{"id":7776,"date":"2021-03-01T11:45:59","date_gmt":"2021-03-01T11:45:59","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=7776"},"modified":"2021-02-27T09:37:18","modified_gmt":"2021-02-27T09:37:18","slug":"connor-paskell","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/connor-paskell\/","title":{"rendered":"Gyrfa Connor yn codi\u2019n uchel diolch i brentisiaeth gyda BAAE"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/connor-paskell\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/connor-paskell\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_7773\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Connor-Paskell-42-land-scaled-e1614417694528.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-7773\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Press-pic-Connor-Paskell-42-land-scaled-e1614417694528.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-7773\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-7773\" class=\"wp-caption-text\">Connor Paskell, sy\u2019n arbed amser ac arian i BAAE.<\/p><\/div>\n<p>Mae gyrfa Connor Paskell wedi codi\u2019n uchel ers iddo gychwyn prentisiaeth gyda British Airways Avionic Engineering (BAAE) yn Llantrisant.<\/p>\n<p>Roedd Connor, 21, sy\u2019n byw yn Llantrisant, yn awyddus i gychwyn gyrfa mewn peirianneg ond, am na ddaeth ar draws agoriad addas, dechreuodd weithio mewn meithrinfa plant bach.<\/p>\n<p>Gan ei fod yn dal yn benderfynol o wireddu ei freuddwyd, aeth ar gwrs peirianneg llawn-amser yng Ngholeg y Cymoedd tra oedd yn gweithio rhan-amser yn y feithrinfa. Talodd ei ymroddiad ar ei ganfed iddo, gan iddo ennill cymhwyster Peirianneg Uwch BTEC \u00e2 rhagoriaeth ac ennill gwobr Prentis Peirianneg y Flwyddyn yn y Coleg.<\/p>\n<p>Ymunodd Connor \u00e2 BAAE yn 2018 a disgwylir iddo gwblhau ei brentisiaeth fel peiriannydd awyrennau ym mis Awst. Ar \u00f4l ennill nifer o gymwysterau, yn cynnwys Prentisiaeth mewn Peirianneg Drydanol, mae\u2019n gobeithio symud ymlaen i wneud HNC ar \u00f4l pandemig Covid-19.<\/p>\n<p>Oherwydd ei lwyddiant, mae Connor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. <\/p>\n<p>Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau\u2019r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.<\/p>\n<p>Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy\u2019n frwd o blaid prentisiaethau, yw\u2019r prif noddwr eleni eto.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae Connor yn helpu i brofi, archwilo ac atgyweirio gwahanol fathau o unedau ac offer a osodir ar awyrennau ac mae wrth ei fodd \u00e2 phrosiectau fel un lle bu\u2019n casglu darnau oedd yn dal i weithio o unedau y rhoddwyd y gorau i\u2019w defnyddio \u2013 roedd y darnau a arbedwyd yn werth dros filiwn o bunnau. <\/p>\n<p>Gall ddweud iddo weithio ar y pecyn bolltiau injan olaf erioed ar gyfer awyren British Airways 747 cyn iddynt roi\u2019r gorau i ddefnyddio\u2019r awyren honno y llynedd.<\/p>\n<p>Mae Connor yn fentor i brentisiaid eraill ac mae\u2019n edrych ymlaen at barhau \u00e2\u2019i daith ddysgu pan fydd BAAE a British Airways Interiors Engineering yn symud i British Airways Maintenance, Caerdydd.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n mwynhau darganfod ffyrdd o arbed amser ac arian i\u2019r cwmni ac rwy\u2019n awyddus i ymdrechu i ddysgu pethau newydd ac adeiladu ar y sylfaen y mae fy mhrentisiaeth a BA wedi\u2019i rhoi i mi,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l dod dros fy swildod, rwy wedi gallu disgleirio a s\u00f4n am fy syniadau ar gyfer gwella effeithlonrwydd, arferion gweithio a\u2019r diwylliant yn BAAE, yn ogystal \u00e2 helpu\u2019r cwmni i gyrraedd ei dargedau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Martine Roles, rheolwr adnoddau dynol gyda BAAE yn Llantrisant: \u201cMae Connor wedi dod yn rhan bwysig o\u2019r busnes yn ystod ei brentisiaeth ac ef yw\u2019r dewis cyntaf i weithio ar nifer o brosiectau. Mae\u2019n anelu at berffeithrwydd ac yn ei gyrraedd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: \u201cMae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.  <\/p>\n<p>\u201cBu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.<br \/>\n\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i  ddarparwyr dysgu medrus.<br \/>\n\u201cHoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno\u2019n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae gyrfa Connor Paskell wedi codi\u2019n uchel ers iddo gychwyn prentisiaeth gyda British Airways Avionic Engineering (BAAE) yn Llantrisant. Roedd Connor, 21, sy\u2019n byw yn Llantrisant, yn awyddus i gychwyn gyrfa mewn peirianneg ond, am na ddaeth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/connor-paskell\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-7776","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7776","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7776"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7776\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7776"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7776"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7776"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}