{"id":7771,"date":"2021-03-01T11:00:56","date_gmt":"2021-03-01T11:00:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7771"},"modified":"2021-02-27T09:27:06","modified_gmt":"2021-02-27T09:27:06","slug":"sophie-williams","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sophie-williams\/","title":{"rendered":"Sophie\u2019n newid cyfeiriad ar \u00f4l profiad o werth maethu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/sophie-williams\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sophie-williams\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7772\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Sophie-Williams-14-land-scaled-e1614417644576.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7772\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Sophie-Williams-14-land-scaled-e1614417644576.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-7772\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7772\" class=\"wp-caption-text\">Sophie Williams, wedi\u2019i hysbrydoli gan y gwasanaeth maethu.<\/p><\/div>\n<p>Ar \u00f4l graddio, bwriad Sophie Williams oedd mynd yn athrawes. Yna, gwelodd y lles y mae maethu\u2019n gallu ei wneud i fywydau plant a\u2019u rhieni biolegol, sy\u2019n cael cyfle i roi trefn ar eu bywydau.<\/p>\n<p>Cafodd Sophie brofiad o werth maethu pan ddechreuodd ei mam, Lesley, gymryd plant maeth a gwnaeth hynny iddi benderfynu ceisio bod yn weithiwr cymdeithasol.<\/p>\n<p>Roedd Sophie, 24, sy\u2019n byw yn Hirwaun, wedi graddio mewn Ffrangeg a Sbaeneg o Brifysgol Abertawe a\u2019i bwriad oedd anelu at Dystysgrif Addysg i Raddedigion.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, newidiodd ei meddwl a mynd yn brentis yn adran Faethu Cyngor Rhondda Cynon Taf ym mis Medi 2019 ac, yn ddiweddar, cafodd ei dyrchafu\u2019n swyddog recriwtio rhanbarthol.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Sophie wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Yn ystod ei chyfnod gyda\u2019r cyngor, bu Sophie\u2019n trafod gyda phobl sy\u2019n dymuno bod yn rhieni maeth ac yn ymweld \u00e2 nhw. Bu hefyd yn paratoi llyfrau taith bywyd ar gyfer plant maeth, i\u2019w helpu i ddeall pam y maen nhw mewn gofal. Bu ar secondiad hefyd, yn gofalu am blant bregus a phlant heriol yn y gwasanaethau preswyl. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes, a drefnwyd gan Goleg y Cymoedd, gobaith Sophie yw mynd yn \u00f4l i\u2019r brifysgol yn y dyfodol i wneud Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol.<\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd yn gweithio ym maes maethu,\u201d meddai. \u201cAr \u00f4l gweld drosof fy hunan faint o les y gall cariad a gofal ei wneud i blant maeth, roeddwn i\u2019n awyddus i weithio yn y gwasanaeth a cheisio annog rhagor o bobl i ystyried maethu.<\/p>\n<p>\u201cMae fy mhrentisiaeth wedi rhoi cyfle i mi gael swydd lawn amser, ennill cymwysterau a gweld y gwahanol agweddau ar waith cymdeithasol.\u201d <\/p>\n<p>Dywedodd Alastair Cope, rheolwr datblygu rhanbarthol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fod Sophie\u2019n \u201cysbrydoliaeth\u201d ac roedd yn llawn canmoliaeth i\u2019r ffordd y mae\u2019n cefnogi pobl ifanc sydd mewn gofal.<\/p>\n<p>\u201cMae wedi cyflawni llawer iawn mewn amser byr,\u201d meddai. \u201cHeb gefnogaeth Sophie a\u2019i pharodrwydd i daclo unrhyw dasg, gallem fod wedi cael trafferth cynnal rhai o\u2019n gwasanaethau yn ystod y pandemig.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.  <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<\/p>\n<p>\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Ar \u00f4l graddio, bwriad Sophie Williams oedd mynd yn athrawes. Yna, gwelodd y lles y mae maethu\u2019n gallu ei wneud i fywydau plant a\u2019u rhieni biolegol, sy\u2019n cael cyfle i roi trefn ar eu bywydau. Cafodd Sophie &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/sophie-williams\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7771","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7771","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7771"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7771\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7771"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7771"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7771"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}