams\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7769","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7769","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7769"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7769\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7769"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7769"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7769"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}